Rheoliad 19
ATODLEN 3LL+CTrwyddedau, etc.
1. Mae'r canlynol yn drwyddedau at ddibenion rheoliad 19(3) i'r graddau y maent yn ymwneud â gweithgaredd yn Atodlen 2—LL+C
(a)trwydded a roddir o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007() neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hynny;
(b)trwydded a roddir o dan Ran II o Ddeddf Bwyd a Diogelu'r Amgylchedd 1985();
(c)cydsyniad gollwng dŵr, gorchymyn sychder cyffredin neu orchymyn sychder brys neu drwydded sychder o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991();
(ch)awdurdodiad o dan Reoliadau Dŵr Daear 1998();
(d)trwydded tynnu dŵr neu drwydded cronni dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;
(dd)cymeradwyaeth o blaleiddiad o dan Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986(), awdurdodiad o gynnyrch bywleiddiol o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddiol 2001() neu awdurdodiad o blaleiddiad o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2005().