Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Gwnaed
22 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Chwefror 2008
Yn dod i rym
12 Mai 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(2), 95A(5), 97 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1) (a pharagraffau 2, 4(1), 5(2), 8(a) a 9(b) o Atodlen 4B iddi) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y rheoliadau a ganlyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2008. Deuant i rym ar 12 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn y testun Cymraeg, yn Rheoliad 5(3), rhodder y gair “brintiedig” yn lle'r gair “brintiadwy”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008.
Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad 5(3) o ran y testun Cymraeg yn unig, gan roi yn lle'r gair “brintiadwy” y gair “brintiedig”.
1991 (p.22.) Mewnosodir adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18) (“Deddf 2004”), adran 41 ac Atodlenni 2 a 3. Amnewidiwyd adran 97 yn rhagolygol gan adran 64(4) o Ddeddf 2004. Yn rhinwedd paragraff 26 o Atodlen 11 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru gael cydsyniad y Trysorlys i arfer swyddogaethau o dan baragraff 8(a) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio swyddogaethau o dan adran 167(3)) o dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 1991 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).