2009 Rhif 589 (Cy.56)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129, 130 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio rheoliad 1 yn y Rheoliadau Optegol2
Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee” —
a
yn lle “£54.67” rhodder “£55.93”; a
b
yn lle “£19.80” rhodder “£20.26”.
Diwygio rheoliad 8 yn y Rheoliadau Optegol3
Yn Rheoliad 8(3)(1)(ii) (cymhwystra — cyflenwi teclynnau optegol) yn lle “£15,050” rhodder “£15,276”.
Diwygio rheoliad 19 yn y Rheoliadau Optegol4
Diwygir Rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn —
a
ym mharagraff (1)(b), yn lle “£51.90” rhodder “£52.90”; a
b
ym mharagraff (3), yn lle “£13.40” rhodder “£13.70”.
Diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol5
1
Diwygir Atodlenni 1 i 3 i'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
2
Yn Atodlen 1 (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — i gyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le:
(1) | (2) |
---|---|
Swm blaenorol | Swm newydd |
£35.50 | £36.20 |
£54.00 | £55.10 |
£79.00 | £80.60 |
£178.40 | £182.00 |
£61.40 | £62.70 |
£78.10 | £79.70 |
£101.20 | £103.30 |
£196.10 | £200.10 |
£182.70 | £186.40 |
£51.90 | £52.90 |
3
Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig a theclynnau cymhleth)—
a
ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£11.60” rhodder “£11.80”;
b
ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle “£13.90” rhodder “£ 14.20”;
c
ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.90” rhodder “£4.00”;
ch
ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.40” rhodder “£4.50”;
d
ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£58.50”, “£51.90” a “£28.00” rhodder “£59.70”, “£52.90” a “£28.60” yn eu trefn;
dd
ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£58.50” rhodder “£59.70”;
e
ym mharagraff 2(a), yn lle “£13.40” rhodder “£13.70”; ac
f
ym mharagraff 2(b), yn lle “£33.90” rhodder “£34.60”.
4
Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol6
Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny y bydd y symiau a roddir yn eu lle gan reoliadau 4 a 5 yn gymwys.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Optegol Cyffredinol) 19867
Yn rheoliad 13(2)(l)(ii) (cymhwystra ar gyfer profion golwg) yn lle “£15,050” rhodder “£15,276”.
YR ATODLENATODLEN 3 I REOLIADAU OPTEGOL FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
SCHEDULE 3VOUCHER VALUES — REPAIR
(1)
(2)
Nature of Repair
Letter of Codes—Values
A
B
C
D
E
F
G
H
I
£
£
£
£
£
£
£
£
£
Repair or replacement of one lens
11.25
20.70
33.45
84.15
24.50
33.00
44.80
93.20
86.35
Repair or replacement of two lenses
22.50
41.40
66.90
168.30
49.00
66.00
89.60
186.40
172.70
Repair or replacement of:
The front of a frame
11.60
11.60
11.60
11.60
11.60
11.60
11.60
11.60
11.60
A side of a frame
6.90
6.90
6.90
6.90
6.90
6.90
6.90
6.90
6.90
The whole frame
13.70
13.70
13.70
13.70
13.70
13.70
13.70
13.70
13.70