2008 Rhif 540 (Cy.52)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adrannau 48(2), 49(5), 53(1), (2), (3) a (6), 54(1), (2), (3), (4), (4A), a (4B), 55(1), (2), (3), (7) a (8), 56(2), 56A(4), 57(2) a (3), 58(1), (2), (3), (4), (5), (7) a (7A), 58A, 62(1), 63(2), 64(1) a 2, 70(3) (b), (4A) a (4B), 97, 104(1) a (3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 a pharagraffau 1(2), 2 (2), (3), (4)(f) a (5), 3(5)(b), 4(4) a (5) a 5(2)(c), (3) a (4) o Atodlen 3A iddi 1 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008; deuant i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 19922

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 19, diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 19923 fel a ganlyn.

2

Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder y rheoliad canlynol—

Cymhwyso1A

Dirymir y Rheoliadau hyn mewn perthynas â Chymru.

Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “amser sy'n sensitif i draffig” (“traffic-sensitive time”), mewn perthynas â stryd sy'n sensitif i draffig yw—

    1. a

      yn achos dynodiad cyfyngedig, yr adegau neu'r dyddiadau a bennir; a

    2. b

      mewn unrhyw achos arall, unrhyw adeg;

  • ystyr “categori o ffordd” (“road category”) yw un o'r categorïau o ffyrdd a bennir ym mharagraff 1.3.1 o Bennod S1 o Gôd Ymarfer 2006 rhif 72, sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd” dyddiedig Tachwedd 2006 ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Ionawr 2007.

  • ystyr “cofrestr gwaith stryd” (“street works register”) yw cofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod strydoedd ei chadw yn ôl adran 53 o Ddeddf 1991;

  • ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19844;

  • ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

  • ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod gwaith;

  • ystyr “dynodiad cyfyngedig” (“limited designation”) yw dynodiad yn unol â rheoliad 16(3) am adegau penodol neu ar ddyddiadau penodol;

  • ystyr “y Fanyleb Dechnolegol” (“the Technical Specification”) yw'r Fanyleb Dechnolegol ar gyfer Trosglwyddo Hysbysiadau yn Electronig a luniwyd gan Yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig 5 Gorffennaf 2007 fel y'i hadolygwyd neu y'i hail ddyroddwyd o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “gwaith brys” (“urgent works”) yw—

    1. a

      gwaith stryd, ac eithrio gwaith argyfwng, y mae'n angenrheidiol eu gwneud ar yr adeg pan gânt eu gwneud (neu y cred y person sy'n gyfrifol am y gwaith ar seiliau rhesymol bod angen eu gwneud) —

      1. i

        er mwyn atal neu ddwyn i ben unrhyw ymyrraeth annisgwyl â chyflenwad neu wasanaeth a ddarperir gan ymgymerwr;

      2. ii

        er mwyn osgoi colled sylweddol i ymgymerwr mewn perthynas â gwasanaeth cyfredol; neu

      3. iii

        er mwyn ail gysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai'r ymgymerwr dan atebolrwydd sifil neu droseddol petai'r ail gysylltu yn cael ei ddal yn ôl hyd nes i'r cyfnod hysbysu priodol ddod i ben; a

    2. b

      mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu oddi wrth waith o'r fath.

  • ystyr “gwaith disymwth” (“immediate works”) yw gwaith brys neu waith argyfwng;

  • ystyr “gwaith pwysig” (“major works”) yw—

    1. a

      gwaith stryd a ddynodwyd yn rhaglen weithredol flynyddol ymgymerwr, neu er nas dynodwyd yn benodol mewn rhaglen o'r fath, y byddid fel rheol yn ei gynllunio neu yn dod yn ymwybodol ohono o leiaf chwe mis cyn y dyddiad arfaethedig ar gyfer y gwaith;

    2. b

      gwaith stryd ac eithrio gwaith disymwth

      1. i

        pan fo'r awdurdod stryd wedi crybwyll wrth ymgymerwr; neu

      2. ii

        pan fo ymgymerwr o'r farn

      fod angen gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984 (gwaharddiad neu gyfyngiad dros dro ar ffyrdd); neu

    3. c

      gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth, y cynlluniwyd iddynt gymryd mwy na deng niwrnod;

  • ystyr “gwaith safonol” (“standard works”) yw gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth neu waith pwysig, y cynlluniwyd iddo gymryd mwy na thri diwrnod ond dim mwy na deng niwrnod.

  • ystyr “mân weithiau” (“minor works”) yw gwaith stryd ac eithrio gwaith disymwth neu waith pwysig, na chynlluniwyd iddynt gymryd mwy na thri diwrnod;

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 20025;

  • ystyr “stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig” (“street with special engineering difficulties”) yw stryd a ddynodwyd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 o Ddeddf 1991;

  • ystyr “stryd sy'n sensitif i draffig” (“traffic-sensitive street”) yw stryd a ddynodwyd yn un sy'n sensitif i draffig o dan adran 64 o Ddeddf 1991; ac

  • ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw person sydd â hawl yn rhinwedd hawl statudol i wneud gwaith stryd.

2

Oni bai bod darpariaeth benodol wahanol, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf 1991.

Cofrestrau gwaith stryd4

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 13 ac i'r gofynion a osodir ym mharagraffau (2) a (3), rhaid i gofrestrau gwaith stryd gael eu cadw mewn modd fydd yn galluogi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau (4) a (5), ynglŷn â stryd benodol, i gael ei holrhain.

2

Rhaid i bob cofrestr—

a

fod wedi'i mynegeio;

b

heb fod yn ddiweddarach na 1 Ebrill 2009, fod yn seiliedig ar system wybodaeth ddaearyddol; ac

c

ddynodi'r awdurdod priffyrdd mewn perthynas â phob stryd yn ardal yr awdurdod sy'n briffordd a gynhelir.

3

Rhaid i bob cofrestr a gedwir gan awdurdod priffyrdd lleol fod ar ffurf sydd yn cydymffurfio â'r system o gyfeirnodi strydoedd a bennir yn Rhan I o'r cyhoeddiad a ddyroddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 1 Awst 2006 dan yr enw: “Spatial data sets for geographical referencing — specification for a street gazetteer” o dan gyfeirnod Rhif BS 7666-1 20066 fel y'i hadolygwyd neu y'i hail ddyroddwyd o bryd i'w gilydd,

4

Caiff yr wybodaeth mewn perthynas â gwaith stryd sydd i ymddangos ar y gofrestr a'r person, ymhob achos, sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru, eu pennu yng ngholofnau (1) a (2) yn eu trefn o'r Tabl a ganlyn.

Tabl

(1) Gwybodaeth

(2) Y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru

1.

Manylion pob hysbysiad o dan adrannau 54, 55 a 57 a gyflwynwyd i'r awdurdod priffyrdd ynglŷn â gwaith stryd mewn unrhyw stryd sy'n briffordd a gynhelir.

Yr ymgymerwr perthnasol.

2.

Manylion pob hysbysiad o dan adrannau 54, 55 a 57 a gyflwynwyd i reolwyr strydoedd ynglŷn â gwaith stryd mewn unrhyw stryd nad yw'n briffordd a gynhelir.

Yr ymgymerwr perthnasol.

3.

Manylion pob cyfarwyddyd a roddwyd o dan adrannau 56 a 56A.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

4.

Manylion pob hysbysiad, cydsyniad a chyfarwyddyd a gyhoeddwyd neu a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adrannau 58 a 58A.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

5.

Manylion pob hysbysiad a wnaed gan ymgymerwr o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991.

Yr ymgymerwr perthnasol.

6.

Manylion pob hysbysiad a gyflwynwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 66.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

7.

Gwybodaeth o dan adran 70(3) a (4A) ynglŷn â chwblhau gwaith adfer.

Yr ymgymerwr perthnasol.

8.

Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 72(3).

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

9.

Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan ymgymerwr o dan adran 74.

Yr ymgymerwr perthnasol.

10.

Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 74

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

11.

Disgrifiad o waith stryd y cyflwynwyd planiau a thrychluniau ar ei gyfer o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991 a'i leoliad.

Yr ymgymerwr perthnasol.

12.

Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan unrhyw awdurdod perthnasol o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991.

Yr awdurdod perthnasol.

5

Caiff yr wybodaeth mewn perthynas â mathau eraill o waith a materion eraill sydd i ymddangos ar y gofrestr a'r person, ymhob achos, sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru, eu pennu yng ngholofnau (1) a (2) yn eu trefn o'r Tabl a ganlyn.

Tabl

(1) Gwybodaeth

(2) Y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru

1.

Pob stryd y mae'r awdurdod priffyrdd lleol yn awdurdod strydoedd drosti.

Yr awdurdod priffyrdd lleol.

2.

Pob stryd sydd yn briffordd a gynhelir yn rhagolygol

Yr awdurdod priffyrdd lleol.

3.

Pob stryd y mae'r awdurdod priffyrdd lleol yn ymwybodol ohoni sydd yn briffordd, ond nad yw'r awdurdod hwnnw yn awdurdod strydoedd drosti.

Yr awdurdod priffyrdd lleol.

4.

Pob stryd

  1. a

    sydd —

    1. i

      yn stryd a warchodir7;

    2. ii

      yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu

    3. iii

      yn stryd sy'n

    sensitif i draffig, gan gynnwys, pan fydd yn briodol, fanylion y rhannau o'r stryd a ddynodwyd felly ac, yn achos stryd sy'n sensitif i draffig, unrhyw ddynodiad cyfyngedig; neu

  2. b

    y bwriedir ei dynodi felly.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

5.

Disgrifiad, amseriad a lleoliad gwaith at ddibenion ffyrdd a gwaith pwysig priffyrdd sy'n golygu —

  1. a

    darnio'r briffordd;

  2. b

    agor cerbytffordd stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sy'n sensitif i draffig; neu

  3. c

    lleihau lled y gerbytffordd sydd ar gael i draffig cerbydol—

    1. i

      o un neu fwy o lonydd traffig;

    2. ii

      o fwy na thraean mewn achos lle nad oes lonydd o'r fath; neu

    3. iii

      o unrhyw led mewn stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sensitif i draffig, ac unrhyw waith o'r fath y bwriedir ei wneud.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

6.

Manylion pob cydsyniad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 61 gyda manylion unrhyw amodau.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

7.

Manylion pob cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 62.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

8.

Manylion trwyddedau gwaith stryd, gan gynnwys manylion amodau a newidiadau mewn perchenogaeth.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

9.

Manylion yr offer yr hysbyswyd yr awdurdod strydoedd ohono o dan adran 80(2).

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.

10.

Pob hysbysiad o waith o dan adran 85(2)

Yr awdurdod perthnasol.

11.

Manylion cau ffyrdd a gwyriadau pan fo angen gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984.

Yr awdurdod priffyrdd.

12.

Categori ffordd pob stryd.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol

6

Mae gwybodaeth o'r mathau a ganlyn yn wybodaeth gyfyngedig at ddibenion adran 53(3);

a

gwybodaeth a gafodd ei ardystio gan neu a awdurdodwyd drwy yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu gwarchod diogelwch gwladol, neu'n debygol o wneud hynny, a

b

gwybodaeth a gafodd ardystiad neu awdurdodiad ymgymerwr ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu buddiannau masnachol yr ymgymerwr hwnnw, neu'n debygol o wneud hynny.

7

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “lôn draffig” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “traffic lane” yn rheoliad 4 o Reoliadau 2002 ac mae'n cynnwys llain galed.

  • mae i “llain galed” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “hard shoulder” o dan reoliad 4 o Reoliadau 2002 ac mae'n cynnwys o ran unrhyw briffordd nad yw'n draffordd unrhyw lain galed a luniwyd i gymryd pwysau cerbyd ac y mae ei ochr dde neu ei ymyl bellaf wedi'i ddynodi ag arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 1012.3 yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny;

  • ystyr “y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru” (“person responsible for securing registration”) mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth, yw'r person sydd â'r cyfrifoldeb dros drosglwyddo'r cyfryw wybodaeth i'r awdurdod strydoedd i'w gofrestru yn y gofrestr gwaith stryd;

  • ystyr “system wybodaeth ddaearyddol” (“geographical information system”) yw system ar gyfer dal, storio, gwirio, integreiddio, manipiwleiddio, dadansoddi ac arddangos data sy'n gysylltiedig â phwyntiau ar wyneb y Ddaear; ac

  • mae i “traffordd” yr un ystyr ag sydd i “motorway” o dan reoliad 4 o Reoliadau 2002.

Hysbysiad rhagnodedig5

1

Rhaid i unrhyw hysbysiad at ddibenion adran 54, 55, 57, 58, 58A 66, 70 neu 72(3) fod yn y ffurf a geir yn y Fanyleb Dechnolegol neu mewn ffurf cyffelyb.

2

Rhaid i hysbysiad at ddibenion adran 54, 55, 57 neu 58A hefyd gynnwys, yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad gan Ddeddf 1991, unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol gan y fanyleb honno i gwblhau'r rhannau o'r ffurflen y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) y dangosir ar y ffurflen honno ei bod yn berthnasol i'r hysbysiad.

3

Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi neu yr awdurdodir ei roi at ddibenion unrhyw ddarpariaeth arall o Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio adran 74 neu Atodlen 4B o'r Ddeddf honno, fod yn ysgrifenedig, fod yn cyfeirio at y ddarpariaeth yn y Ddeddf y'i gwneir oddi tani ac, yn ddarostyngedig i'r uchod, caiff fod mewn unrhyw ffurf.

Dull cyflwyno hysbysiadau6

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (5) a (7), pan fo ymgymerwr dan rwymedigaeth, o dan Ran III o Ddeddf 1991, i roi hysbysiad o fewn cyfnod penodol fod gwaith wedi ei ddechrau, ac eithrio o dan adran 74, rhaid rhoi hysbysiad o'r fath—

a

drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo at ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);

b

drwy ei ddanfon at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw; neu

c

drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.

2

Os nad oes gan berson y mae ymgymerwr dan rwymedigaeth i roi hysbysiad o'r fath iddo drefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i hysbysiadau am unrhyw gyfnod rhwng 4.30pm ac 8.00am y diwrnod wedyn, bydd yr ymgymerwr wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth os bydd yn cyflwyno hysbysiad erbyn 10.00am ar y diwrnod canlynol hwnnw.

3

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), mewn unrhyw achos arall pan fo'n ofynnol i berson roi hysbysiad neu yr awdurdodir person i'w roi o dan Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio o dan adran 74 neu Atodlen 4B o'r Ddeddf honno, rhaid rhoi hysbysiad o'r fath —

a

drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);

b

drwy ei anfon ato drwy'r post dosbarth cyntaf yn y cyfeiriad hwnnw;

c

drwy ei ddanfon iddo;

ch

drwy ei adael yn ei gyfeiriad priodol; neu

d

drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.

4

Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) a (3)(a) yw bod rhaid—

a

bod modd i'r person yr anfonir ef ato gael at yr hysbysiad;

b

bod yr hysbysiad yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol; ac

c

bod yr hysbysiad mewn ffurf sy'n caniatáu iddo gael ei gadw er mwyn cyfeirio ato'n ddiweddarach,

ac at y diben hwn, ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw i'r un graddau ag y byddai pes rhoddasid ar ffurf hysbysiad wedi'i argraffu.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), o 1 Ebrill 2009 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid cyfnewid pob hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi dan Ran III o Ddeddf 1991 gan awdurdod strydoedd neu gan ymgymerwr statudol, ac eithrio hysbysiadau o dan Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, rhwng un awdurdod strydoedd ac un arall, rhwng un ymgymerwr statudol ac un arall, a rhwng awdurdod strydoedd ac ymgymerwr statudol gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4).

6

Yn ddarostyngedig i adran 98(2) (cyfrifo cyfnodau), os defnyddir cyfathrebiad electronig at ddibenion cyflwyno hysbysiad, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad wedi'i roi ar y diwrnod ac ar yr adeg a gofnodir gan yr offer trosglwyddo fel dyddiad ac adeg cwblhau'r trosglwyddiad yn foddhaol.

7

Os, ar ôl tri chynnig (a gofnodwyd yn briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i gyflwyno'r hysbysiad drwy ddefnyddio un dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, na ellir cyflwyno'r hysbysiad, gellir rhoi'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y mae i'w roi iddo mewn unrhyw ddull arall o'r fath ag y mae iddo gyfeiriad priodol neu drwy unrhyw un o'r dulliau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (3).

8

Yn ddarostyngedig i baragraff (9), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i'w roi iddo fydd—

a

os yw'r cyfryw berson—

i

wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o dan Ddeddf 1991, ac eithrio hysbysiadau o dan adran 74 neu Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, drwy ddefnyddio dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig; a

ii

nad yw wedi hysbysu'r olaf fod y cyfeiriad hwnnw wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw,

y cyfeiriad hwnnw o ran y dull hwnnw o drosglwyddo;

b

os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy'r post, y cyfeiriad hwnnw o ran cyflwyno drwy'r post,

c

os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy unrhyw ddull arall, y cyfeiriad hwnnw o ran y cyfryw ddull arall; ac

ch

fel arall

i

yn achos corfforaeth, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gorfforaeth; a

ii

mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.

9

Caiff person ddarparu cyfeiriadau gwahanol ar gyfer hysbysiadau gwahanol neu hysbysiadau o ddosbarthiadau gwahanol.

10

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 20008; ac

  • ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion y cyfryw ddull o drosglwyddo.

Dull cyflwyno copïau o hysbysiadau7

Pan fo'n ofynnol rhoi copi o hysbysiad o dan Ran III o Ddeddf 1991, bydd darpariaethau rheoliad 6(3) i (10) yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys i roi hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.

Hysbysiad ymlaen llaw o waith8

1

At ddibenion adran 54, rhaid i ymgymerwr roi dim llai na thri mis o hysbysiad ymlaen llaw o waith pwysig ac eithrio pan fo gwaith o'r fath—

a

yn ddarostyngedig i hysbysiad o dan adran 55(1) a roddwyd yn unol â rheoliad 9(3) ac na roddwyd hysbysiad eisoes ohonynt o dan y paragraff hwn; neu

b

wedi ei hysbysu o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991.

2

At ddibenion adran 54(4A), y cyfnod a ragnodir fydd 2 ddiwrnod yn dechrau gyda'r dyddiad cychwyn a bennir yn yr hysbysiad.

3

At ddibenion adran 54(4B) y cyfnod a ragnodir fydd 15 niwrnod.

Hysbysiad o ddyddiad cychwyn gwaith9

1

Yn ddarostyngedig i baragraff 2(6) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991 a pharagraffau (3), (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, rhaid i ymgymerwr sy'n bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd o gategori a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl rhoi cyfnod o hysbysiad o ran y categori hwnnw o ddim llai na'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2.

Tabl

(1)

(2)

Categori o waith

Y cyfnod

Gwaith pwysig

10 diwrnod

Gwaith safonol

10 diwrnod

Mân weithiau

3 diwrnod

2

Yn ddarostyngedig i reoliad 6(2) a pharagraffau (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, pan fo ymgymerwr yn bwriadu gwneud gwaith brys mewn unrhyw stryd, rhaid iddo roi hysbysiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn dwy awr o fod wedi dechrau ar y gwaith.

3

Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), pan fo ymgymerwr —

a

wedi cael hysbysiad o dan adran 58(1) yn cyfyngu ar waith stryd yn y dyfodol yn sgil gwaith ffordd sylweddol;

b

yn bwriadu dechrau gwneud —

i

gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth, cyn i'r cyfyngiad ddod i rym; neu

ii

gwaith stryd, ac eithrio gwaith a ganiateir o dan adran 58(5), sy'n golygu darnio rhan o'r briffordd y bydd y cyfyngiad yn gymwys iddo, neu dwnelu neu dyllu oddi tani, tra bo'r cyfyngiad yn weithredol; ac

c

nad yw eisoes wedi rhoi hysbysiad o ran y gwaith hwnnw yn unol â pharagraff (1),

rhaid iddo, at ddibenion adran 55, roi hysbysiad o'r hyn y bwriada ei wneud ddim mwy na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad o dan adran 58(1).

4

At ddibenion adran 55(7), y cyfnod a ragnodir yw —

a

5 niwrnod pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â gwaith pwysig neu waith safonol; a

b

2 ddiwrnod pan fo'n ymwneud â mân weithiau.

5

At ddibenion adran 55(8), y cyfnod a ragnodir yw 2 ddiwrnod yn dechrau gyda'r dyddiad pan fydd yr hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol.

6

Nid oes angen rhoi hysbysiad o dan adran 55(1) pan fo ymgymerwr yn bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd

a

mewn stryd nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig;

b

ar droetffordd stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sy'n sensitif i draffig; neu

c

mewn stryd sy'n sensitif i draffig, ar adeg nad yw'n sensitif i draffig,

os nad yw'r gwaith yn golygu darnio'r stryd neu dwnelu neu dyllu oddi tani.

7

Nid yw'n ofynnol i ymgymerwr statudol roi hysbysiad o dan adran 55(1) i unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni bai bod y cyfryw berson wedi gofyn am hysbysiad o'r fath.

8

Mae is-baragraff (7) yn gymwys i —

a

unrhyw ymgymerwr statudol sydd ag offer yn y stryd y mae'r gwaith yn debygol o effeithio arno; a

b

unrhyw berson y byddai ganddo fel arall hawl i gael hysbysiad o'r fath yn rhinwedd fod ganddo yn y stryd ran o bibell wasanaeth yn gorwedd rhwng ffin y stryd a'r stopfalf ar y cyfryw bibell yn y stryd honno neu fod ganddo draen yn y stryd honno.

9

Ym mharagraff (8) mae i “draen”, “pibell wasanaeth ” a “stopfalf” yr un ystyr ag sydd i “drain”, “service pipe” a “stopcock” yn Neddf y Diwydiant Dwr 19919.

Y weithdrefn ar gyfer rhoi cyfarwyddiadau o dan adran 56 neu 56A10

1

Rhaid i bob cyfarwyddyd o dan adran 56(1) neu 56A gael ei roi drwy roi i'r ymgymerwr gopi o'r hysbysiad sy'n ymwneud â'r gwaith a roddir gan yr ymgymerwr hwnnw yn unol â rheoliad 8, neu os nad oes hysbysiad o'r fath yn ofynnol, yn unol â rheoliad 9; gyda'r copi wedi ei ardystio â thelerau'r cyfarwyddyd.

2

Rhaid i gyfarwyddyd o dan adran 56(1A) gael ei roi drwy roi i'r ymgymerwr gopi o'r hysbysiad o ddechrau ar y gwaith a roddir gan yr ymgymerwr hwnnw o dan adran 74(5C); gyda'r copi wedi ei ardystio â thelerau'r cyfarwyddyd.

3

O ran hysbysiad o dan reoliad 8 ni fydd cyfarwyddyd o dan adran 56(1) a'r cyntaf o unrhyw gyfarwyddiadau o dan adran 56A yn effeithiol os caiff ei roi fwy na mis ar ôl i'r awdurdod strydoedd gael yr hysbysiad.

4

O ran hysbysiad yn unol â rheoliad 9(1) neu (2), cyfarwyddyd o dan adran 56(1) a'r cyntaf o unrhyw gyfarwyddiadau o dan adran 56A ni fydd yn effeithiol os caiff ei roi yn ddiweddarach na

a

5 niwrnod o'r dyddiad pan gaiff yr awdurdod strydoedd yr hysbysiad yn achos gweithiau pwysig neu waith safonol; a

b

2 ddiwrnod o'r dyddiad pan gaiff yr awdurdod strydoedd yr hysbysiad yn achos mân weithiau.

Cyfyngiadau ar waith yn sgil gwaith ffordd sylweddol11

1

At ddibenion adran 58(1), ystyr gwaith ffordd sylweddol yw gwaith at ddibenion ffordd sy'n cynnwys ail adeiladu, lledu, altro lefel, rhoi wyneb newydd neu wyneb gwrth-lithro arbenigol ar y rhan o'r briffordd sydd dan sylw ac os caiff ei wneud

a

ar lwybr troed, troetffordd, llwybr ceffylau neu drac beiciau

i

sy'n ymestyn am fwy na 30 o fetrau o hyd parhaus; a

ii

yn achos llwybr troed neu drac beiciau, sy'n golygu bod y lled sydd ar gael i gerddwyr neu feicwyr, yn ôl y digwydd, yn cael ei leihau o fwy na dwy ran o dair; neu

b

ar y gerbytffordd —

i

sy'n ymestyn am fwy na 30 o fetrau o hyd parhaus; a

ii

sy'n golygu bod y defnydd gan gerbydau o'r gerbytffordd yn cael ei wahardd neu bod y lled o'r gerbytffordd sydd ar gael ar gyfer traffig cerbydol yn cael ei leihau o fwy nag un rhan o dair.

2

At ddibenion adran 58(1), y cyfnod rhagnodedig fydd —

a

5 mlynedd o ran gwaith ffordd sylweddol sy'n golygu ail adeiladu;

b

3 blynedd o ran gwaith ffordd sylweddol sy'n golygu rhoi wyneb newydd ar y briffordd neu altro lefel y briffordd;

c

1 flwyddyn o ran unrhyw waith ffordd sylweddol arall sy'n cael ei wneud mewn stryd sy'n sensitif i draffig neu mewn stryd yng nghategori o ffordd 0, 1 neu 2 nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig; ac

ch

6 mis o ran unrhyw waith ffordd sylweddol arall sy'n cael ei wneud mewn stryd yng nghategori o ffordd 3 neu 4 nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig.

3

Rhaid i hysbysiad o dan adran 58(1) sy'n ymwneud â chyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil gwaith ffordd sylweddol gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod strydoedd perthnasol ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

4

At ddibenion adran 58(2), y cyfnod a ragnodir yw 3 mis.

5

Yn ychwanegol at y rheini y mae'n rhaid rhoi copi o hysbysiad iddynt yn rhinwedd adran 58(3), rhodder copi hefyd —

a

i feddiannydd unrhyw fangre sydd â ffryntiad i'r rhan o'r briffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn ymwneud â hi; a

b

i unrhyw berson arall sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig am gopi o unrhyw hysbysiad o'r fath.

6

Os yw gwaith stryd yn sgil gwaith ffordd sylweddol wedi'i gyfyngu gan hysbysiad o dan adran 58(1), bydd yr hysbysiad hwnnw yn peidio â bod yn effeithiol os nad yw'r gwaith stryd y mae'n ymwneud ag ef wedi ei ddechrau'n sylweddol o fewn chwe mis i'r diweddaraf o—

a

y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bwriedir dechrau'r gwaith arno; neu

b

cwblhad pob gwaith a wnaed o ganlyniad i unrhyw hysbysiad a roddwyd i awdurdod strydoedd yn unol â rheoliad 9(3).

7

At ddibenion adran 58(5), yn ychwanegol at yr achosion a bennir yn yr is-adran honno, caiff ymgymerwr wneud unrhyw waith brys neu unrhyw waith arall a osodir ym mharagraff (8).

8

Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yw gwaith stryd —

a

nad yw'n golygu darnio'r stryd;

b

y mae angen ei wneud —

i

i ymateb i gais am wasanaeth newydd neu gais i gyflenwi cwsmer nas derbyniwyd ar adeg pan oedd yn ymarferol i'r gwaith gael ei wneud cyn y dyddiad y dechreuodd y cyfyngiad arno; a

ii

sy'n cael ei wneud fwy nag 19 o ddiwrnodau o'r dyddiad hwnnw;

c

sy'n cael ei wneud —

i

o dan reoliad 16(3)(b) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 199810 (mesuryddion cyntaf)

ii

i gydymffurfio â hysbysiad gwella o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 197411 (hysbysiadau gwella); neu

iii

o ganlyniad i hysbysiad gwahardd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (hysbysiadau gwahardd); neu

ch

y mae ei angen —

i

i gydymffurfio â rhaglen a gymeradwywyd o dan reoliad 13A o Reoliadau Diogelwch Piblinellau 199612 (piblinellau haearn); a

ii

na ellid bod wedi'i ddynodi cyn i'r cyfyngiad ddechrau.

9

At ddibenion adran 58(7), penderfynir unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw awdurdod strydoedd yn dal cydsyniad yn ôl yn afresymol drwy gyflafareddu.

10

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “ail adeiladu” (“reconstruction”) yw symud ymaith rywfaint neu'r cyfan o'r haenau amrywiol sy'n gwneud palmant ffordd a gosod palmant ffordd yn eu lle;

  • mae i “llwybr beiciau” yr un ystyr ag sydd i “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 198013; ac

  • ystyr “rhoi wyneb newydd” (“resurfacing”) yw symud ymaith arwynebedd rhedegol cerbytffordd a gosod un arall yn ei le sy'n adfer priodoldeb a'r gallu i wrthsefyll llithro i'r arwynebedd.

Cyfyngiadau ar waith yn sgil gwaith stryd sylweddol12

1

At ddibenion Atodlen 3A i Ddeddf 1991, ystyr gwaith stryd sylweddol yw gwaith pwysig.

2

Rhaid i'r cyfnod a ragnodir o dan baragraff 2(2) o'r Atodlen honno beidio â bod yn llai na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad.

3

Rhaid i'r awdurdod strydoedd perthnasol gyhoeddi hysbysiad o dan baragraff 2 i'r Atodlen honno ynghylch cyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil gwaith stryd sylweddol ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

4

Yn ychwanegol at y rheini y mae'n rhaid rhoi copi o hysbysiad iddynt yn rhinwedd paragraff 2(4) o'r Atodlen honno, rhaid rhoi copi hefyd

a

i feddiannydd unrhyw fangre sydd â ffryntiad i'r rhan o'r briffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn ymwneud â hi; a

b

i unrhyw berson arall sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig am gopi o unrhyw hysbysiad o'r fath.

5

Rhaid i hysbysiad gan ymgymerwr o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A o waith stryd arfaethedig a chyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar wneud gwaith o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno fod yn y ffurf a geir yn y Fanyleb Dechnolegol, neu mewn ffurf gyffelyb iddi, a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth o'r fath sy'n berthnasol i'r hysbysiad neu i'r cyfarwyddyd, yn ôl y digwydd, yn unol â'r fanyleb honno.

6

Mae darpariaethau rheoliad 6(3) i (10) yn gymwys i wneud hysbysiad o'r fath yn yr un modd ag y maent yn gymwys i roi hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.

7

Rhaid rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno drwy ei gyhoeddi ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod strydoedd at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

8

Yn ychwanegol at yr achos a bennir ym mharagraff 3(5)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, nid yw paragraff 3(4) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir ym mharagraff (11) isod pan na roddwyd hysbysiad blaenorol o dan adran 54 neu 55, neu baragraff 2(1)(d) o'r Atodlen honno o ran y gwaith y cyfeirir ato.

9

At ddibenion paragraff 4(4) o'r Atodlen honno, y cyfnod rhagnodedig fydd —

a

1 flwyddyn o ran strydoedd sy'n sensitif i draffig a strydoedd yng nghategori o ffordd 0, 1 neu 2 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig; a

b

6 mis o ran strydoedd yng nghategori o ffordd 3 neu 4 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig.

10

Yn ychwanegol at yr achosion a bennir ym mharagraff 5(2) o'r Atodlen honno, nid yw paragraff 5(1) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir yn y paragraff canlynol.

11

Yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (8) a (10) yw'r achosion pan fo ymgymerwr yn gwneud gwaith brys neu unrhyw waith arall a osodir ym mharagraff (12).

12

Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (11) yw gwaith stryd —

a

nad yw'n golygu darnio'r stryd;

b

y mae—

i

angen ei wneud i ymateb i gais am wasanaeth newydd neu gais i gyflenwi cwsmer nas derbyniwyd ar adeg pan oedd yn ymarferol i'r gwaith gael ei wneud cyn y dyddiad y dechreuodd y cyfyngiad arno; a

ii

yn cael ei wneud fwy nag 19 o ddiwrnodau o'r dyddiad hwnnw;

c

sy'n cael ei wneud —

i

o dan reoliad 16(3)(b) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998;

ii

i gydymffurfio â hysbysiad gwella o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974; neu

iii

o ganlyniad i hysbysiad gwahardd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno; neu

ch

y mae ei angen—

i

i gydymffurfio â rhaglen a gymeradwywyd o dan reoliad 13A o Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996; a

ii

na ellid bod wedi'i ddynodi cyn i'r cyfyngiad ddechrau.

13

At ddibenion paragraff 5(3) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, penderfynir unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw awdurdod strydoedd yn dal cydsyniad yn ôl yn afresymol drwy gyflafareddu.

Esemptiadau ac addasiadau13

1

Esemptir rheolwyr strydoedd rhag darpariaethau adran 53(1).

2

O ran stryd nad yw'n briffordd a gynhelir —

a

mae adrannau 53 a 80 a rheoliad 4 i'w haddasu fel mai'r awdurdod priffyrdd lleol fydd yr awdurdod strydoedd at ddibenion y darpariaethau hynny; a

b

ni fydd adran 61 yn gymwys pan fo'n ofynnol cael cydsyniad i ddarnio'r stryd neu i agor y stryd o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Dynodi strydoedd yn strydoedd a warchodir14

1

Rhaid i awdurdod strydoedd beidio â dynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61 oni bai —

a

bod y stryd yn cyflenwi angen traffig strategol penodol;

b

bod y stryd yn ddarostyngedig i lif mor uchel a chyson o draffig fel na fyddai ei dynodi yn stryd sy'n sensitif i draffig yn ddigonol i osgoi achosi amhariad difrifol ar draffig gan waith stryd; a

c

bod yna ddewis amgen rhesymol i osod offer ymgymerwyr y gellid ei osod yn gyfreithlon yn y stryd.

2

Gosodir y weithdrefn ar gyfer gwneud dynodiad o'r fath neu ei thynnu'n ôl yn yr Atodlen.

3

Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael o ran pob stryd a ddynodir ganddo o bryd i'w gilydd yn stryd a warchodir gynnwys—

a

dyddiad y dynodiad;

b

manylion am y stryd mewn digon o fanylder i'w galluogi i gael ei dynodi; ac

c

manylion am bob cydsyniad i osod offer yn y stryd.

Dynodi strydoedd yn rhai ag iddynt anawsterau peirianyddol arbennig15

1

Y meini prawf ar gyfer dynodi stryd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 yw —

a

yn achos stryd y mae strwythur peirianyddol yn gysylltiedig â hi, fod ei briodoldeb a'i ddiogelwch sylfaenol yn dibynnu ar fod mesurau arbennig yn cael eu cymryd wrth gynllunio a gwneud gwaith stryd yn y rhan berthnasol o'r stryd er mwyn osgoi methiant difrifol o ran y strwythur dan sylw; neu

b

yn achos unrhyw stryd arall, fod yna nodwedd beirianyddol benodol wedi'i dynodi yn un sylfaenol i strwythur a chyfanrwydd y stryd yn gyfangwbl sy'n ei gwneud yn ofynnol i fesurau arbennig gael eu cymryd wrth gynllunio a gwneud gwaith stryd er mwyn osgoi methiant difrifol o ran y stryd yn ei chyfanrwydd.

2

Gosodir y weithdrefn ar gyfer gwneud dynodiad o'r fath neu ei dynnu'n ôl yn yr Atodlen.

3

Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael o ran pob stryd a ddynodir ganddo o bryd i'w gilydd yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig gynnwys —

a

dyddiad y dynodiad;

b

manylion am y stryd mewn digon o fanylder i'w galluogi i gael ei dynodi;

c

y nodweddion sy'n cyfiawnhau'r dynodiad; ac

ch

manylion yr awdurdod neu'r ymgymerwr sydd â buddiant yn y stryd.

Dynodi strydoedd yn rhai sy'n sensitif i draffig16

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), dim ond os bodlonir un neu fwy o'r meini prawf a osodir ym mharagraff (2) y caiff awdurdod strydoedd ddynodi stryd yn un sy'n sensitif i draffig o dan adran 64.

2

Y meini prawf y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod y stryd —

a

yn un y mae'r awdurdod strydoedd yn amcangyfrif fod y llif traffig arni yn fwy na 500 o gerbydau'r awr ar bob lôn o'r gerbytffordd gan anwybyddu lonydd i fysiau neu i feiciau;

b

yn ffordd ddwyffordd ag iddi un gerbytffordd gyda'r gerbytffordd honno yn llai na 6.5 metr o led, a chyda llif y traffig arni i'r naill gyfeiriad a'r llall heb fod yn llai na 600 o gerbydau yr awr;

c

yn disgyn o fewn ardal a gwmpesir gan Orchymyn o ran taliadau tagfeydd a wnaed o dan adran 169 o Ddeddf Drafnidiaeth 200014;

ch

yn un y mae mwy na 25% o'r llif traffig i'r naill gyfeiriad a'r llall arni yn gerbydau masnachol trymion;

d

yn un y mae'r llif traffig arni i'r naill gyfeiriad a'r llall yn cynnwys mwy nag wyth o fysiau yr awr;

dd

yn un sydd wedi'i dynodi gan yr awdurdod priffyrdd lleol, fel rhan o'i raglen cynnal a chadw dros y gaeaf, yn un y mae gofyn ei thrin, neu y mae gofyn trin unrhyw ran ohoni, â halen neu gemegau eraill, pan ddisgwylir i'r dymheredd fod yn isel, er mwyn osgoi rhew rhag ffurfio;

e

o fewn 100 o fetrau i gyffordd â signalau critigol neu i system gylchdro neu gylchfan gritigol;

f

yn un y mae'r llif traffig o gerddwyr arni yn o leiaf 1300 o bobl yr awr, am bob metr o led y droetffordd; neu

ff

ar lwybr twristiaid neu mewn ardal lle cynhelir digwyddiadau rhyngwladol, neu genedlaethol, neu ddigwyddiadau mawr arwyddocaol o bwys lleol.

3

Dim ond ar yr adegau ac ar y dyddiadau pan fo un neu fwy nag un o'r meini prawf a osodir ym mharagraff (2) yn gymwys y caiff awdurdod strydoedd ddynodi stryd yn stryd sy'n sensitif i draffig yn unol â pharagraff (1).

4

Gosodir y weithdrefn ar gyfer gwneud dynodiad o dan baragraff (1) neu ar gyfer ei dynnu'n ôl yn yr Atodlen.

5

Caiff awdurdod strydoedd, er gwaethaf paragraffau (1) i (3), ddynodi stryd yn stryd sy'n sensitif i draffig gyda cytundeb mwyafrif yr ymgymerwyr y mae'n hysbys iddo fod ganddynt offer yn y stryd.

6

Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael o ran pob stryd a ddynodir ganddo o bryd i'w gilydd yn stryd sy'n sensitif i draffig gynnwys—

a

dyddiad y dynodiad;

b

manylion am y stryd mewn digon o fanylder i'w galluogi i gael ei dynodi; ac

c

yn achos dynodiad cyfyngedig, yr adegau o'r dydd, y diwrnodau, y cyfnodau neu'r achlysuron pan fo'r dynodiad yn gymwys.

7

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “bws” yr un ystyr ag sydd i “bus” yn rheoliad 22(2) o Reoliadau 2002;

  • mae i'r ymadrodd “cerbyd masnachol trwm” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “heavy commercial vehicle” yn adran 138 o Ddeddf 1984;

  • ystyr “cyffordd â signalau critigol” (“critical signalised junction”) yw cyffordd â signalau traffig, pan nad oes gwaith stryd neu waith at ddibenion ffyrdd yn digwydd yno, a phan nad yw'r allanfa wedi'i chau, lle nad oes dim llai na 5 y cant o'r cerbydau ar yr oriau brig, yn methu mynd drwy'r gyffordd ar y golau gwyrdd cyntaf;

  • mae i'r ymadroddion “lôn i fysiau” a “lôn i feiciau” yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion “bus lane” a “cycle lane” yn Rheoliad 4 o Reoliadau 2002;

  • ystyr “oriau brig” (“peak hour”) yw rhwng 7.30am a 9.30am a rhwng 3.30pm a 7.00pm ar y diwrnod perthnasol; ac

  • ystyr “system gylchdro neu gylchfan gritigol” (“critical gyratory or roundabout system”) pan nad oes gwaith stryd neu waith at ddibenion ffyrdd yn digwydd yno, lle nad oes dim llai na 5 y cant o'r cerbydau ar yr oriau brig yn cael eu dal yn ôl o fwy na 20 eiliad ar gyfartaledd.

Addasu adran 70(3) a (4A)17

1

Addesir Adran 70 (dyletswydd ymgymerwr i adfer) (yn ei gymhwysiad o ran Cymru) fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (3) a (4) yn lle “7” rhodder “10”.

Hysbysiad o waith adfer18

1

Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan ymgymerwr i'r awdurdod strydoedd yn unol ag—

a

adran 70(3) fod gwaith adfer wedi'i gwblhau; neu

b

adran 70(4A) fod gwaith adfer parhaol wedi'i gwblhau,

roi'r wybodaeth ynglyn â'r gwaith adfer a osodir ym mharagraff (2).

2

Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

a

pwynt cyfeiriadol ar gyfer—

i

canol unrhyw waith adfer nad yw'n hwy na 10 metr o hyd; a

ii

pob pen i unrhyw waith adfer sy'n hwy na 10 metr o hyd;

b

mesuriadau'r gwaith adfer;

c

dyddiad cwblhau'r gwaith adfer; ac

ch

y dull a ddefnyddiwyd i wneud y gwaith adfer.

3

Ym mharagraff (2) ystyr “pwynt cyfeiriol” (“reference point”) yw pwynt cyfeiriol grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans wedi'i nodi o fewn un metr.

Trefniadau trosiannol19

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith stryd yng Nghymru y rhoddodd ymgymerwr hysbysiad ohono o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno ac mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 yn parhau i fod yn effeithiol o ran y gwaith hwnnw megis petaent heb gael eu datgymhwyso.

Dirymu Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 200820

Dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 200815.

Rhodri MorganPrif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENGWEITHDREFNAU AR GYFER DYNODIADAU O DAN ADRANNAU 61, 63 A 64 A THYNNU DYNODIADAU O'R FATH YN ÔL

Rheoliadau 14, 15 a 16

RHAN 1

Dynodi strydoedd yn strydoedd a warchodir

1

Cyn dynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyhoeddi hysbysiad o'u bwriad i wneud y dynodiad ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

2

Rhaid i'r hysbysiad bennu cyfnod nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn.

3

Rhaid i'r awdurdod strydoedd roi copi o'r hysbysiad hwnnw, heb fod yn ddiweddarach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad —

a

i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;

b

i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;

c

i feddianwyr neu feddianwyr honedig unrhyw dir sy'n gyffiniol â'r stryd;

ch

i unrhyw awdurdod trafnidiaeth lleol neu grwp awdurdod trafnidiaeth lleol y mae'r stryd wedi'i lleoli yn ei ardal;

d

i Brif Swyddog yr Heddlu, y Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; ac

dd

i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig o dan adran 61.

4

Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.

5

Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 3 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal cyn gwneud y dynodiad.

6

Pan fo ymchwiliad lleol wedi cael ei gynnal rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiadau ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.

RHAN 2

Dynodi strydoedd yn rhai ag iddynt anawsterau peirianyddol arbennig neu yn rhai sy'n sensitif i draffig

7

Cyn dynodi stryd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 neu yn un sy'n sensitif i draffig yn unol â rheoliad 16(1), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'i fwriad i wneud y dynodiad —

a

i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;

b

i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;

c

i unrhyw awdurdod trafnidiaeth lleol neu grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol y mae'r stryd wedi'i lleoli yn ei ardal;

ch

i Brif Swyddog yr Heddlu, Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; ac

d

i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig.

8

Rhaid i'r hysbysiad bennu—

a

cyfnod, nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn; a

b

yn achos hysbysiad a roddir at ddibenion rheoliad 16(1), pa rai o'r meini prawf a osodir yn rheoliad 16(2) a fodlonir o ran y stryd.

9

Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.

10

Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 7 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiad cyn gwneud y dynodiad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.

RHAN 3

Hysbysiad o ddynodiad11

Rhaid i awdurdod strydoedd roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i ddynodi stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu yn stryd sy'n sensitif i draffig i unrhyw ymgymerwr y rhoddodd gopi o hysbysiad iddo o dan baragraff 3(a), neu, yn ôl y digwydd, hysbysiad o dan baragraff 7(a).

RHAN 4

Tynnu dynodiad yn ôl a chofnodi penderfyniadau

12

Ar ôl ymgynghori â phob person sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol, caiff awdurdod strydoedd dynnu'n ôl ddynodiad stryd yn stryd a warchodir, yn stryd sy'n sensitif i draffig neu, yn ddarostyngedig i adran 63(4), yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig, ar unrhyw adeg.

13

Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol neu unrhyw berson arall sydd ym marn yr awdurdod â buddiant digonol wneud sylwadau i'r awdurdod strydoedd yn gofyn iddo dynnu'r dynodiad yn ôl. Rhaid i'r awdurdod ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau o'r fath cyn penderfynu ei dynnu yn ôl ai peidio.

14

Os yw awdurdod strydoedd yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad ei fod wedi'i dynnu'n ôl ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

15

Pan fo rheolwr strydoedd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo hysbysu'r awdurdod priffyrdd.

16

Pan fo awdurdod priffyrdd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl, neu yn cael ei hysbysu gan reolwr strydoedd yn unol â pharagraff 15, rhaid i'r awdurdod —

a

hysbysu deiliad y consesiwn ar y pryd sydd â'r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r Rhestr Strydoedd Genedlaethol; a

b

cofnodi'r cyfryw benderfyniadau ar y gofrestr gwaith stryd,

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag, o fewn mis.

RHAN 5

Dehongli17

Yn yr Atodlen hon —

  • mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local authority” gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 197216;

  • ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority group”) yw unrhyw un o'r pedwar grwp o awdurdodau trafnidiaeth lleol a ddisgrifir yn yr Atodlen i Orchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 200617; ac

  • ystyr “y Rhestr Strydoedd Genedlaethol” (“the National Street Gazetteer”) yw'r gronfa ddata gyfrifiadurol genedlaethol o strydoedd sy'n cael ei chynnal a'i chadw gan ddeiliad y consesiwn ar y pryd a benodir gan y Tŷ Gwybodaeth Llywodraeth Leol Cyfyngedig (“the Local Government Information House Limited”).

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu, gydag addasiadau, Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008. Mae'r addasiadau'n ymwneud â mân bwyntiau drafftio teipograffyddol yn y Rheoliadau hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cymryd lle, gydag addasiadau, Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 (“Rheoliadau 1992”) o ran Cymru.

Mae Rheoliad 3 yn cynnwys diffiniadau o “gwaith pwysig”, “mân weithiau” “gwaith safonol” a “gwaith brys”.

Mae Rheoliad 4 yn gosod gofynion o ran ffurf y gofrestr gwaith stryd y mae'n ofynnol i awdurdod strydoedd ei chadw o dan adran 53(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (“Deddf 1991”). Mae hefyd yn rhagnodi'r wybodaeth o ran gwaith stryd sydd i'w chadw yn y gofrestr ynghyd â gwybodaeth ynghylch categorïau penodol o waith stryd, gwaith arall, hysbysiadau, trwyddedau, offer, gwaith adfer a gwybodaeth arall sydd i'w chadw. Gwneir darpariaeth i wybodaeth a ardystir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth at ddibenion gwarchod diogelwch gwladol ac i wybodaeth sy'n sensitif yn fasnachol i ymgymerwr fod yn wybodaeth gyfyngedig at ddibenion adran 53(3) o Ddeddf 1991.

Mae Rheoliad 5 yn rhagnodi, gan gyfeirio at y Fanyleb Dechnegol ar gyfer Trosglwyddo Hysbysiadau yn Electronig a luniwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig 5 Gorffennaf 2007 fel y'i hadolygwyd neu y'i hailddyroddwyd o bryd i'w gilydd, ffurf yr hysbysiad sydd i'w roi at ddibenion adrannau 54, 55, 57, 58, 58A, 66, 70 a 72(3) o Ddeddf 1991. Mae'r adrannau hyn yn ymwneud â rhaghysbysiad o weithiau penodol, hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith, hysbysiad o waith argyfwng, cyfyngiadau ar waith yn sgil gwaith ffordd sylweddol ac yn sgil gwaith stryd sylweddol, osgoi oedi neu rwystro diangen a gwaith adfer. Darperir hefyd ar gyfer cynnwys gwybodaeth bellach mewn hysbysiadau o dan adrannau 54, 55, 57 a 58A ac ar gyfer ffurf hysbysiadau eraill.

Mae Rheoliadau 6 a 7 yn gosod y modd y mae hysbysiadau o dan Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio y rhai hynny o dan adran 74 neu Atodlen 4B, a chopïau o hysbysiadau, i gael eu cyflwyno ac maent yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio “cyfathrebiadau electronig”.

Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgymerwr roi rhaghysbysiad o ddim llai na thri mis ynglŷn â gweithiau pwysig, ac eithrio mewn achosion penodol, ac yn rhagnodi cyfnodau eraill at ddibenion hysbysiadau o dan adran 54 o Ddeddf 1991.

Mae Rheoliad 9 yn rhagnodi cyfnod rhoi hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith stryd, y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 55 o Ddeddf 1991, ar gyfer gweithiau pwysig, mân weithiau, gwaith safonol a gwaith argyfwng. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth amgen pan roddir hysbysiad o dan adran 58(1) yn cyfyngu ar waith stryd yn y dyfodol yn sgil gwaith ffordd sylweddol drwy sefydlu cyfnod o ddim mwy na 20 niwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwnnw pan fo rhaid i ymgymerwyr, nad ydynt eisoes wedi rhoi hysbysiad o waith arfaethedig, roi hysbysiad o'r hyn a arfaethir ganddynt. Mae hefyd yn ymdrin â materion eraill cysylltiedig ag adran 55.

