Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2602 (Cy.280)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

31 Hydref 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Tachwedd 2011

Yn dod i rym

22 Tachwedd 2011

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011 ac fe ddaw i rym ar 22 Tachwedd 2011.

Diwygio Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010

2.—(1Mae Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle erthygl 2 (y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiad) rhodder—

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

31 Hydref 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 17 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal archwiliad er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15 o'r Mesur.

Mae adran 18 o'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal asesiad mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol er mwyn penderfynu a yw awdurdod gwella Cymreig yn debyg o gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o'r Mesur.

Mae adran 19 o'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyroddi adroddiad archwilio ac asesu mewn cysylltiad ag awdurdod gwella Cymreig ac i'w anfon at Weinidogion Cymru a'r awdurdod gwella Cymreig o dan sylw.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 drwy ddarparu, mewn cysylltiad â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011, mai 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol y cynhaliwyd yr archwiliad ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi fydd y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon yr adroddiad.