Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
8 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym
1 Chwefror 2011
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2).
Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru ar iddynt wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn perthynas â'r cyfan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Benfro) 2010 a daw i rym ar 1 Chwefror 2011.
2.—(1) Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn—
(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b)ardal gorfodi arbennig.
(2) Yr ardal a ddynodir yw Sir Benfro.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Sir Benfro yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Penfro i orfodi'r gyfraith am dramgwyddau parcio yn Sir Benfro drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.
Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, yn unol â hwy Gweinidogion Cymru yw'r 'awdurdod cenedlaethol priodol' o ran Cymru o dan adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.