- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
10 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym
5 Ionawr 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru(3).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiad dros dro a osodwyd ar 5 Ionawr 2011 neu ar ôl hynny.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol,
ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw diwrnod pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond cyn cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod hwnnw i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,
(b)pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond ar ôl cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod wedyn i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,
(c)caiff ysgol sy'n darparu addysg gynradd ac addysg uwchradd ei thrin fel ysgol gynradd os yw'r disgybl a waharddwyd dros dro yn cael addysg gynradd ac fel arall fel ysgol uwchradd.
3.—(1) Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir wneud cais i riant(4) disgybl a waharddwyd dros dro, a'r rhiant hwnnw yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r disgybl, fynychu cyfweliad ailintegreiddio yn yr achosion a ragnodir ym mharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr achosion a ragnodir yw pan fo disgybl o oed ysgol gorfodol yn cael ei wahardd dros dro ar sail ddisgyblaethol—
(a)o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu
(b)o ysgol uwchradd am unrhyw gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy.
(3) Nid yw achos wedi'i ragnodi—
(a)pan fo'r diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef yn dod o fewn deng niwrnod ysgol diwethaf y tymor diwethaf o unrhyw flwyddyn ysgol, neu
(b)pan fo'r pennaeth yn disgwyl i'r disgybl beidio â mynychu'r ysgol o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) am reswm nad yw'n gysylltiedig ag ymddygiad y disgybl.
4.—(1) Pan fo'r ddyletswydd yn rheoliad 3 yn gymwys rhaid i'r pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant o'r materion canlynol—
(a)dyddiad, amser a hyd y cyfweliad ailintegreiddio,
(b)diben y cyfweliad, ac
(c)dyletswydd y llys, wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn rhianta ai peidio mewn perthynas â rhiant o dan adran 20 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(5), i roi ystyriaeth i fethiant gan y rhiant heb esgus rhesymol i fynychu cyfweliad ailintegreiddio pan gaiff gais i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod—
(a)sy'n dechrau ar y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef, a
(b)sy'n gorffen ar y pymthegfed diwrnod ysgol sy'n dod ar ôl y diwrnod olaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef (pa un ai a yw'r diwrnod ysgol hwnnw yn dod o fewn yr un tymor ai peidio).
(3) Cyn rhoi'r hysbysiad rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad ar ddyddiad ac ar amser (o fewn y cyfnod) a awgrymir gan y rhiant.
(4) Caniateir cynnal y cyfweliad ar ddiwrnod o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y pennaeth a'r rhiant yn cytuno ar hynny.
(5) Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod ysgol cyn dyddiad y cyfweliad ailintegreiddio.
5. Caniateir cyfuno hysbysiad sy'n ymwneud â chyfweliad ailintegreiddio a roddir yn unol â rheoliad 4 gyda hysbysiad a roddir i'r rhiant yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 52(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002(6) (personau rhagnodedig sydd i gael gwybodaeth am unrhyw waharddiad).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i bennaeth wneud cais i rieni disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd fynychu cyfweliad ailintegreiddio o dan adran 102 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (“Deddf 2006”), ac yn rhagnodi'r weithdrefn y mae'n rhaid trefnu'r cyfweliad oddi tani.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth wneud cais am gyfweliad â rhiant disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu o ysgol uwchradd am gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy. Rhaid i'r rhiant fod yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r plentyn. Nid oes angen i bennaeth wneud cais o'r fath os yw'r gwaharddiad yn dechrau o fewn deng niwrnod i ddiwedd tymor yr haf neu os disgwylir i'r disgybl adael yr ysgol am reswm heblaw ei ymddygiad (er enghraifft os yw'r disgybl yn symud i ysgol mewn ardal wahanol).
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cais gael ei wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig ac yn pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi yn yr hysbysiad hwnnw. Mae'n rhagnodi cyfnod y mae'n rhaid i'r cyfweliad ddigwydd o'i fewn ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfweliad ddigwydd ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod hwnnw, er y caiff ddigwydd ar ddiwrnod o fewn y cyfnod hwnnw nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y rhiant a'r pennaeth yn cytuno ar hynny. Rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad o fewn y cyfnod ar ddyddiad ac ar amser a awgrymir gan y rhiant. Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod cyn bod y cyfweliad i ddigwydd.
Mae rheoliad 5 yn caniatáu cyfuno hysbysiad oddi wrth bennaeth o dan y Rheoliadau hyn a'r hysbysiad yn rhoi gwybod i'r rhiant am y gwaharddiad (o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002).
Mae adran 572 o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu ar gyfer sut y caniateir rhoi'r hysbysiad. Caniateir ei ddanfon at y rhiant, ei adael yng nghyfeiriad arferol, neu gyfeiriad hysbys diwethaf y rhiant, neu ei anfon mewn llythyr gyda chyfeiriad arno ac y talwyd amdano ymlaen llaw i'r cyfeiriad hwnnw. Caniateir ei anfon drwy e-bost os yw'r rhiant wedi cytuno i ddefnyddio e-bost i dderbyn hysbysiadau.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Mae adran 111 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn diffinio “maintained school” at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Mae adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio 'parent' at ddibenion y rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: