- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Gwnaed
29 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ebrill 2008
Yn dod i rym
22 Mai 2008
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008. Deuant i rym ar 22 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006, a ddiwygiwyd eisoes(3) yn unol â rheoliad 3.
3. Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£24.00” rhodder “£25.00”.
4. Drwy hyn dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008(4).
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
29 Ebrill 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008 (“Rheoliadau 2008”). Mae Rheoliadau 2008 yn diwygio ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) er mwyn cynyddu'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o Reoliadau 2006.
Y ffi a ragnodwyd yn wreiddiol yn Rheoliadau 2006 oedd £21. Newidiwyd y ffi i £24 ym Mehefin 2007 gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007 Rhif 1713 (Cy150)), ac yn awr fe'i cynyddir i £25.
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 75 a 104(1) eu trosglwyddo, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Amnewidiwyd adran 75 yn rhagolygol gan adran 58(2) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau 75 a 104(1) dywededig eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2006/1532 (Cy.150). Cafodd y Rheoliadau hyn eu diwygio gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/1713 (Cy.150) (p.32)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: