Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1505 (Cy.146)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (Yr A487) (Ffordd Osgoi Porthmadog, Minffordd a Thremadog a Thynnu Statws Cefnffordd) 2009

Gwnaed

17 Mehefin 2009

Yn dod i rym

25 Mehefin 2009

1.  Bydd y priffyrdd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu hadeiladu ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod yn gefnffyrdd ar y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinellau canol y cefnffyrdd newydd â llinellau duon trymion a dangosir y cynigion cysylltiedig ar gyfer ffyrdd ymyl â llinellau gwynion wedi'u torri ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd, yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffyrdd dosbarthiadol ar y dyddiad pan fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Gwynedd fod y cefnffyrdd newydd ar agor ar gyfer traffig trwodd.

4.  Mae Gweinidogion Cymru wedi'u hawdurdodi i godi'r bont a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn fel rhan o'r brif gefnffordd newydd.

5.  Yn y Gorchymyn hwn:—

(1Caiff pob mesur o bellter ei fesur ar hyd llwybry briffordd berthnasol;

i.ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA 10/2 WAG 1 ac sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Ffordd Osgoi Porthmadog, Minffordd a Thremadog a Thynnu Statws Cefnffordd) 2009” , wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac wedi'i adneuo yn yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;

ii.ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487);

iii.ystyr “y cefnffyrdd newydd” (“the new trunk roads”) yw'r cefnffyrdd a grybwyllir yn erthygl 1 y Gorchymyn hwn ac ystyr “cefnffordd newydd” yw un o'r priffyrdd hynny;

6.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mehefin 2009 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Ffordd Osgoi Porthmadog, Minffordd a Thremadog a Thynnu Statws Cefnffordd) 2009’

Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru

Jeff Collins

17 Mehefin 2009

J COLLINS

Dirprwy, Gyfarwyddwr Cynllunio a Llywodraethu Trafnidiaeth

Llywodraeth Cynulliad Cymru

ATODLEN 1LLWYBRAU'R CEFNFFYRDD NEWYDD

Dyma lwybrau'r cefnffyrdd newydd i'r de o Dremadog ac i'r gogledd o Borthmadog a Minffordd yn Sir Gwynedd:—

(1llwybr oddeutu 1.05 o gilometrau o hyd, yn cychwyn wrth bwynt oddeutu 85 o fetrau i'r gogledd-orllewin o'i gyffordd â phrif ffordd yr A498 i Gricieth yn Nhremadog (wedi'i farcio ag A ar y plan a adneuwyd) ac sy'n cynnwys cylchfan newydd 40 o fetrau i'r de o'i gyffordd â phrif ffordd yr A498 i Gricieth ac yna'n ymestyn tua'r dwyrain at bwynt oddeutu 190 o fetrau i'r gogledd-orllewin o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 a'r ffordd ddiddosbarth o'r enw Ffordd Glanrafon ym Mhorthmadog (wedi'i farcio â B ar y plan a adneuwyd).

(2llwybr oddeutu 3.76 o gilometrau o hyd, yn cychwyn wrth y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 a'r ffordd ddiddosbarth o'r enw Ffordd Glanrafon ym Mhorthmadog (sydd wedi'i farcio ag C ar y plan a adneuwyd), ac sy'n cynnwys cylchfan newydd 50 o fetrau i'r de-ddwyrain o'r gyffordd honno, ac yna'n ymestyn tua'r dwyrain i gylchfan newydd arall wrth y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 â ffordd fynediad Parc Busnes Eryri ym Minffordd (sydd wedi'i farcio â D ar y plan a adneuwyd).

ATODLEN 2DARNAU O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Dyma lwybrau'r darnau o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yn Sir Gwynedd:—

(1y darn hwnnw o gefnffordd yr A487 oddeutu 850 o fetrau o hyd rhwng pwynt oddeutu 450 o fetrau i'r de-orllewin o ganol cyffordd Stryd Dulyn a Stryd yr Eglwys yn Nhremadog a phwynt oddeutu 400 o fetrau i'r de-ddwyrain o gyffordd Stryd Dulyn a Stryd yr Eglwys yn Nhremadog ac sy'n cynnwys Y Sgwâr yn Nhremadog (wedi'i farcio ag 1ar y plan a adneuwyd).

(2y darn hwnnw o gefnffordd yr A487, oddeutu 4,675 o fetrau o hyd rhwng pwynt oddeutu 65 o fetrau i'r de o ganol cyffordd y Stryd Fawr (yr A487) a'r ffordd ddiddosbarth o'r enw Ffordd Glanrafon ym Modawen, a phwynt oddeutu 30 o fetrau i'r de-orllewin o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 a Pharc Busnes Eryri ym Minffordd ac sy'n cynnwys y Stryd Fawr a Phont Britannia ym Mhorthmadog a'r Cob (sydd wedi'i farcio â 2 ar y plan a adneuwyd).