xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Sefydliadau ac asiantaethau — plant

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

4.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) o reoliad 23 (gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu) rhodder—

(1) Mewn cysylltiad â'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gael tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno)..

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

5.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(2) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chael am yr unigolyn cyfrifol neu am bersonau sy'n ceisio rheoli neu weithio at ddibenion asiantaeth) rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os yw'r dystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi..

Diwygiadau i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

6.—(1Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—

(a)Ym mharagraff (3)(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 5 a 6 o Atodlen 2.;

(b)hepgorer paragraff (4).

(3Yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr)—

(a)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—

(c)oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.

(b)yn lle paragraff (2E)(4) rhodder—

(2E) Ni fydd person yn ffit i reoli cartref plant onid yw wedi ei gofrestru'n rheolwr gyda Chyngor Gofal Cymru.;

(c)hepgorer paragraff (3).

(4Yn rheoliad 26 (ffitrwydd gweithwyr)—

(a)yn lle paragraff (2)(ch) rhodder—

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2G), bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2

(b)ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.”;

(c)yn lle paragraff (5) (b) rhodder—

(b)y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2..

(5Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) —

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol safonol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.;

(b)hepgorer paragraffau 7 ac 8.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

7.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(5) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw) rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997..

(3Yn lle paragraff 13 o Atodlen 3 ( gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth) rhodder—

13.  Mewn cysylltiad â'r darpar riant maeth ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar riant maeth sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno)..

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007

8.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007(6) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth y mae ei hangen am bersonau sy'n gwneud cais am reoli neu weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu) rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif ar gyfer swydd sy'n dod o dan reoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi..

Diwygiadau i Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

9.—(1Mae Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(7) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—

(a)yn lle paragraff (3)(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.;

(b)hepgorer paragraff (4)

(3Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y rheolwr)—

(a)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—

(c)bod gwybodaeth a dogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.

(b)hepgorer paragraff (3).

(4Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio mewn un) —

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.;

(b)hepgorer paragraff 7.