2009 Rhif 569 (Cy.53)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16 a 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 20081, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu2

Dirymir paragraffau 8, 19 a 20 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 19992.

Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i'r ymadrodd “mannau perthnasol” (“relevant places”) yr ystyr sydd iddo yn adran 1(4) o'r Mesur;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

Cyhoeddi gwybodaeth4

1

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi'r wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid cyhoeddi'r wybodaeth cyn 1 Hydref yn y flwyddyn cyn y flwyddyn academaidd y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi ond yn achos gwybodaeth sy'n ymwneud â'r flwyddyn academaidd 2009-2010 nid yw'n ofynnol i'r awdurdod lleol gyhoeddi'r wybodaeth ond i'r graddau nad yw eisoes wedi gwneud hynny (o dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999) ac mae'n ofynnol iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

3

Rhaid cyhoeddi'r wybodaeth —

a

ar wefan yr awdurdod lleol;

b

drwy ddanfon copïau yn ddi-dâl i rieni pan ofynnir amdanynt, a thrwy sicrhau bod copïau ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio atynt —

i

yn swyddfeydd yr awdurdod lleol; a

ii

ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol;

c

drwy sicrhau bod copïau ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio atynt yn y llyfrgelloedd cyhoeddus yn ardal yr awdurdod;

ch

drwy ddanfon copïau yn ddi-dâl i rieni disgyblion sydd yn eu blwyddyn olaf mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac eithrio ysgolion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion.

4

Mae disgyblion yn eu blwyddyn olaf at ddibenion paragraff (3)(ch) os ydynt, yn y flwyddyn cyn y flwyddyn academaidd y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi, yn y flwyddyn olaf mewn ysgol ac y gallent drosglwyddo i ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

5

Mae cyhoeddi cymaint o'r wybodaeth ag sy'n berthnasol o ystyried yr ysgolion y gallai disgyblion yn y flwyddyn olaf mewn ysgol benodol drosglwyddo iddynt yn ddigon i gydymffurfio â pharagraff (3)(ch).

6

Rhaid i'r wybodaeth gael ei chyhoeddi hefyd drwy ddanfon copïau yn ddi-dâl i unrhyw fannau perthnasol eraill y mae'r awdurdod lleol o'r farn y gall dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yn ei ardal ddymuno eu mynychu.

Gwybodaeth arall5

1

Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol roi'r cyfryw wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac sydd yn ei feddiant yn rhad ac am ddim i —

a

corff llywodraethu ysgol yn ei ardal neu ysgol y mae plentyn sy'n preswylio fel arfer yn ei ardal yn ei mynychu,

b

pennaeth y cyfryw ysgol,

c

rhiant plentyn sy'n preswylio fel arfer yn ei ardal, neu sydd neu a allai ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn ei ardal,

ch

unrhyw ddysgwr sy'n preswylio fel arfer yn ei ardal.

Ieuan Wyn JonesY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

YR ATODLENYR WYBODAETH I'W CHYHOEDDI

Rheoliadau 4 a 5

RHAN 1

1

Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â theithio i fannau perthnasol ac oddi yno gan gynnwys, yn benodol —

a

darparu cludiant am ddim;

b

unrhyw drefniadau teithio a wneir ar gyfer dysgwyr na ddarperir cludiant am ddim iddynt;

c

talu'r cyfan neu ran o dreuliau teithio rhesymol;

ch

trefniadau a pholisïau o ran dysgwyr ag anawsterau dysgu a dysgwyr anabl.

2

Gwybodaeth am sut i wneud ymholiadau ynghylch trefniadau teithio, am unrhyw weithdrefn gwynion sydd ar gael mewn cysylltiad â threfniadau teithio ac am unrhyw weithdrefn apelau mewn cysylltiad â phenderfyniadau sy'n ymwneud â threfniadau teithio.

3

Unrhyw wybodaeth arall, y mae'r awdurdod lleol o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i ddysgwyr yn ei ardal ac sydd ym meddiant yr awdurdod yn rhinwedd yr asesiad a wneir o dan adran 2 o'r Mesur, am drefniadau teithio a wneir gan bersonau eraill ac sy'n hwyluso'r ffordd i ddysgwyr fynychu man lle y maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant.

RHAN 2

1

Gwybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau a wneir o dan adran 2 o'r Mesur.

2

Gwybodaeth sy'n ymwneud â phenderfyniadau ynghylch addasrwydd trefniadau cludo neu deithio at ddiben adran 3 neu 4 o'r Mesur.

3

Gwybodaeth sy'n ymwneud â phenderfyniadau ynghylch p'un a yw ffordd ar gael at ddiben adran 3(7) o'r Mesur.

4

Gwybodaeth sy'n ymwneud â phenderfyniadau ynghylch p'un a yw trefniadau teithio'n angenrheidiol o dan adran 4(1) o'r Mesur.

5

Gwybodaeth sy'n ymwneud â phenderfyniadau i wneud trefniadau teithio o dan adran 6 o'r Mesur.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod yr wybodaeth y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei chyhoeddi am drefniadau teithio a wneir o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ac maent yn gosod sut a phryd y mae'r wybodaeth i'w chyhoeddi.