2009 Rhif 2201 (Cy.186)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i'r cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd2, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, Cychwyn a Chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 7 Medi 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 20092

1

Diwygir y Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 20093 fel a ganlyn.

2

Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3(2)(a) yn lle “Directive 95/45/EC” rhodder “Directive 95/31/EC”.

Gwenda ThomasY Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) yn darparu ar gyfer rhoi ar waith tair Gyfarwyddeb Comisiwn newydd ac sy'n cydgrynhoi rheolau presennol y Gymuned Ewropeaidd sy'n llywodraethu meini prawf purdeb ar gyfer lliwiau, melysyddion ac ychwanegion amrywiol eraill a ddefnyddir mewn bwydydd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2009 i gywiro gwall teipograffyddol yn y testun Cymraeg.

Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector gwirfoddol neu'r sector preifat.