Mae Rheoliad 10 yn gosod y weithdrefn sydd i'w dilyn pan fo awdurdod strydoedd yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 56(1) neu (1A) o Ddeddf 1991 o ran amseriad gwaith stryd neu o dan adran 56A o ran gosod offer. Mae hefyd yn rhagnodi cyfnodau pan na fydd cyfarwyddiadau o'r fath yn effeithiol ar ôl i'r cyfnodau hynny ddod i ben.

Mae Rheoliad 11 yn diffinio “gwaith ffordd sylweddol” at ddibenion adran 58(1) o Ddeddf 1991, yn rhagnodi gwahanol gyfnodau ar gyfer cyfyngiadau ar waith stryd yn sgil cwblhau gwaith ffordd sylweddol ac yn darparu bod rhaid cyhoeddi hysbysiad o gyfyngiad arfaethedig o dan yr adran hon ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod strydoedd perthnasol at y diben o roi gwybodaeth i'r cyhoedd. Mae'n mynd rhagddo i ragnodi personau ychwanegol y mae'n rhaid rhoi copi o'r hysbysiad iddynt, a chategorïau o waith y caniateir ei wneud er gwaethaf y cyfyngiad ac i ymdrin â nifer o faterion cysylltiedig.

Mae Rheoliad 12 yn diffinio “gwaith stryd sylweddol ” at ddibenion adran 58A o Ddeddf 1991 ac Atodlen 3A iddi. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i hysbysiad o gyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil cwblhau gwaith stryd sylweddol gael ei gyhoeddi ar wefan ac yn rhagnodi personau ychwanegol y mae'n rhaid rhoi copi o'r hysbysiad iddynt. Mae'n sefydlu cyfnod o ddim llai na 20 niwrnod o ddyddiad y cyhoeddi pan fo raid i ymgymerwyr, nad ydynt eisoes wedi rhoi hysbysiad o waith arfaethedig, hysbysu'r awdurdod strydoedd o'r hyn a arfaethir ganddynt ac yn rhagnodi ffurf hysbysiad o'r fath â'r modd i'w roi. Mae hefyd yn rhagnodi ffurf cyfarwyddyd sy'n gosod y cyfyngiad ac yn darparu iddo gael ei roi drwy ei gyhoeddi ar wefan. Mae'n pennu gwahanol gyfnodau ar gyfer cyfyngu ar waith stryd yn sgil cwblhau gwaith stryd sylweddol ac yn rhagnodi categorïau o waith y caniateir ei wneud er gwaethaf y cyfyngiad ac yn ymdrin â nifer o faterion cysylltiedig.

Mae Rheoliad 13 yn esemptio rheolwyr strydoedd (yr awdurdod strydoedd ar gyfer strydoedd nad ydynt yn briffyrdd a gynhelir) rhag y gofyniad i gadw cofrestr ac mae'n darparu mai'r awdurdod priffyrdd lleol fydd yr awdurdod strydoedd dros strydoedd o'r fath at ddibenion cadw cofrestr a chael gwybodaeth gan ymgymerwr ynglŷn â lleoliad offer a ganfyddwyd ganddo a disgrifiad ohono. Mae hefyd yn darparu na fydd adran 61 o Ddeddf 1991 (strydoedd a warchodir) yn gymwys i strydoedd nad ydynt yn briffyrdd a gynhelir pan fo gofyn cael cydsyniad o dan deddfiad arall i'w darnio neu i'w hagor.

Mae Rheoliadau 14(1), 15(1) a 16(1) a (2) yn pennu'r meini prawf y mae'n rhaid i awdurdod strydoedd eu defnyddio wrth ddynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61 o Ddeddf 1991, neu yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 neu, ac eithrio pan fo'r dynodiad drwy gytundeb rhwng yr awdurdod strydoedd a mwyafrif yr ymgymerwyr y gwyr yr awdurdod fod ganddynt offer yn y stryd, yn stryd sy'n sensitif i draffig o dan adran 64.

Mae Rheoliadau 14(3), 15(3) a 16(6) yn gosod yr wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael pan fo'n dynodi stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu'n stryd sy'n sensitif i draffig.

Mae Rheoliad 14(2) a Rhannau 1 a 3 o'r Atodlen yn gosod y weithdrefn ar gyfer dynodi stryd yn stryd a warchodir. Darperir ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o ddynodiad arfaethedig ar wefan, ar gyfer ei chyflwyno i gyrff a phersonau penodedig ac ar gyfer cynnal ymchwiliad lleol cyn gwneud dynodiad os oes gwrthwynebiadau.

Mae Rheoliadau 15(2), 16(4) a Rhannau 2 a 3 o'r Atodlen yn gosod y weithdrefn ar gyfer dynodi stryd yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu yn stryd sy'n sensitif i draffig. Darperir ar gyfer rhoi hysbysiad o'r cynnig i gyrff a phersonau penodedig ac ar gyfer ystyried gwrthwynebiadau cyn gwneud dynodiad.

Mae Rheoliadau 14(2), 15(2) a 16(4) a Rhan 4 o'r Atodlen yn darparu ar gyfer tynnu yn ôl ddynodiad stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu'n stryd sy'n sensitif i draffig gan yr awdurdod strydoedd.

Mae Rheoliad 17 yn addasu adran 70(3) a (4A) o Ddeddf 1991 (dyletswydd i hysbysu awdurdod o waith adfer) fel y mae i'w gymhwyso o ran Cymru drwy newid y cyfnod y mae'n rhaid rhoi hysbysiad interim a pharhaol i'r awdurdod strydoedd o 7 i 10 niwrnod gwaith.

Mae Rheoliad 18 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i ymgymerwyr ei rhoi i'r awdurdod strydoedd mewn hysbysiadau o dan adran 70 o Ddeddf 1991 ynglyn â gwaith adfer interim a pharhaol.

Mae Rheoliad 19 yn datgymhwyso'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gwaith stryd yng Nghymru y rhoddwyd hysbysiad yn eu cylch o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 o Ddeddf 1991 cyn dyddiad eu dod i rym ac yn cadw cymhwysiant Rheoliadau 1992 mewn perthynas â'r gweithiau hynny.

Mae'r cyhoeddiad a ddyroddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) ar 1 Awst 2006 sy'n dwyn y teitl “Spatial data sets for geographical referencing — specification for a street gazetteer” dan gyfeirnod Rhif BS 7666 — 1 2006 (ISBN 0 580 48710 5) i'w gael o unrhyw fan gwerthu a redir gan y BSI neu drwy'r post oddi wrth y BSI o Milton Keynes. Mae'r cyhoeddiad sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffordd” a wnaed ar 7 Tachwedd 2006 ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Ionawr 2007 i'w gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/f29c0c680f7a88bd158e4818c74d08b5.pdf. Mae'r ddogfen “Technical Specification for the Electronic Transfer of Notices” dyddiedig 5 Gorffennaf 2007 ar gael ar wefan Yr Adran Drafnidiaeth' yn www.dft.gov.uk/roads/streetworks ac fe'i cyhoeddir maes o law.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol ar gael gan yr Adran Rheoli Rhwydwaith Ffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm