xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2136 (Cy.192)

TRAFNIDIAETH A GWEITHFEYDD, CYMRU

Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

Gwnaed

25 Awst 2010

Yn dod i rym

27 Awst 2010

Gwnaed cais i Weinidogion Cymru yn unol â Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006(1) am Orchymyn o dan adrannau 1 a 5 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(2) (“Deddf 1992”).

Cafodd gwrthwynebiadau i'r cais hwnnw eu tynnu'n ôl.

Mae Gweinidogion Cymru, o fod wedi ystyried adroddiad y person a ofynnwyd ganddynt i ddarparu arfarniad o'r cais, wedi penderfynu gwneud Gorchymyn yn rhoi eu heffaith i'r cynigion sy'n ffurfio'r cais gydag addasiadau nad ydynt ym marn Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw newid sylweddol i'r cynigion.

Cyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru yn y London Gazette ar 24 Awst 2010.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 1, 2, 5, 7, 8, 11 i 13 a 15 i 17 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:–

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010 a daw i rym ar 27 Awst 2010.

(2Caniateir enwi Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn Llangollen a Chorwen 1984(3) a'r Gorchymyn hwn gyda'i gilydd fel Gorchmynion Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1984 a 2010.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

(2Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu oddi tano, neu yn y gofod awyr uwchben ei arwynebedd.

(3Brasgywir yn unig yw pob pellter, cyfeiriad a hyd a roddir mewn disgrifiad o'r gwaith rhestredig neu mewn unrhyw ddisgrifiad o bwerau neu o diroedd a chymerir y bydd pellteroedd rhwng pwyntiau ar waith rhestredig wedi'u mesur ar hyd y gwaith rhestredig.

Ymgorffori Deddf Cydgrynhoi Cymalau Rheilffyrdd 1845

3.—(1Caiff y darpariaethau a ganlyn o Deddf Cydgrynhoi Ymgorffori Cymalau Rheilffyrdd 1845(11) eu hymgorffori yn y Gorchymyn hwn—

(2Yn y darpariaethau hynny, fel y'u hymgorfforir yn y Gorchymyn hwn—

RHAN 2DARPARIAETHAU AM WEITHFEYDD

Prif bwerau

Y pŵer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd

4.—(1Caiff yr ymgymerwr adeiladu a chynnal a chadw'r gwaith rhestredig.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 6 (y pŵer i wyro), ni chaniateir adeiladu'r gwaith rhestredig ond yn unig ar y llinellau neu yn y sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd ac yn unol â'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau hynny.

Y pŵer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd ategol

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr wneud a chynnal a chadw pa rai bynnag o'r gweithfeydd a ganlyn ag a ddichon fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu'r gwaith rhestredig, neu at ddibenion ategol i hynny, sef—

(a)gweithfeydd i altro safle cyfarpar, gan gynnwys prif bibellau, carthffosydd, traeniau a cheblau;

(b)gweithfeydd i altro llwybr cwrs dŵr, neu i ymyrryd mewn modd arall ag ef;

(c)tirweddu a gweithfeydd eraill i liniaru unrhyw effeithiau andwyol a gaiff adeiladu, cynnal a chadw neu weithio'r gwaith rhestredig;

(ch)gweithfeydd er buddiant neu er diogelwch mangreoedd y mae'r gwaith rhestredig yn effeithio arnynt.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr wneud y fath weithfeydd eraill (o ba natur bynnag) ag a ddichon fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu'r gwaith rhestredig, neu at ddibenion ategol i hynny.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr yn benodol o fewn y tir a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 2 (gweithfeydd ychwanegol) wneud a chynnal a chadw unrhyw weithfeydd a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen gyda'r holl weithfeydd a'r cyfleusterau angenrheidiol sy'n gysylltiedig â'r gweithfeydd hynny.

(4Nid yw paragraffau (1) i (3) yn awdurdodi gwneud gweithfeydd neu waith cynnal a chadw y tu allan i derfynau'r gwyriad ond yn unig os yw'r cyfryw weithfeydd yn cael eu gwneud o fewn y terfynau pellach.

Y pŵer i wyro

6.  Wrth adeiladu neu gynnal a chadw'r gwaith rhestredig, caiff yr ymgymerwr—

(a)gwyro'n llorweddol oddi wrth y llinellau neu'r sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd hyd eithaf terfynau'r gwyriad ar gyfer y gwaith hwnnw; a

(b)gwyro'n fertigol oddi wrth y lefelau a ddangosir ar y trawsluniau—

(i)i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 3 metr tuag i fyny; neu

(ii)i unrhyw raddau tuag i lawr ag y canfyddir sy'n angenrheidiol neu'n hwylus.

Strydoedd

Mynediad at weithfeydd

7.—(1Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion y gweithfeydd rhestredig—

(a)ffurfio a gosod mynedfeydd, neu wella mynedfeydd presennol, yn y lleoliad a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 3 (mynediad at weithfeydd) at y briffordd a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno; a

(b)gyda chymeradwyaeth yr awdurdod priffyrdd, ac nid yw'r cyfryw gymeradwyaeth i'w dal yn ôl yn afresymol, ffurfio a gosod mynedfeydd eraill, neu wella mynedfeydd presennol, yn y fath leoliadau o fewn terfynau'r Gorchymyn ag sydd yn rhesymol ofynnol gan yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig.

(2Os yw awdurdod priffyrdd sy'n cael cais am gydsyniad o dan baragraff (1) yn methu â hysbysu'r ymgymerwr o'i benderfyniad cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y gwnaed y cais arno, bernir bod yr awdurdod hwnnw wedi cydsynio iddo.

Croesfannau, etc.

8.—(1Caiff yr ymgymerwr adeiladu'r rheilffordd estyniadol fel ei fod yn mynd ar y gwastad ar draws llwybr troed FP 61 (“y llwybr troed”) 435 o fetrau i'r de-orllewin o Orsaf Carrog.

(2Wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon caiff yr ymgymerwr altro lefel y llwybr troed.

(3Yn ystod adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig ac at y diben hwnnw caiff yr ymgymerwr, wedi iddo ymgynghori â'r awdurdod strydoedd dros y llwybr troed, rwystro pawb am unrhyw gyfnod rhesymol rhag mynd ar hyd pa faint bynnag o'r llwybr troed ag sydd o fewn terfynau'r gwyriad.

(4Caiff yr awdurdod priffyrdd a'r ymgymerwr wneud cytundebau mewn perthynas ag adeiladu a chynnal a chadw'r groesfan a awdurdodir gan yr erthygl hon; a chaiff cytundeb o'r fath gynnwys telerau o ran taliadau neu faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y partïon.

