Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 258 (Cy.28)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

10 Chwefror 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Chwefror 2009

Yn dod i rym

1 Ebrill 2009

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2009. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006

2.  Diwygir ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006, a ddiwygiwyd eisoes(3) yn unol â rheoliad 3.

3.  Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£25.00” rhodder “£50.00”.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

10 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 (“Rheoliadau 2008”). Diwygiodd Rheoliadau 2008 ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) er mwyn cynyddu'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o Reoliadau 2006.

Y ffi a ragnodwyd yn wreiddiol yn Rheoliadau 2006 oedd £21. Newidiwyd y ffi i £24 yng Ngorffennaf 2007 gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007 Rhif 1713 (Cy.150)), ac fe'i cynyddwyd i £25 gan Reoliadau 2008. Cynyddir y ffi ymhellach yn awr i £50.

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 75 a 104(1) eu trosglwyddo, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Amnewidiwyd adran 75 yn rhagolygol gan adran 58(2) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau 75 a 104(1) dywededig eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

O.S. 2006/1532 (Cy.150). Cafodd y Rheoliadau hyn eu diwygio gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/1713) (Cy.150) a chan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/1213 (Cy. 121)).