2008 Rhif 600 (Cy.62)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 19911, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2,yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio rheoliad 3 (ffioedd arolygu)

2

Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 20063 yn unol â rheoliad 3.

3

Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£21.00” rhodder “£25.00”.

Ieuan Wyn JonesY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 er mwyn codi'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau hynny.

Y ffi a ragnodwyd yn wreiddiol yn Rheoliadau 2006 oedd £21. Newidwyd y ffi ddiwethaf ym Mehefin 2007, i £24 ac yn awr fe'i codir i £25.