xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 6(1)

ATODLEN 2Materion sy'n berthnasol i Dreuliau Refferendwm

1.  Hysbysebion o unrhyw fath (beth bynnag fo'r cyfrwng).

Mae treuliau ar gyfer y cyfryw hysbysebion yn cynnwys ffioedd asiantaethau, costau dylunio, a chostau eraill mewn cysylltiad â pharatoi, cynhyrchu, dosbarthu neu sydd fel arall yn lledaenu'r cyfryw hysbysebion neu unrhyw beth sy'n ymgorffori'r cyfryw hysbysebion hynny ac a fwriedir ei ddosbarthu at y diben o'u lledaenu.

2.  Deunydd digymell a gyfeirir at bleidleiswyr (p'un ai wedi ei gyfeirio atynt wrth eu henwau neu wedi ei fwriadu i'w ddanfon i aelwydydd o fewn unrhyw ardal neu ardaloedd penodol).

Mae treuliau mewn perthynas â'r cyfryw ddeunyddiau yn cynnwys y costau dylunio a chostau eraill mewn cysylltiad â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu'r cyfryw ddeunyddiau (gan gynnwys cost eu postio).

3.  Unrhyw ddeunyddiau o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 5(1).

4.  Ymchwil y farchnad neu ganfasio a gynhelir at y diben o ganfod bwriadau pleidleisio.

5.  Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau mewn cysylltiad â chynadleddau i'r wasg neu drafodion eraill gyda'r cyfryngau.

6.  Cludo (drwy ba ddull bynnag) pobl i unrhyw le neu leoedd gyda'r bwriad o ennill cyhoeddusrwydd mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm.

Mae'r treuliau ar gyfer cludo'r cyfryw bobl yn cynnwys y gost o logi math penodol o gludiant ar gyfer y cyfan neu ran o gyfnod y refferendwm.

7.  Ralïau a digwyddiadau eraill, gan gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir i gael cyhoeddusrwydd mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm neu at ddibenion eraill sy'n ymwneud ag ymgyrch refferendwm.

Mae'r treuliau ar gyfer y cyfryw ddigwyddiadau yn cynnwys costau mewn cysylltiad â phresenoldeb pobl mewn digwyddiadau o'r fath, llogi mangreoedd at ddibenion y cyfryw ddigwyddiadau hynny neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt.

8.  Ni ddylid dehongli unrhyw beth ym mharagraffau 1 i 7 i olygu ei fod a wnelo ag—

(a)unrhyw dreuliau o ran unrhyw eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau i'r graddau y mae'r treuliau hynny i'w talu o gyllid cyhoeddus;

(b)unrhyw dreuliau a dynnir o ran tâl neu lwfansau sy'n daladwy i unrhyw aelod o staff trefnydd yr ymgyrch;

(c)unrhyw dreuliau a dynnir mewn perthynas ag unigolyn o ran costau teithio (ar ba bynnag ddull cludiant) neu o ran darparu llety neu unrhyw anghenion personol eraill ar gyfer yr unigolyn hwnnw i'r graddau y telir y treuliau gan yr unigolyn o'i adnoddau ei hunan heb iddo gael ad-daliad ohonynt.