Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Diwygiadau i Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
9.—(1) Mae Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003() yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a)yn lle paragraff (3)(c) rhodder—
“(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”;
(b)hepgorer paragraff (4)
(3) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a)yn lle paragraff (2)(c) rhodder—
“(c)bod gwybodaeth a dogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”
(b)hepgorer paragraff (3).
(4) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio mewn un) —
(a)yn lle paragraff 2 rhodder—
“2. Naill ai—
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b)hepgorer paragraff 7.
Back to top