Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Amnewid yr Atodlen

8.  Yn lle'r Atodlen, rhodder yr Atodlen ganlynol.

Rheoliad 4(3)

YR ATODLENDarpariaethau o dan Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Darpariaeth berthnasol Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011Darpariaeth Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 i'w darllen gyda'r ddarpariaeth yng ngholofn 1Y pwnc
Erthygl 5(1)Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 5(2) i (4), Erthygl 6, Erthygl 7Gofyniad cyffredinol ar gyfer manylion gwybodaeth
Erthygl 5(2)Atodiad I, Erthygl 5(1), (3) a (4), Erthygl 7Y gofynion ar gyfer manylion gwybodaeth mewn dogfennau sy'n mynd gyda llwythi swmpus a nwyddau a lwythir yn uniongyrchol ar gyfrwng cludo
Erthygl 5(3)Atodiad I, Erthygl 5(1) a (4), Erthygl 7Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn achos contractau o bell sydd i fod ar gael cyn cwblhau'r pryniant
Erthygl 5(4)Atodiad I, Erthygl 5(1) i (3), Erthygl 7Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth ar anfonebau a dogfennau sy'n mynd gyda hwy
Erthygl 6Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 7Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn y cyfnod manwerthu
Erthygl 7(1)Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 6, Erthygl 7(2) a (3)Y gofynion ar gyfer gwerthu cymysgeddau o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau
Erthygl 10(6)Erthygl 10(1) i (5)Gofyniad i fasnachwyr ddarparu gwybodaeth a ystyrir gan Aelod-wladwriaethau yn angenrheidiol i'r gronfa ddata
Erthygl 11(4)Erthygl 11(1) i (3), Erthygl 12, Erthygl 14 ac Atodiad III, Erthygl 15Gofyniad i fasnachwyr ddarparu i gyrff arolygu bob gwybodaeth sy'n ofynnol ganddynt i drefnu a chyflawni eu gwiriadau cydymffurfio
Erthygl 17(3), yr is-baragraff olafErthygl 10, Erthygl 17(1), (2) a gweddill (3), Atodiad VGofyniad i fasnachwyr ddarparu pob gwybodaeth y bernir ei bod yn angenrheidiol gan y corff arolygu ar gyfer dull yr arolygiad.

Back to top

Options/Help