xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 19 a 21
1. Mae'r Rhan hon yn gymwys os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Rhaid i hysbysiad o apêl gynnwys—LL+C
(a)copi o'r hysbysiad neu'r hysbysiad adfer yr apelir yn ei erbyn; a
(b)seiliau'r apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
3. Pan ddaw hysbysiad i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r hysbysiad am apêl i'r awdurdod gorfodi, a rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon copi ar unwaith at unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod ganddo fuddiant arbennig ym mhwnc yr apêl, a hysbysu Gweinidogion Cymru o bwy y mae wedi'i hysbysu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
4. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd o'r terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r apelydd ddarparu mewn ysgrifen—LL+C
(a)datganiad o achos; a
(b)pob gohebiaeth berthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
5. Pan ddaw'r rhain i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon yr holl ddogfennau i'r awdurdod gorfodi, gan roi i'r awdurdod gorfodi derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid iddo roi ymateb ysgrifenedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
6. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r un pryd unrhyw berson a hysbyswyd o dan baragraff 3 o'r terfyn amser o dan baragraff 5 a'i wahodd i gyflwyno sylwadau erbyn y dyddiad hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
7. Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu wedyn a oes angen tystiolaeth bellach, a rhoi cyfarwyddiadau'n unol â hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
8. Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio'r apêl wedyn i berson a benodwyd ganddynt i ymdrin â'r apêl, gan ddatgan wrth y person penodedig a oes rhaid ymdrin â'r apêl drwy weithdrefn ysgrifenedig ai peidio ynteu a oes rhaid cynnal gwrandawiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
9. Ar ôl i'r apêl gael ei chwblhau gan y person penodedig, rhaid iddo benderfynu'r mater neu, os caiff ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn bod y penderfyniad wedi'i wneud, gyflwyno argymhelliad i Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu'r apêl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
10. Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau'r partïon (gan gynnwys partïon sy'n cyflwyno sylwadau) y gwêl yn dda.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
11. Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi, mae'r gweithdrefnau yn Rhan 1 yn gymwys ac eithrio—LL+C
(a)bod rhaid i Weinidogion Cymru benodi person cyn gynted â bod hysbysiad o apêl yn dod i law;
(b)bod rhaid i'r person penodedig gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru a bennwyd yn y Rhan honno; ac
(c)bod rhaid i'r person penodedig benderfynu'r apêl ym mhob achos.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)