Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw—
os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a
os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys—
methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad neu swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu
rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.
Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.