2009 Rhif 258 (Cy.28)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 19911, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2,yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2009. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006

2

Diwygir ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006, a ddiwygiwyd eisoes3 yn unol â rheoliad 3.

3

Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£25.00” rhodder “£50.00”.

Ieuan Wyn JonesY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 (“Rheoliadau 2008”). Diwygiodd Rheoliadau 2008 ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) er mwyn cynyddu'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o Reoliadau 2006.

Y ffi a ragnodwyd yn wreiddiol yn Rheoliadau 2006 oedd £21. Newidiwyd y ffi i £24 yng Ngorffennaf 2007 gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007 Rhif 1713 (Cy.150)), ac fe'i cynyddwyd i £25 gan Reoliadau 2008. Cynyddir y ffi ymhellach yn awr i £50.