(5Bydd gan unrhyw un sy'n cael colled oherwydd atal dros dro unrhyw hawl tramwy preifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael iawndal, y dyfernir arno, mewn achos o anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Pwerau atodol

Gollwng dŵr

9.—(1Caiff yr ymgymerwr wneud defnydd o unrhyw gwrs dŵr neu draen i ddraenio dŵr mewn cysylltiad ag adeiladu neu gynnal a chadw'r gweithfeydd awdurdodedig, ac at y diben hwnnw caiff osod, codi neu altro pibellau, a chaiff, ar unrhyw dir o fewn terfynau'r Gorchymyn, dorri agoriadau i mewn i'r cwrs dŵr neu i'r draen, a gwneud cysylltiadau â hwy.

(2Rhaid i'r ymgymerwr beidio â gollwng unrhyw ddŵr i unrhyw gwrs dŵr, na thraen ac eithrio gyda chydsyniad y sawl y mae'n perthyn iddo; a chaniateir rhoi'r cydsyniad hwnnw ar y fath delerau ac amodau a osodir yn rhesymol gan y person hwnnw, ond rhaid iddo beidio â'i ddal yn ôl yn afresymol.

(3Rhaid i'r ymgymerwr beidio â thorri agoriad i mewn i unrhyw draen ac eithrio—

(a)yn unol â phlaniau a gymeradwywyd gan y sawl y mae'r draen yn perthyn iddo, ond rhaid iddo beidio â dal yn ôl y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol; a

(b)pan fo'r person hwnnw wedi cael cyfle i oruchwylio torri'r agoriad.

(4Rhaid i'r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, beidio â difrodi nac ymyrryd â gwely na glannau unrhyw gwrs dŵr sy'n ffurfio rhan o brif afon.

(5Rhaid i'r ymgymerwr gymryd y fath gamau ag sydd yn rhesymol ymarferol i sicrhau bod unrhyw ddŵr a ollyngir i gwrs dŵr neu draen o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mor rhydd ag sy'n ymarferol rhag gro, pridd neu sylwedd solet arall, olew neu fater sydd mewn daliant.

(6Nid yw'r erthygl hon yn awdurdodi i unrhyw fater fynd i mewn i ddyfroedd rheoledig pan fo ei fynd i mewn neu ei ollwng i ddyfroedd rheoledig wedi ei wahardd gan adran 85(1), (2) neu (3) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(12).

(7Os yw person sy'n cael cais am gydsyniad o dan baragraff (2) neu am gymeradwyaeth o dan baragraff (3)(a) yn methu â hysbysu'r ymgymerwr o'i benderfyniad cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y gwnaed y cais arno, bernir bod y person hwnnw wedi rhoi'r cydsyniad neu'r gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd.

(8Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “traen” (“drain”) yw traen sy'n perthyn i Asiantaeth yr Amgylchedd, bwrdd traenio mewnol, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru; a

(b)mae i ymadroddion eraill, ac eithrio cyrsiau dŵr, a ddefnyddir yn nhestun Saesneg yr erthygl hon ac yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.

RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amddiffyniad i achosion cyfreithiol mewn perthynas â niwsans statudol

10.—(1Os dygir achos cyfreithiol o dan adran 82(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(13) (achos gerbron ynadon gan berson a dramgwyddir gan niwsans statudol) mewn perthynas â niwsans sy'n dod o fewn paragraff (g) o adran 79(1) o'r Ddeddf honno (sŵn sy'n dod o fangre fel ei fod yn rhagfarnu iechyd neu'n niwsans) rhaid peidio â gwneud gorchymyn, ac ni chaniateir gosod dirwy, o dan adran 82(2) o'r Ddeddf honno os dengys y diffynnydd—

(a)bod y niwsans yn ymwneud â mangre a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd awdurdodedig ac y gellir tadogi'r niwsans ar wneud y gweithfeydd awdurdodedig sy'n cael eu gwneud yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(14) neu â chydsyniad a roddwyd o dan adran 61 neu 65 o'r Ddeddf honno; neu

(b)bod y niwsans yn ganlyniad i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi.

(2Ni fydd y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, sef—

(a)adran 61(9) (bod cydsyniad i waith ar safle adeiladu i gynnwys datganiad nad yw ynddo'i hun yn ffurfio amddiffyniad mewn achos cyfreithiol o dan adran 82 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990), a

(b)adran 65(8) (darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â chydsyniad i fynd dros ben lefel sŵn cofrestredig),

yn gymwys pan fo'r cydsyniad yn ymwneud â defnydd o fangre gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd.

(3Gwneir darpariaethau'r erthygl hon heb ragfarnu cymhwysiad adran 122 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(15) (awdurdod statudol fel amddiffyniad i achosion mewn niwsans, etc.) at y gweithfeydd awdurdodedig nac i gymhwysiad unrhyw reol mewn cyfraith gwlad sy'n cael effaith gyffelyb.

Caniatâd cynllunio a materion atodol

11.—(1O ran cymhwyso paragraff 3(c) o'r Ail Atodlen o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) 1969(16) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 3(ii) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) (Diwygio) a (Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth) (Achosion a Eithrir) 1975(17), neu fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed), rhaid trin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn barnu bod y caniatâd wedi ei roi ar gais a wnaed o dan Ran 3 o'r Ddeddf honno at ddibenion y Rhan honno.

(2O ran cymhwyso erthygl 5(1)(d) o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(18) fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed neu fel y mae'n cael ei effaith yn rhinwedd rheoliad 10(1)(a) o'r Rheoliadau hynny, rhaid peidio â thrin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio amlinellol.

(3Rhaid trin caniatâd cynllunio y bernir drwy gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 ei fod wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o'r Ddeddf honno (achosion pan fo tir i gael ei drin fel tir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).

Y pŵer i docio coed sy'n tyfu dros ben y gweithfeydd awdurdodedig

12.—(1Caiff yr ymgymerwr dorri i lawr neu docio unrhyw goeden neu berth gerllaw unrhyw ran o'r gweithfeydd awdurdodedig, neu dorri eu gwreiddiau'n ôl, os yw'n credu'n rhesymol bod angen gwneud hynny er mwyn rhwystro'r goeden neu'r berth—

(a)rhag rhwystro neu ymyrryd ag adeiladu, cynnal a chadw neu weithio'r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir yn y gweithfeydd awdurdodedig; neu

(b)rhag bod yn berygl i deithwyr neu i bobl eraill sy'n defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Wrth arfer pwerau paragraff (1), rhaid i'r ymgymerwr beidio â gwneud difrod dianghenraid i unrhyw goeden na pherth a rhaid iddo dalu iawndal i unrhyw berson am unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi o arfer y pwerau hynny.

(3Dyfernir ar unrhyw anghydfod parthed hawl person i iawndal o dan baragraff (2), neu parthed swm yr iawndal, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Y pŵer i weithio ac i ddefnyddio'r rheilffordd

13.—(1Caiff yr ymgymerwr weithio a defnyddio'r rheilffordd estyniadol a gweithfeydd awdurdodedig eraill fel system drafnidiaeth i gludo teithwyr a nwyddau, neu ran o system felly.

(2Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a ymgorfforir gyda'r Gorchymyn hwn neu a gymhwysir ganddo, yn rhagfarnu nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(19).

Y pŵer i godi taliadau am docynnau teithio

14.  Caiff yr ymgymerwr hawlio, cymryd ac adennill neu ildio codi'r cyfryw daliadau am gludo teithwyr neu nwyddau ar y rheilffordd estyniadol neu am unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill a ddarperir mewn cysylltiad â gweithio'r rheilffordd honno, ag y gwêl yn dda.

Cymhwyso deddfiadau

15.—(1Yn yr erthygl hon ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—

(a)o ran pa faint bynnag o'r hen reilffordd sydd ym mherchnogaeth yr ymgymerwr neu sydd wedi'i phrydlesu iddo ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, y dyddiad hwnnw; a

(b)o ran unrhyw ran o'r hen reilffordd nad yw ar y dyddiad hwnnw o dan y cyfryw berchnogaeth neu brydles, y dyddiad pan werthir neu pan brydlesir y rhan honno i'r ymgymerwr.

(2Oni bai bod y Gorchymyn hwn yn darparu'n wahanol, o'r dyddiad perthnasol ymlaen—

(a)bydd yr hen reilffordd neu unrhyw ran ohoni yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bob darpariaeth statudol a darpariaeth arall sy'n gymwys i'r hen reilffordd ar y dyddiad hwnnw (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith); a

(b)bydd yr ymgymerwr, gan gau allan BRB (Residuary) Limited—

(i)yn cael yr hawl i'r buddiant o'r holl hawliau, y pwerau a'r breintiau sy'n ymwneud â'r hen reilffordd, a'r hawl i'w harfer; a

(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn ddarostyngedig i'r holl rwymedigaethau, statudol neu eraill, sy'n ymwneud â'r hen reilffordd (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith), gyda'r bwriad y bydd BRB (Residuary) Limited yn cael ei ryddhau o bob cyfryw rwymedigaeth.

(3Mae unrhyw ddeddfiad yr awdurdodwyd adeiladu a gweithio'r hen reilffordd drwyddo yn cael ei effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(4Yn yr erthygl hon ystyr “BRB (Residuary) Limited” yw'r cwmni o'r enw hwnnw sy'n dwyn y rhif cofrestredig 4146505 a chyda'i swyddfa gofrestredig yn 14 Pentonville Road, Llundain, N1 9HF.

Cymhwyso is-ddeddfau i'r rheilffordd estyniadol

16.—(1Bydd yr is-ddeddfau a wnaed gan Gymdeithas Rheilffordd Llangollen Cyfyngedig mewn perthynas â'r rheilffordd bresennol ac a gadarnhawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 4 Gorffennaf 1986 yn gymwys i'r rheilffordd estyniadol megis y maent yn gymwys i'r rheilffordd bresennol.

(2Bydd paragraff (1) yn cael ei effaith mewn perthynas â'r rheilffordd estyniadol neu unrhyw ran ohoni ar y dyddiad y bydd y rheilffordd honno neu unrhyw ran ohoni wedi ei chwblhau ac ar agor i draffig ac o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Trosglwyddo'r rheilffyrdd gan yr ymgymerwr

17.—(1Yn yr erthygl hon—

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff yr ymgymerwr—

(a)brydlesu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson; neu

(b)gwerthu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson;

ar y fath delerau ac amodau ag y cytuna'r ymgymerwr a'r trosglwyddai arnynt.

(3Rhaid i'r ymgymerwr beidio â phrydlesu na gwerthu'r rheilffyrdd, nac unrhyw ran ohonynt, o dan yr erthygl hon i unrhyw berson ac eithrio gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4Oni bai bod y Gorchymyn hwn yn darparu'n wahanol,

(a)bydd yr ymgymeraeth a drosglwyddir yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bob darpariaeth statudol a darpariaeth arall sy'n gymwys i'r ymgymeraeth a drosglwyddir ar ddyddiad y brydles neu'r gwerthiant (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith); a

(b)bydd y trosglwyddai, gan gau allan yr ymgymerwr, (i) yn cael yr hawl i'r buddiant o'r holl hawliau, y pwerau a'r breintiau sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir, a'r hawl i'w harfer, a (ii) yn ddarostyngedig i'r holl rwymedigaethau, statudol neu eraill, sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith) gyda'r bwriad y bydd yr ymgymerwr yn cael ei ryddhau o bob cyfryw rwymedigaeth.

(5Bydd paragraff (4) yn cael effaith yn ystod cyfnod unrhyw brydles a roddir o dan is-baragraff (2)(a) ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant o dan is-baragraff (2)(b).

Cymhwyso cyfraith landlord a thenant

18.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys—

(a)i unrhyw gytundeb i brydlesu'r cyfan neu unrhyw ran o'r rheilffyrdd neu'r hawl i weithio'r cyfryw i unrhyw berson; a

(b)i unrhyw gytundeb a wneir gan yr ymgymerwr gydag unrhyw berson i adeiladu, i gynnal a chadw, i ddefnyddio neu i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig, neu unrhyw ran ohonynt,

i'r graddau y mae unrhyw gytundeb o'r fath yn ymwneud â'r telerau y mae unrhyw dir sy'n ddarostyngedig i brydles a roddwyd gan y cytundeb hwnnw neu oddi tano i gael ei ddarparu at ddefnydd y person hwnnw.

(2Ni fydd unrhyw ddeddfiad na rheol gyfreithiol sy'n rheoleiddio hawliau a rhwymedigaethau landlordiaid a thenantiaid yn rhagfarnu gweithrediad unrhyw gytundeb y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo.

(3Yn unol â hynny, ni fydd deddfiad na rheol gyfreithiol o'r fath yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau partïon i unrhyw brydles a roddwyd drwy unrhyw gytundeb o'r fath neu oddi tano fel ei bod—

(a)yn cau allan neu mewn unrhyw fodd yn addasu unrhyw un neu ragor o hawliau a rhwymedigaethau'r partïon hynny o dan delerau'r brydles, boed hynny mewn perthynas â dirwyn y denantiaeth i ben neu unrhyw fater arall;

(b)yn rhoi neu'n gosod ar unrhyw barti o'r fath unrhyw hawl neu rwymedigaeth sy'n codi allan o unrhyw beth sy'n cael ei wneud neu sy'n ddiffygiol o gael ei wneud neu sy'n gysylltiedig â hynny mewn perthynas â thir sy'n ddarostyngedig i'r brydles, yn ychwanegol at unrhyw hawl neu rwymedigaeth o'r fath y darperir ar ei gyfer yn nhelerau'r brydles; neu

(c)yn cyfyngu unrhyw barti i'r brydles rhag gorfodi (boed hynny drwy achos am iawndal neu mewn modd arall) unrhyw rwymedigaeth sydd ar unrhyw barti arall o dan y brydles.

Rhwystro adeiladu gweithfeydd awdurdodedig

19.  Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr wrth osod llinellau'r gwaith rhestredig neu wrth adeiladu unrhyw waith awdurdodedig; neu

(b)yn ymyrryd â, neu'n symud neu'n symud ymaith unrhyw gyfarpar sy'n perthyn i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr,

yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Tresmasu

20.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn tresmasu ar unrhyw ran o'r rheilffyrdd; neu

(b)yn tresmasu ar unrhyw dir i'r ymgymerwr yn beryglus o agos at y rheilffyrdd neu at unrhyw gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithio'r rheilffyrdd neu mewn cysylltiad â hynny,

yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Ni chaiff neb ei gollfarnu o dramgwydd o dan yr erthygl hon oni ddangosir bod hysbysiad yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio â thresmasu ar y rheilffyrdd wedi ei arddangos yn glir ac yn cael ei gynnal a'i gadw ar yr orsaf reilffordd agosaf at y man lle'r honnir y cafodd y tramgwydd ei gyflawni.

Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd

21.  Bydd Atodlen 4 yn cael ei heffaith.

Er mwyn diogelu Dŵr Cymru Cyfyngedig

22.  Bydd Atodlen 5 yn cael ei heffaith.

Ardystio planiau, etc.

23.  Rhaid i'r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r trawsluniau ac o'r planiau gwaith i Weinidogion Cymru iddynt ardystio eu bod, yn eu tro, yn gopïau cywir o'r trawsluniau a'r planiau gwaith y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac fe dderbynnir dogfen a ardystiwyd yn y modd hwnnw mewn unrhyw achos cyfreithiol fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.

Cyflwyno hysbysiadau

24.—(1Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol ei chyflwyno neu y mae awdurdod i'w chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)drwy'r post; neu

(b)gyda chydsyniad y sawl sydd i'w derbyn ac yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8) drwy drosglwyddiad electronig.

(2Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, mae'r hysbysiad neu'r ddogfen wedi ei chyflwyno'n briodol os cyflwynwyd hi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(3At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(20) fel y mae i'w chymhwyso at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1), os rhoddodd y person hwnnw gyfeiriad ar gyfer cyflwyno yw'r cyfeiriad hwnnw, ac fel arall—

(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw; a

(b)yn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar adeg y cyflwyno.

(4Os yw'n ofynnol, neu os oes awdurdod, at ddibenion y Gorchymyn hwn, bod hysbysiad neu ddogfen arall yn cael ei chyflwyno i berson oherwydd bod ganddo unrhyw fuddiant mewn tir, neu ei fod yn feddiannydd tir, ac na ellir canfod enw neu gyfeiriad y person hwnnw wedi ymholi rhesymol caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—

(a)ei gyfeirio at y person hwnnw wrth ei enw neu drwy ei ddisgrifio fel “perchennog”, neu yn ôl y digwydd “meddiannydd”, y tir (gan ddisgrifio'r tir); a

(b)naill ai ei adael yn nwylo'r person sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio ar y tir neu wedi'i gyflogi ar y tir, neu ludo'r hysbysiad yn amlwg i ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu yn agos ato.

(5Os cyflwynir neu os anfonir hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol eu cyflwyno neu eu hanfon at ddibenion y Gorchymyn hwn drwy drosglwyddiad electronig cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni os yw'r sawl sy'n cael yr hysbysiad neu'r ddogfen arall i'w trosglwyddo wedi rhoi ei gydsyniad i ddefnyddio trosglwyddiad electronig naill ai yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig.

(6Os yw'r sawl sy'n cael hysbysiad neu ddogfen arall a gyflwynir neu a anfonir drwy drosglwyddiad electronig yn hysbysu'r anfonwr o fewn 7 diwrnod i gael y ddogfen fod ar y sawl sy'n cael y ddogfen angen copi ar bapur o'r cyfan neu unrhyw ran o'r hysbysiad hwnnw neu'r ddogfen arall honno rhaid i'r anfonwr ddarparu copi o'r fath cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(7Caniateir i berson sydd wedi rhoi unrhyw gydsyniad i ddefnyddio trosglwyddiad electronig ddirymu'r cydsyniad hwnnw yn unol â pharagraff (8).

(8Os nad yw person mwyach yn fodlon derbyn trosglwyddiad electronig at unrhyw un neu ragor o ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig yn dirymu unrhyw gydsyniad a roddodd at y diben hwnnw; a

(b)bydd y cyfryw ddirymiad yn derfynol ac yn cael ei effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni fydd y dyddiad hwnnw lai na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno.

(9Ni ellir cymryd bod yr erthygl hon yn cau allan defnyddio unrhyw ddull o gyflwyno na ddarperir yn benodol ar ei gyfer ynddi.

Dim adennill dwbl

25.  Ni fydd iawndal yn daladwy mewn perthynas â'r un mater o dan y Gorchymyn hwn ac yn ogystal o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

Cymrodeddu

26.  Cyfeirir unrhyw wahaniaeth o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, oni wneir darpariaeth wahanol ar ei gyfer, at un cymrodeddwr y bydd y partïon yn cytuno arno, neu yn niffyg cytundeb, a benodir ar gais y naill neu'r llall o'r partïon (wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r parti arall) gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a bydd yr un cymrodeddwr hwnnw yn dyfarnu ar y gwahaniaeth hwnnw.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.

25 Awst 2010

YR ATODLENNI

Erthygl 4(1)

ATODLEN 1Y GWAITH RHESTREDIG

Yn Sir Ddinbych, yng nghymuned Corwen—

Erthygl 5(3)

ATODLEN 2GWEITHFEYDD YCHWANEGOL

(1)(2)
TiroeddGweithfeydd ychwanegol
O fewn y rhan a ddangosir â chroeslinellau ar daflen 1 o blaniau'r gweithfeyddSymud ymaith arglawdd yr hen reilffordd .
Rhwng pwyntiau A1, A2, A3 ac A4 ar daflen 1 o blaniau'r gweithfeyddDarparu ffordd fynediad dros dro.
Rhwng pwyntiau B1, B2, B3 a B4 ar daflen 1 o blaniau'r gweithfeyddDarparu ffordd fynediad barhaol.
Rhwng pwyntiau C1 ac C2 ar daflen 1 o blaniau'r gweithfeyddCau a symud ymaith ffordd fynediad bresennol.
Rhwng pwyntiau D1, D2, D3 a D4 ar daflen 1 o blaniau'r gweithfeyddDarparu adeilad newydd i'r orsaf ynghyd â chyfleusterau atodol

Erthygl 7

ATODLEN 3MYNEDIAD AT WEITHFEYDD

(1)(2)
LleoliadY briffordd
Yng nghymuned Corwen, wrth bwyntiau B1 a B2 ar daflen 1 o blaniau'r gweithfeyddGreen Lane

Erthygl 21

ATODLEN 4ER MWYN DIOGELU ASIANTAETH YR AMGYLCHEDD

1.—(1Bydd y darpariaethau a ganlyn yn gymwys er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd onid oes cytundeb ysgrifenedig gwahanol rhwng yr ymgymerwr ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

(2Yn yr Atodlen hon—

2.—(1Cyn dechrau adeiladu unrhyw waith penodedig, rhaid i'r ymgymerwr gyflwyno planiau o'r gwaith penodedig i Asiantaeth yr Amgylchedd ynghyd ag unrhyw fanylion pellach sydd ganddo ag y dichon Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhesymol ofyn amdanynt o fewn 28 niwrnod o gyflwyno'r planiau.

(2Ni chaniateir adeiladu unrhyw waith penodedig o'r fath ac eithrio yn unol â'r fath blaniau ag y dichon fod wedi'u cymeradwyo yn ysgrifenedig gan Asiantaeth yr Amgylchedd, neu fod wedi'u penderfynu o dan baragraff 13.

(3O ran unrhyw gymeradwyaeth sy'n ofynnol oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid peidio â'i ddal yn ôl yn afresymol;

(b)bernir y bydd wedi cael ei roi os nad yw nac wedi ei roi nac wedi ei wrthod yn ysgrifenedig o fewn 2 fis o gyflwyno'r planiau i'w cymeradwyo ac mewn achos o wrthod, fod gyda'r gwrthodiad hwnnw ddatganiad o'r rhesymau dros wrthod; a

(c)caniateir ei roi yn ddarostyngedig i'r fath ofynion rhesymol ag y dichon Asiantaeth yr Amgylchedd eu gwneud er mwyn gwarchod unrhyw waith traenio neu bysgodfa, neu er mwyn gwarchod adnoddau dŵr, neu er mwyn atal llifogydd neu lygredd neu wrth gyflawni ei dyletswyddau amgylcheddol a'i dyletswyddau hamdden.

(4Rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd ymdrechu'n rhesymol i ymateb i gyflwyno unrhyw blaniau cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b).

3.  Mae'r gofynion y dichon Asiantaeth yr Amgylchedd eu gwneud o dan y paragraff hwnnw yn cynnwys yn benodol amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr adeiladu, a hynny ar ei gost ei hun, y fath weithfeydd amddiffynnol, boed hwy'n barhaol neu dros dro, yn ystod cyfnod adeiladu'r gweithfeydd penodedig (gan gynnwys darparu ponciau atal llifogydd, muriau neu argloddiau neu weithfeydd newydd eraill a chryfhau, trwsio neu adnewyddu ponciau, muriau neu argloddiau presennol) ag sydd yn rhesymol angenrheidiol—

(a)i warchod unrhyw waith traenio rhag difrod; neu

(b)i sicrhau nad amherir ar ei effeithiolrwydd at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd ac nad yw'r perygl o lifogydd yn cynyddu mewn modd arall oherwydd unrhyw waith penodedig.

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i unrhyw waith penodedig, a phob gwaith amddiffynnol a wnaed yn ofynnol gan Asiantaeth yr Amgylchedd dan baragraff 3, gael ei adeiladu—

(i)gyda phob prydlondeb rhesymol yn unol â'r planiau a gymeradwywyd, neu y bernir iddynt gael eu cymeradwyo neu eu cytuno o dan yr Atodlen hon; ac

(ii)er boddhad rhesymol Asiantaeth yr Amgylchedd,

a bydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yr hawl drwy ei swyddog i wylio ac arolygu adeiladu gweithiau o'r fath.

(2Rhaid i'r ymgymerwr roi dim llai na 14 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig i Asiantaeth yr Amgylchedd o'i fwriad i ddechrau adeiladu unrhyw waith penodedig a hysbysiad ysgrifenedig fod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau dim hwyrach na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad pan ddechreuwyd ei ddefnyddio.

(3Os adeiledir unrhyw ran o'r gweithfeydd awdurdodedig sy'n ffurfio strwythur mewn gwaith traenio, neu trosto neu oddi tano, mewn modd heb fod yn unol â gofynion yr Atodlen hon, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr, ar ei gost ei hun, gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon neu (os yw'r ymgymerwr yn dewis gwneud hynny, a bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cydsynio'n ysgrifenedig, heb atal y cyfryw gydsyniad yn afresymol) symud y gwaith awdurdodedig ymaith, ei altro neu ei dynnu i lawr a, phan fo angen ei symud ymaith, adfer y safle i'w gyflwr blaenorol i'r graddau ac o fewn y terfynau sy'n ofynnol yn rhesymol gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) a pharagraff 8, os, o fewn cyfnod rhesymol, a hwnnw heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad y cyflwynir hysbysiad o dan is-baragraff (3) i'r ymgymerwr, bydd yr ymgymerwr wedi methu â chychwyn cymryd camau i gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, ac yna symud ymlaen yn rhesymol ddi-ymdroi tuag at eu rhoi ar waith, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd wneud y gweithfeydd a bennir yn yr hysbysiad a chaniateir i'r Asiantaeth adennill unrhyw wariant a ddygir ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

(5Os cyfyd unrhyw anghydfod parthed a yw'n briodol cymhwyso is-baragraff (3) at unrhyw waith y cyflwynwyd hysbysiad ynglŷn ag ef o dan yr is-baragraff hwnnw, neu parthed pa mor rhesymol yw unrhyw ofyniad yn y cyfryw hysbysiad, rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd beidio, ac eithrio mewn argyfwng, ag arfer y pwerau a roddir gan is-baragraff (4) hyd nes bod dyfarniad terfynol wedi ei wneud ar yr anghydfod.

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon ac eithrio i'r graddau y mae Asiantaeth yr Amgylchedd neu berson arall yn atebol dros gynnal unrhyw waith o'r fath ac nad ydynt yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn, yna o'r adeg y cychwynnir adeiladu'r gweithfeydd penodedig rhaid i'r ymgymerwr gynnal a chadw unrhyw waith traenio mewn cyflwr a chywair da ac yn rhydd rhag rhwystrau pan fo'r gwaith hwnnw wedi'i leoli o fewn terfynau'r gwyriad neu ar dir yn naliadaeth yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd penodedig neu mewn cysylltiad â hwy, bydded y gwaith traenio hwnnw wedi'i adeiladu o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu boed eisoes mewn bodolaeth.

(2Os oes unrhyw waith traenio o'r fath y mae'r ymgymerwr yn atebol dros ei gynnal a'i gadw heb fod yn cael ei gynnal a'i gadw er boddhad rhesymol Asiantaeth yr Amgylchedd, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerwr drwsio ac adfer y gwaith, neu unrhyw ran o'r cyfryw waith, neu (os yw'r ymgymerwr yn dewis gwneud hynny a bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cydsynio'n ysgrifenedig, a rhaid peidio â dal y cydsyniad hwnnw yn ôl yn afresymol), i symud y gwaith ymaith ac adfer y safle i'r cyflwr yr oedd ynddo gynt, i'r fath raddau ac o fewn y fath derfynau ag sy'n rhesymol ofynnol gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff 8, os yw'r ymgymerwr, o fewn cyfnod rhesymol heb fod yn llai na 28 niwrnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir i'r ymgymerwr hysbysiad ynglŷn ag unrhyw waith o dan is-baragraff (2), wedi methu â dechrau cymryd camau i gydymffurfio â gofynion rhesymol yr hysbysiad, ac yna heb symud ymlaen yn rhesymol ddi-ymdroi tuag at eu rhoi ar waith, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio o'r fath a chaniateir i'r Asiantaeth adennill unrhyw wariant a ddygir yn rhesymol ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

(4Os cyfyd unrhyw anghydfod parthed pa mor rhesymol yw unrhyw ofyniad mewn hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (2), rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd beidio, ac eithrio mewn argyfwng, ag arfer y pwerau a roddir gan is-baragraff (3) uchod hyd nes bod dyfarniad terfynol wedi ei wneud ar yr anghydfod.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, os amherir ar effeithlonrwydd unrhyw waith traenio at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd oherwydd adeiladu unrhyw waith penodedig neu oherwydd methiant unrhyw waith penodedig, neu os gwneir difrod mewn modd arall i'r gwaith traenio hwnnw, rhaid i'r ymgymerwr drwsio'r amhariad neu'r difrod hwnnw er boddhad rhesymol Asiantaeth yr Amgylchedd ac os yw'r ymgymerwr yn methu â gwneud hynny, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd drwsio'r cyfryw ac adennill y gwariant a ddygir yn rhesymol ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

7.—(1Rhaid i'r ymgymerwr gymryd pob cam ag a ddichon fod yn rhesymol ymarferol i osgoi unrhyw ymyrraeth â rhydd symudiad pysgod mewn unrhyw bysgodfa yng nghyfnod adeiladu unrhyw waith penodedig.

(2Os perir difrod i'r bysgodfa oherwydd—

(i)adeiladu unrhyw waith penodedig; neu

(ii)methiant unrhyw waith o'r fath,

neu os oes gan Asiantaeth yr Amgylchedd reswm dros ddisgwyl bod difrod o'r fath yn ddichonadwy, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd gyflwyno hysbysiad i'r ymgymerwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd y fath gamau ag a ddichon fod yn rhesymol ymarferol i drwsio'r difrod, neu, yn ôl y digwydd, i amddiffyn y bysgodfa rhag difrod o'r fath.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff 8, os bydd yr ymgymerwr, o fewn hynny o amser a ddichon fod yn rhesymol ymarferol at y diben hwnnw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan Asiantaeth yr Amgylchedd o unrhyw ddifrod neu ddifrod disgwyliedig i'r bysgodfa, yn methu â chymryd y camau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), caiff Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd y camau hynny, a chaiff yr Asiantaeth adennill unrhyw wariant a ddygir yn rhesymol ganddi wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff 8, mewn unrhyw achos pan fo angen rhesymol i Asiantaeth yr Amgylchedd weithredu ar unwaith er mwyn sicrhau osgoi neu gwtogi'r perygl o ddifrod i'r bysgodfa, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd y fath gamau ag sy'n rhesymol at y diben hwnnw, a chaniateir i'r Asiantaeth adennill cost resymol gwneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr cyhyd â bod hysbysiad yn pennu'r camau hynny yn cael ei gyflwyno i'r ymgymerwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd, neu ddechrau cymryd, y camau a bennir yn yr hysbysiad.

8.  Nid oes dim ym mharagraffau 4(4), 5(3), 6, 7(3) a (4) yn awdurdodi Asiantaeth yr Amgylchedd i wneud gwaith ar unrhyw reilffordd weithredol, na gwaith sy'n effeithio arni heb gydsyniad yr ymgymerwr, ac nid atelir y cyfryw gydsyniad yn afresymol.

9.  Rhaid i'r ymgymerwr ryddarbed Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas â phob cost, arwystl a thraul a ddisgyn yn rhesymol arni neu y bydd yn rhaid iddi ei dalu neu y dichon ei dwyn—

(a)wrth archwilio neu gymeradwyo planiau o dan yr Atodlen hon; a

(b)wrth arolygu adeiladu'r gweithfeydd penodedig neu unrhyw weithfeydd amddiffynnol sy'n ofynnol gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan yr Atodlen hon.

10.—(1Heb effeithio ar ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon, rhaid i'r ymgymerwr ryddarbed Asiantaeth yr Amgylchedd rhag pob hawliad, gorchymyn, achos cyfreithiol, cost, iawndal, traul neu golled a ddichon gael ei wneud neu ei dwyn yn erbyn yr Asiantaeth, neu y gellir ei hadennill oddi wrthi neu a ddisgyn arni oherwydd—

(a)unrhyw ddifrod i unrhyw waith traenio sy'n amharu ar ei effeithiolrwydd at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd;

(b)unrhyw ddifrod i'r bysgodfa;

(c)unrhyw godi neu ostwng yn y lefel trwythiad ar dir cyffiniol â'r gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn neu unrhyw garthffosydd, traeniau neu gyrsiau dŵr;

(ch)unrhyw lifogydd neu lifogydd ehangach ar unrhyw diroedd o'r fath; neu

(d)ansawdd dŵr annigonol mewn unrhyw gwrs dŵr neu ddyfroedd wyneb eraill neu mewn unrhyw ddŵr daear,

a achosir gan, neu sy'n codi o, adeiladu un neu ragor o'r gweithfeydd neu o unrhyw weithred neu anwaith gan yr ymgymerwr, ei gontractwyr, ei asiantyddion neu ei gyflogeion tra'u bod wrthi ynglŷn â'r gwaith.

(2Rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd roi hysbysiad rhesymol i'r ymgymerwr o unrhyw hawliad neu orchymyn o'r fath ac ni chaniateir gwneud setliad na chyfaddawd arno heb gytundeb yr ymgymerwr, ac nid atelir y cyfryw gytundeb yn afresymol.

11.  Ni fydd y ffaith bod unrhyw waith neu unrhyw beth wedi ei weithredu neu ei wneud yn unol â phlan a gymeradwywyd, neu y bernir ei fod wedi ei gymeradwyo gan Asiantaeth yr Amgylchedd, neu er boddhad yr Asiantaeth, neu'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau neu ddyfarniad gan gymrodeddwr, yn rhyddhau'r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon.

12.  At ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(21) (tynnu dŵr ymaith a'i gronni) ac adran 109 o'r Ddeddf honno (parthed strwythurau mewn cyrsiau dŵr neu throstynt neu oddi tanynt) fel mae'n gymwys i adeiladu unrhyw waith penodedig, bernir y bydd unrhyw ganiatâd neu gymeradwyaeth a roddir neu y bernir ei fod wedi ei roi gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan yr Atodlen hon mewn perthynas â'r cyfryw waith adeiladu hefyd yn drwydded o dan y Bennod honno i rwystro neu i atal llif dyfroedd mewndirol wrth y pwynt hwnnw drwy weithfeydd cronni neu, yn ôl y digwydd, yn ganiatâd neu'n gymeradwyaeth o dan adran 109, ac ni fydd raid i'r ymgymerwr gyflwyno unrhyw hysbysiad a fyddai fel arall yn ofynnol gan adran 30 o ddywededig Ddeddf 1991 (sy'n ymwneud ag adeiladu dyfrdyllau a chyffelyb weithfeydd nad oes angen trwydded ar eu cyfer).

13.  Dyfernir ar unrhyw anghydfod a gyfyd rhwng yr ymgymerwr ac Asiantaeth yr Amgylchedd o dan yr Atodlen hon (ac eithrio gwahaniaeth parthed ei ystyr neu ei ddehongliad) drwy gymrodedd o dan erthygl 26 (cymrodeddu) os yw'r partïon yn cytuno ar hynny, ond fel arall dyfernir arno gan Weinidogion Cymru o gael ei gyfeirio atynt gan yr ymgymerwr neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd, wedi i'r naill roi hysbysiad ysgrifenedig i'r llall.

Erthygl 22

ATODLEN 5ER MWYN DIOGELU DŵR CYMRU CYFYNGEDIG

1.  Er mwyn diogelu Dŵr Cymru Cyfyngedig (“y Cwmni”), onid oes cytundeb ysgrifenedig gwahanol rhwng yr ymgymerwr â'r Cwmni, mae'r darpariaethau a ganlyn yn cael eu heffaith mewn perthynas â gwneud y gweithfeydd awdurdodedig neu ag arfer unrhyw bwerau eraill a roddir gan y Gorchymyn hwn.

2.  Yn yr Atodlen hon—

3.  Nid yw'r Atodlen hon yn gymwys i gyfarpar y rheoleiddir y berthynas rhwng yr ymgymerwr a'r Cwmni mewn perthynas ag ef gan ddarpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 1991.

4.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn awdurdodi'r ymgymerwr i godi pibell berthnasol, na'i suddo nac i altro ei safle mewn modd arall, nac i ymyrryd â hi mewn unrhyw ffordd, heb gydsyniad ysgrifenedig y Cwmni, a rhaid peidio â dal y cydsyniad hwnnw'n ôl yn afresymol.

5.  Cyn cychwyn adeiladu, altro neu ailadeiladu unrhyw waith a fydd neu a ddichon fod wedi ei leoli uwchben neu o fewn 15 o fetrau a fesurir mewn unrhyw gyfeiriad o bibell berthnasol neu'n gosod unrhyw lwyth (ble bynnag y'i lleolir) yn union ar bibell berthnasol rhaid i'r ymgymerwr roi i'r Cwmni y fath blaniau priodol a digonol o'r gwaith ag a ddichon fod yn rhesymol ofynnol gan y Cwmni a rhaid iddo beidio â chychwyn ar y gwaith hyd nes bydd y fath blaniau ohono wedi eu cymeradwyo'n ysgrifenedig gan y Cwmni (ac nid atelir y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol) neu wedi eu setlo drwy gymrodeddu o dan erthygl 26.

6.  Os nad yw'r Cwmni, o fewn 56 diwrnod i'r diwrnod y rhoddir planiau i'r Cwmni o dan baragraff 5, yn mynegi ei anghymeradwyaeth a seiliau ei anghymeradwyaeth yn ysgrifenedig bernir bod y Cwmni wedi cymeradwyo'r planiau fel y'u rhoddwyd iddo.

7.  Fel amod i'w gymeradwyaeth o'r planiau a grybwyllwyd caiff y Cwmni ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw newidiadau o'r fath ag a ddichon fod yn rhesymol angenrheidiol yn cael eu gwneud er mwyn diogelu pibell berthnasol rhag ymyrraeth neu berygl o ddifrod ac i sicrhau mynediad hwylus ati ac mai dim ond yn unol â'r planiau a gymeradwywyd yn unol â'r atodlen hon y caiff y gwaith ei wneud.

8.  Ni fydd cymeradwyaeth y Cwmni o unrhyw blaniau o dan yr erthygl hon (yn absenoldeb esgeulustra ar ran y Cwmni) yn rhyddhau'r ymgymerwr o unrhyw atebolrwydd nac yn effeithio ar unrhyw hawliad am iawndal o dan yr atodlen hon.

9.  Pan fo pibell berthnasol wedi ei lleoli mewn neu oddi tan dir sydd mewn perchnogaeth neu dan ddaliadaeth at ddibenion y rheilffyrdd ac nad yw'n cael ei symud ymaith neu ei gwyro rhaid i'r ymgymerwr, a hynny ar ei draul ei hun, gynnal a chadw pob cwlfert uwchben pibellau perthnasol o'r fath sy'n bod pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym fel bod modd cael at y bibell berthnasol honno at ddibenion gwaith trwsio.

10.  Nid oes dim ym mharagraff 9 yn cael yr effaith o'i gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr wneud gweithfeydd cynnal a chadw mewn perthynas ag unrhyw gwlfert y mae'r Cwmni neu unrhyw berson arall yn atebol dros ei gynnal a'i gadw.

11.  Rhaid i'r ymgymerwr roi cyfleusterau rhesymol i'r Cwmni i gario allan a gwneud pob gwaith a phob peth ag sydd yn rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i archwilio, trwsio, cynnal a chadw, adnewyddu, amnewid, symud ymaith, altro neu ddefnyddio pibell berthnasol ac yn benodol i wneud unrhyw weithfeydd amddiffynnol neu unrhyw waith gwyro sy'n angenrheidiol oherwydd arfer pwerau'r Gorchymyn hwn.

12.—(1Pan fo'r ymgymerwr, yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon, yn rhoi at ddibenion y gweithfeydd penodedig, gyfleusterau a hawliau i'r Cwmni i adeiladu a chynnal a chadw cyfarpar amgen ar dir yr ymgymerwr i'w osod yn lle cyfarpar sydd i'w symud ymaith, fe roddir y cyfleusterau a'r hawliau hynny sy'n ddarostyngedig i baragraff 12(2) ar yr un telerau ac amodau â'r rheini sydd ynglŷn â'r cyfarpar y cymerwyd ei le, ac os cyfyd unrhyw anghydfod parthed y telerau a'r amodau hynny, fe gyfeirir yr anghydfod i'w gymrodeddu yn unol ag erthygl 26.

(2Wrth setlo telerau ac amodau at ddibenion paragraff 12(1) mewn perthynas â'r cyfarpar amgen ar neu ar hyd unrhyw reilffordd yr ymgymerwr, rhaid i'r cymrodeddwr—

(a)roi eu heffaith i bob gofyniad rhesymol gan yr ymgymerwr ar gyfer sicrhau diogelwch y rheilffyrdd a'u gweithio'n effeithiol ac i wneud yn ddiogel unrhyw waith altro neu addasu dilynol ar y cyfarpar amgen ag a ddichon fod yn angenrheidiol i atal ymyrraeth ag unrhyw weithfeydd arfaethedig gan yr ymgymerwr neu â thraffig ar y rheilffyrdd; a

(b)i'r graddau y mae'n rhesymol ac yn ymarferol gwneud hynny dan amgylchiadau'r achos penodol, rhoi eu heffaith i'r telerau a'r amodau os oes rhai sy'n gymwys i'r cyfarpar a adeiladwyd ar neu ar hyd y rheilffyrdd y mae'r cyfarpar amgen i gael ei osod yn ei le.

13.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a ganlyn yn y paragraff hwn, rhaid i'r ymgymerwr ad-dalu i'r Cwmni y treuliau rhesymol a dducpwyd gan y Cwmni wrth archwilio, symud ymaith, altro neu amddiffyn unrhyw bibell berthnasol neu mewn cysylltiad â hynny, neu ag adeiladu unrhyw bibell berthnasol newydd y dichon fod ei hangen o ganlyniad i wneud unrhyw un neu ragor o'r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Os gosodir, yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon, gyfarpar sy'n dal mwy, neu sy'n fwy o faint, yn lle cyfarpar presennol llai neu sy'n llai o faint, ac os nad yw'r ymgymerwr yn cytuno i osod cyfarpar sy'n dal hynny neu sydd o'r maint hwnnw, yn ôl y digwydd, neu, yn niffyg cytundeb, nas penderfynir ei fod yn angenrheidiol drwy gymrodedd yn unol ag erthygl 26, yna os yw gosod peth felly yn golygu cost wrth adeiladu gweithfeydd o dan yr Atodlen hon sy'n fwy na'r costau y byddid wedi eu dwyn petai'r cyfarpar a osodir yn dal yr un faint neu o'r un maintioli â'r offer presennol, yn ôl y digwydd, fe gwtogir y swm a fyddai ar wahân i'r paragraff hwn yn daladwy i'r Cwmni yn rhinwedd is-baragraff (1) o swm y gorfaint hwnnw.

(3At ddibenion is-baragraff (2) ni thrinnir ymestyn cyfarpar fel ei fod yn hwy na hyd cyfarpar presennol fel gosod cyfarpar sy'n fwy na chyfarpar presennol.

(4Fe gwtogir swm a fyddai ar wahân i'r is-baragraff hwn yn daladwy i'r Cwmni mewn perthynas â gweithfeydd yn rhinwedd is-baragraff (1), os yw'r gweithfeydd yn cynnwys gosod cyfarpar a ddarperir yn lle cyfarpar a osodwyd fwy nag 8 mlynedd ynghynt fel ei fod yn rhoi unrhyw fuddiant ariannol i'r Cwmni drwy yrru yn ôl amser adnewyddu'r cyfarpar yn ei gwrs arferol, o'r swm sy'n cynrychioli'r buddiant hwnnw.

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), os oherwydd adeiladu unrhyw un neu ragor o'r gweithfeydd awdurdodedig, neu o ganlyniad i hynny, perir unrhyw ddifrod i unrhyw gyfarpar (ac eithrio cyfarpar nad yw'n rhesymol angenrheidiol ei drwsio oherwydd bwriad i'w symud ymaith at ddibenion y gweithfeydd hynny), neu i unrhyw eiddo perthynol i'r Cwmni, neu os oes unrhyw amhariad i unrhyw wasanaeth a ddarperir, neu i gyflenwi unrhyw nwyddau, gan y Cwmni, rhaid i'r ymgymerwr—

(a)dwyn a thalu'r gost a ddygir yn rhesymol gan y Cwmni wrth drwsio'r cyfryw ddifrod neu wrth adfer y cyflenwad; a

(b)rhoi iawndal rhesymol i'r Cwmni am unrhyw draul, colled, iawndal, cosb neu gostau eraill a ddygir gan y Cwmni, oherwydd neu o ganlyniad i unrhyw ddifrod neu amhariad o'r fath.

(2Nid oes dim yn is-baragraff (1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr mewn perthynas ag unrhyw ddifrod neu ymyriad i'r graddau y gellir ei dadogi ar weithred, esgeulustra neu ddiffyg gweithred o du'r Cwmni, ei swyddogion, ei wasanaethyddion, ei gontractwyr neu ei asiantyddion.

(3Rhaid i'r Cwmni roi hysbysiad rhesymol i'r ymgymerwr o unrhyw hawliad neu orchymyn o'r fath ac ni chaniateir gwneud unrhyw setliad neu gyfaddawd heb gydsyniad yr ymgymerwr a fydd, os bydd yn dal yn ôl y cyfryw gydsyniad, â'r cyfrifoldeb unigol dros unrhyw setliad neu gyfaddawd neu unrhyw achos cyfreithiol sy'n angenrheidiol i wrthsefyll yr hawliad neu'r gorchymyn.

15.  Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn effeithio ar ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad neu gytundeb sy'n rheoleiddio'r berthynas rhwng yr ymgymerwr a'r Cwmni o ran unrhyw gyfarpar a osodir neu a godir ar yr hen reilffordd cyn dyddiad gwneud y Gorchymyn hwn.

16.  Dyfernir ar unrhyw wahaniaeth a gyfyd rhwng yr ymgymerwr a'r Cwmni o dan yr erthygl hon (ac eithrio gwahaniaeth o ran ei ystyr neu ei ddehongliad) drwy gymrodeddu o dan erthygl 26.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn yn awdurdodi Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen i adeiladu a gweithio rheilffordd newydd (“y rheilffordd estyniadol”) o Gorwen i Garrog yn Sir Ddinbych ynghyd â gweithfeydd a chyfleusterau cysylltiedig. Fe adeiledir y rheilffordd estyniadol gan mwyaf ar wely'r rhan o'r hen reilffordd o Riwabon i Forfa Mawddach a bydd yn cynnwys cyffordd gyda rheilffordd bresennol yr Ymddiriedolaeth yng Ngharrog. Yn ychwanegol at hynny mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaethau eraill o ran y rheilffordd estyniadol a'r rheilffordd bresennol.

Nid yw'r Gorchymyn yn cynnwys pwerau prynu gorfodol a byddir drwy gytundeb yn caffael buddiannau yn y tir neu hawliau drosto a'r rheini'n fuddiannau neu'n hawliau sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithfeydd.

Gellir archwilio copi o blan y gweithfeydd yn swyddfeydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, Gorsaf y Rheilffordd, Ffordd yr Abaty, Llangollen LL20 8SN.