2009 Rhif 780 (Cy.68)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

At ddibenion adran 26(4)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad19811 mae Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r Gorchymyn hwn yn effeithio ar unrhyw awdurdod lleol.

Mae Gweinidogion Cymru —

a

yn unol â'r ddarpariaeth honno, wedi rhoi cyfle i unrhyw berson arall yr effeithir arno gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn perthynas â phwnc y Gorchymyn hwn;

b

yn unol ag adran 26(4)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, wedi ymgynghori â'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur2, sef y corff cynghori y mae Gweinidogion Cymru o'r farn sy'n gallu cynghori orau a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.

Trwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19813, mae Gweinidogion Cymru4 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 23 Ebrill 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Amrywio Atodlen 42

1

Diwygir Atodlen 45 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (adar y mae'n rhaid eu cofrestru a'u modrwyo os cedwir hwy yn gaeth) fel a ganlyn.

2

Hepgorir yr adar canlynol—

Common name

Scientific name

Bunting, Cirl

Emberiza cirlus

Bunting, Lapland

Calcarius lapponicus

Bunting, Snow

Plectrophenax nivalis

Eagle, Adalbert's

Aquila adalberti

Eagle, Great Philippine

Pithecophaga jefferyi

Eagle. Imperial

Aquila heliaca

Eagle, New Guinea

Harpyopsis novaeguineae

Chough

Pyrrhocorax pyrrhocorax

Crossbills (all species)

Loxia spp

Falcon, Barbary

Falco pelegrinoides

Falcon, Gyr

Falco rusticolus

Fieldfare

Turdus pilaris

Firecrest

Regulus ignicapillus

Fish-Eagle, Madagascar

Haliaeetus vociferoides

Forest-Falcon, Plumbeous

Micrastur plumbeus

Harrier, Hen

Circus cyaneus

Hawk, Galapagos

Buteo galapagoensis

Hawk, Grey-backed

Leucopternis occidentalis

Hawk, Hawaiian

Buteo solitarius

Hawk, Ridgway's

Buteo ridgwayi

Hawk, White-necked

Leucopternis lacernulata

Hawk-Eagle, Wallace's

Spizaetus nanus

Hobby

Falco subbuteo

Honey-Buzzard, Black

Henicopernis infuscatus

Kestrel, Lesser

Falco naumanni

Kestrel, Mauritius

Falco punctatus

Kite, Red

Milvus, milvus

Oriole, Golden

Oriolus, oriolus

Redstart, Black

Phoenicurus ochruros

Redwing

Turdus iliacus

Sea-Eagle, Pallas'

Haliaeetus leucoryphus

Sea-Eagle, Steller's

Haliaeetus pelagicus

Serin

Serinus serinus

Serpent-Eagle, Andaman

Spilornis elgini

Serpent-Eagle, Madagascar

Eutriorchis astur

Serpent-Eagle, Mountain

Spilornis kinabaluensis

Shorelark

Eremophila alpestris

Shrike, Red-backed

Lanius collurio

Sparrowhawk, Gundlach's

Accipiter gundlachi

Sparrowhawk, Imitator

Accipiter imitator

Sparrowhawk, New Britain

Accipiter brachyurus

Sparrowhawk, Small

Accipiter nanus

Tit, Bearded

Panurus biarmicus

Tit, Crested

Parus cristatus

Warbler, Cetti's

Cettia cetti

Warbler, Dartford

Sylvia undata

Warbler, Marsh

Acrocephalus palustris

Warbler, Savi's

Locustella luscinioides

Woodlark

Lullula arborea

Wryneck

Jynx torquilla

3

Hepgorir y geiriau “Any bird one of whose parents or other lineal ancestor was a bird of a kind specified in the foregoing provisions of this Schedule”.

Dirymu3

Dirymir Erthygl 3 o Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(Amrywio Atodlen 4).

Jane DavidsonY Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”), ynghyd â Rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, yn darparu at gyfer cofrestru a modrwyo neu farcio adar a gedwir mewn caethiwed ac a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r adar a restrir yn yr erthygl honno oddi ar Atodlen 4 i'r Ddeddf. Mae hefyd yn tynnu allan y cyfeiriad at gymysgrywiau fel nad yw Atodlen 4 bellach yn cynnwys cymysgrywiau o'r rhywogaethau o adar ar y rhestr.

O'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, dyma'r adar a gynhwysir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf

Enw cyffredin

Enw gwyddonol

Buzzard, Honey

Pernis apivorus

Eagle, Golden

Aquila chrysaetos

Eagle, White-tailed

Haliaeetus albicilla

Falcon, Peregrine

Falco peregrinus

Goshawk

Accipiter gentilis

Harrier, Marsh

Circus aeruginosus

Harrier, Montagu's

Circus pygargus

Merlin

Falco columbarius

Osprey

Pandion haliaetus

Mae Erthygl 4 yn cynnwys dirymiad canlyniadol o Erthygl 3 o Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector wirfoddol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Mae copi o'r Asesiad Effaith ar gael gan Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Yr Uned Natur, Mynediad a'r Môr, Adeiladau'r Goron, Stryd y Dollborth, Aberystwyth, neu gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar www.cynulliadcymru.org .