2010 Rhif 2953 (Cy.245)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 102 a 181 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 20061 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy2 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2011.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru3.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiad dros dro a osodwyd ar 5 Ionawr 2011 neu ar ôl hynny.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol,

  • ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw diwrnod pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond cyn cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod hwnnw i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,

b

pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond ar ôl cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod wedyn i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef,

c

caiff ysgol sy'n darparu addysg gynradd ac addysg uwchradd ei thrin fel ysgol gynradd os yw'r disgybl a waharddwyd dros dro yn cael addysg gynradd ac fel arall fel ysgol uwchradd.

Dyletswydd i wneud cais am gyfweliad ailintegreiddio3

1

Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir wneud cais i riant4 disgybl a waharddwyd dros dro, a'r rhiant hwnnw yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r disgybl, fynychu cyfweliad ailintegreiddio yn yr achosion a ragnodir ym mharagraff (2).

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr achosion a ragnodir yw pan fo disgybl o oed ysgol gorfodol yn cael ei wahardd dros dro ar sail ddisgyblaethol—

a

o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu

b

o ysgol uwchradd am unrhyw gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy.

3

Nid yw achos wedi'i ragnodi—

a

pan fo'r diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef yn dod o fewn deng niwrnod ysgol diwethaf y tymor diwethaf o unrhyw flwyddyn ysgol, neu

b

pan fo'r pennaeth yn disgwyl i'r disgybl beidio â mynychu'r ysgol o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) am reswm nad yw'n gysylltiedig ag ymddygiad y disgybl.

Ffurf y cais ac amseriad y cyfweliad4

1

Pan fo'r ddyletswydd yn rheoliad 3 yn gymwys rhaid i'r pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant o'r materion canlynol—

a

dyddiad, amser a hyd y cyfweliad ailintegreiddio,

b

diben y cyfweliad, ac

c

dyletswydd y llys, wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn rhianta ai peidio mewn perthynas â rhiant o dan adran 20 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 20035, i roi ystyriaeth i fethiant gan y rhiant heb esgus rhesymol i fynychu cyfweliad ailintegreiddio pan gaiff gais i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod—

a

sy'n dechrau ar y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef, a

b

sy'n gorffen ar y pymthegfed diwrnod ysgol sy'n dod ar ôl y diwrnod olaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef (pa un ai a yw'r diwrnod ysgol hwnnw yn dod o fewn yr un tymor ai peidio).

3

Cyn rhoi'r hysbysiad rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad ar ddyddiad ac ar amser (o fewn y cyfnod) a awgrymir gan y rhiant.

4

Caniateir cynnal y cyfweliad ar ddiwrnod o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y pennaeth a'r rhiant yn cytuno ar hynny.

5

Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod ysgol cyn dyddiad y cyfweliad ailintegreiddio.

Cyfuno hysbysiadau5

Caniateir cyfuno hysbysiad sy'n ymwneud â chyfweliad ailintegreiddio a roddir yn unol â rheoliad 4 gyda hysbysiad a roddir i'r rhiant yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 52(3)(a) o Ddeddf Addysg 20026 (personau rhagnodedig sydd i gael gwybodaeth am unrhyw waharddiad).

Leighton AndrewsY Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i bennaeth wneud cais i rieni disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd fynychu cyfweliad ailintegreiddio o dan adran 102 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (“Deddf 2006”), ac yn rhagnodi'r weithdrefn y mae'n rhaid trefnu'r cyfweliad oddi tani.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth wneud cais am gyfweliad â rhiant disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu o ysgol uwchradd am gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy. Rhaid i'r rhiant fod yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r plentyn. Nid oes angen i bennaeth wneud cais o'r fath os yw'r gwaharddiad yn dechrau o fewn deng niwrnod i ddiwedd tymor yr haf neu os disgwylir i'r disgybl adael yr ysgol am reswm heblaw ei ymddygiad (er enghraifft os yw'r disgybl yn symud i ysgol mewn ardal wahanol).

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cais gael ei wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig ac yn pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi yn yr hysbysiad hwnnw. Mae'n rhagnodi cyfnod y mae'n rhaid i'r cyfweliad ddigwydd o'i fewn ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfweliad ddigwydd ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod hwnnw, er y caiff ddigwydd ar ddiwrnod o fewn y cyfnod hwnnw nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y rhiant a'r pennaeth yn cytuno ar hynny. Rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad o fewn y cyfnod ar ddyddiad ac ar amser a awgrymir gan y rhiant. Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod cyn bod y cyfweliad i ddigwydd.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu cyfuno hysbysiad oddi wrth bennaeth o dan y Rheoliadau hyn a'r hysbysiad yn rhoi gwybod i'r rhiant am y gwaharddiad (o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002).

Mae adran 572 o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu ar gyfer sut y caniateir rhoi'r hysbysiad. Caniateir ei ddanfon at y rhiant, ei adael yng nghyfeiriad arferol, neu gyfeiriad hysbys diwethaf y rhiant, neu ei anfon mewn llythyr gyda chyfeiriad arno ac y talwyd amdano ymlaen llaw i'r cyfeiriad hwnnw. Caniateir ei anfon drwy e-bost os yw'r rhiant wedi cytuno i ddefnyddio e-bost i dderbyn hysbysiadau.