Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1213 (Cy.121)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

29 Ebrill 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ebrill 2008

Yn dod i rym

22 Mai 2008

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008. Deuant i rym ar 22 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006

2.  Diwygir ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006, a ddiwygiwyd eisoes(3) yn unol â rheoliad 3.

3.  Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£24.00” rhodder “£25.00”.

Dirymu Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008

4.  Drwy hyn dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008(4).

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

29 Ebrill 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008 (“Rheoliadau 2008”). Mae Rheoliadau 2008 yn diwygio ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) er mwyn cynyddu'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o Reoliadau 2006.

Y ffi a ragnodwyd yn wreiddiol yn Rheoliadau 2006 oedd £21. Newidiwyd y ffi i £24 ym Mehefin 2007 gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007 Rhif 1713 (Cy150)), ac yn awr fe'i cynyddir i £25.

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 75 a 104(1) eu trosglwyddo, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Amnewidiwyd adran 75 yn rhagolygol gan adran 58(2) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau 75 a 104(1) dywededig eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 2006/1532 (Cy.150). Cafodd y Rheoliadau hyn eu diwygio gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/1713 (Cy.150) (p.32)).