Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Pwerau mynediad

7.—(1Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos dogfen awdurdodi a ddilyswyd yn briodol os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)fynd gydag ef—

(i)unrhyw bersonau eraill sydd ym marn y swyddog awdurdodedig yn angenrheidiol;

(ii)unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion gorfodi rhwymedigaeth ar ran y Gymuned; a

(b)dod ag unrhyw gyfarpar i'r fangre sydd ym marn y swyddog awdurdodedig yn angenrheidiol.

(4Os bodlonir ynad heddwch, ar hysbysiad ysgrifenedig ar lw, fod yna sail resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, ac naill ai—

(a)bod mynediad i swyddog awdurdodedig wedi ei wrthod, neu y disgwylir y bydd yn cael ei wrthod, ac (yn y naill achos a'r llall) fod hysbysiad wedi ei roi i'r meddiannydd o'r bwriad i wneud cais am warant; neu

(b)y byddai gwneud cais am fynediad i'r fangre, neu roi hysbysiad o'r fath, yn trechu bwriad y mynediad, neu

(c)fod y fangre heb ei meddiannu neu fod ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro; neu

(ch)fod brys ynglŷn â'r achos,

caiff yr ynad roi awdurdod, drwy warant a lofnodwyd, i'r swyddog awdurdodedig fynd i mewn i'r fangre, â grym rhesymol os bydd angen hynny.

(5Mae gwarant o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.

(6Rhaid i swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, yn rhinwedd y rheoliad hwn, ei gadael wedi ei chau yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd i mewn iddi.

(7Mae'n dramgwydd i berson a ddaeth ar draws gwybodaeth gyfrinachol tra'n gweithredu at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn i ddatgelu'r wybodaeth gyfrinachol y daeth ar ei thraws, p'un ai a ddaeth ar ei thraws mewn mangre yr aethpwyd i mewn iddi o dan y Rheoliadau hyn, neu yn eu rhinwedd neu mewn modd arall, onis gwneir y datgeliad wrth i'r person hwnnw wneud ei ddyletswydd neu yn unol ag adran 17(2) o Ddeddf Gwrth-derfysgaeth, Trosedd a Diogeledd 2001(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources