Rhagofalon rhag lledaenu haint
18.—(1) Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni bod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail o'r fath, wneud yn ofynnol bod y ceidwad —
(a)yn trin ac yn storio tail neu slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath yn unol â gofynion yr hysbysiad;
(b)yn ymatal rhag gwasgaru unrhyw dail neu chwistrellu neu wasgaru unrhyw slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath, ac eithrio yn unol â gofynion yr hysbysiad;
(c)yn ymatal rhag symud unrhyw dail, slyri neu unrhyw wastraff anifail arall o'r fangre, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;
(ch)yn cymryd pa bynnag gamau sy'n rhesymol ymarferol i rwystro unrhyw anifail buchol yn y fangre rhag heintio unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre gyffiniol;
(d)yn trefnu ar gyfer ynysu unrhyw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, ym mha bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir;
(dd)yn sicrhau na chaiff unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, eu defnyddio gan unrhyw anifail buchol sydd yn y fangre, neu gan ba bynnag anifail neu anifeiliaid a bennir yn yr hysbysiad;
(e)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, y cyfryw ran neu rannau o'r fangre, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad;
(f)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pob teclyn a phob eitem arall a ddefnyddiwyd ar gyfer ac o gwmpas anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad; ac
(ff)cymryd pa bynnag gamau eraill a ystyrir yn briodol gan yr arolygydd milfeddygol.
(2) Os yw'r ceidwad yn methu â chydymffurfio â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill, oddi wrth y ceidwad, swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol.