Search Legislation

Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2684 (Cy.287)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011

Wedi'u gwneud

5 Tachwedd 2011

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Tachwedd 2011

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 78(2)(d) a (3), 80(8) a (9), 84(2), 92(3) a (7) a 178 (1) (a), (b), (c) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(3).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;

ystyr “landlord”, (“landlord”) o ran mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni(4);

ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni Hawl i Reoli (“cwmni RTM”) yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn perthynas â hi(5);

ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni heblaw fel landlord neu denant(6).

Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan

3.—(1Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan gynnwys, yn ychwanegol at y datganiadau a'r wybodaeth y cyfeirir atynt yn adran 78(2)(a) i (c) o Ddeddf 2002 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)rhif cofrestredig y cwmni RTM(7), cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr ac, os yw hynny'n gymwys, enw ei ysgrifennydd;

(b)enw'r landlord ac enw unrhyw drydydd parti;

(c)datganiad y bydd y cwmni RTM, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), yn gyfrifol am y canlynol, os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli—

(i)cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y brydles; a

(ii)arfer pwerau'r landlord o dan y brydles,

o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;

(ch)datganiad y caiff y cwmni RTM orfodi cyfamodau tenant na chawsant eu trosglwyddo, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli(8);

(d)datganiad na fydd y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac am arfer pwerau'r landlord o dan y brydles—

(i)ynglŷn â mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i brydles sy'n cael ei dal gan denant cymwys(9); neu

(ii)ynglŷn ag ailfynediad neu fforffediad;

(dd)datganiad y bydd gan y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;

(e)datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl fel y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli; ac—

(i)os yw yn bwriadu gwneud hynny, datganiad—

(aa)o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os ydynt yn hysbys); a

(bb)os yw hyn yn wir, mai'r person yw asiant rheoli'r landlord; neu

(ii)os nad yw'n bwriadu gwneud hynny, y cymwysterau neu'r profiad (os oes rhai) sydd gan aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;

(f)datganiad y gall person sy'n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni RTM fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio(10);

(ff)datganiad sy'n cynghori'r sawl sy'n cael yr hysbysiad (yn gwahodd cymryd rhan) i geisio cymorth proffesiynol os nad yw'n llwyr ddeall diben neu oblygiadau'r hysbysiad; ac

(g)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio

4.  Yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002, rhaid i hysbysiad hawlio gynnwys—

(a)datganiad bod person—

(i)nad yw'n dadlau â hawlogaeth y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli(11); a

(ii)sy'n barti rheoli o dan gontract rheoli(12) sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio,

yn gorfod rhoi hysbysiad, yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2002 (dyletswyddau i roi hysbysiad o gontractau), i'r cwmni RTM ac i'r person sy'n barti contractiwr(13);

(b)datganiad bod gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi hawlogaeth i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael(14) ymlaen;

(c)datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb mewn unrhyw fanylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—

(i)nodi'r manylion dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a

(ii)dangos ym mha fodd y bernir eu bod yn anghywir;

(ch)datganiad sy'n cynghori person sy'n cael yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall diben yr hysbysiad i geisio cymorth proffesiynol; a

(d)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad

5.  Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato yn adran 84(2)(a) a (b) (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—

(a)datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio;

(b)datganiad nad yw'r cwmni RTM, os yw wedi cael un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, yn caffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio oni bai—

(i)y penderfynir yn derfynol(15) pan wneir cais i dribiwnlys prisio lesddaliad fod gan y cwmni hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu

(ii)bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno, mewn ysgrif, fod gan y cwmni yr hawlogaeth honno; ac

(c)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr

6.—(1Rhaid i hysbysiad contractiwr(16) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(3)(a) i (d) (dyletswyddau i roi hysbysiadau o gontractau) o Ddeddf 2002) ddatganiad yn cynghori'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo i gysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad os yw'n dymuno darparu i'r cwmni RTM wasanaethau y mae wedi'u darparu, fel y parti contractiwr i'r parti rheolwr o dan y contract; a

(2yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract

7.  Rhaid i hysbysiad contract(17) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(7)(a) o Ddeddf 2002)—

(a)cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr(18), o dan y contract y rhoddir manylion amdano yn yr hysbysiad;

(b)datganiad sy'n cynghori'r cwmni RTM y dylai gysylltu â'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad, os yw'n dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, wedi'u darparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw; ac

(c)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.

Ffurf yr hysbysiadau

8.—(1Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 3.

(2Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 4.

(3Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 5.

(4Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 6.

(5Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 7.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

9.—(1Mae Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004(19) (“Rheoliadau 2004”) wedi'u dirymu.

(2Trinnir unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Reoliadau 2004 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny fel pe bai wedi'i gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn.

Huw Lewis

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2011

Rheoliadau 3 ac 8(1)

ATODLEN 1FFURF HYSBYSIAD YN GWAHODD CYMRYD RHAN

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad o wahoddiad i gymryd rhan yn yr hawl i reoli

Rheoliadau 4 ac 8(2)

ATODLEN 2FFURF HYSBYSIAD HAWLIO

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Hawlio

Rheoliadau 5 ac 8(3)

ATODLEN 3FFURF GWRTH-HYSBYSIAD

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Gwrth-hysbysiad

Rheoliad 6 ac 8(4)

ATODLEN 4FFURF HYSBYSIAD CONTRACTIWR

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Contractiwr

Rheoliad 7 ac 8(5)

ATODLEN 5FFURF HYSBYSIAD CONTRACT

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Contract

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydategu Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”). Mae'r Bennod honno'n gwneud darpariaeth ar gyfer caffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangre y mae'r Bennod yn gymwys iddi gan gwmni y caniateir iddo gaffael ac arfer yr hawliau hynny (sef cwmni sy'n cael ei adnabod fel cwmni Hawl i Reoli neu “cwmni RTM”).

Penderfynwyd dirymu a disodli'r rheoliadau presennol, sef Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/678) yn hytrach na'u diwygio. Y rheswm am hyn oedd bod Gweinidogion Cymru'n cydnabod bod y Rheoliadau hyn yn debyg o gael eu defnyddio gan bobl nad oes cyngor proffesiynol ar gael ganddyn nhw. Barn Gweinidogion Cymru yw y byddai'n peri dryswch petai'r ceiswyr yn defnyddio dwy set o reoliadau er mwyn sefydlu eu cwmni RTM.

Cyn y gall cwmni RTM gaffael yr hawl i reoli mangre, rhaid iddo roi hysbysiad (“hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan”) i'r tenantiaid hynny mewn fflatiau yn y fangre sy'n “denantiaid cymwys” (gweler adran 75 o Ddeddf 2002) fod y cwmni'n bwriadu caffael yr hawl. Rhaid i'r hysbysiad wahodd y rhai sy'n ei gael i ddod yn aelodau o'r cwmni RTM. Mae Rheoliad 3, y mae Atodlen 1 yn berthnasol iddo hefyd, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 78 o Ddeddf 2002.

Pan fydd y cwmni RTM wedi rhoi hysbysiad yn gwahodd tenantiaid i gymryd rhan, mae'n cael gwneud hawliad i gaffael yr hawl i reoli. Mae'n ofynnol i'r hawliad gael ei wneud drwy gyfrwng hysbysiad (“hysbysiad hawlio”), sef hysbysiad sy'n gorfod cael ei roi i bob person—

(a)sy'n landlord o dan brydles ar y cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;

(b)sy'n barti i brydles o'r fath heblaw fel landlord neu denant; neu

(c)sy'n rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu ag unrhyw fangre sy'n cynnwys y fangre neu a gynhwysir ynddi.

Mae rheoliad 4, y mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad hawlio, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 80 o Ddeddf 2002.

Caiff person sy'n cael hysbysiad hawlio ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad i'r cwmni RTM, sef gwrth-hysbysiad y bydd hawliad y cwmni RTM naill ai yn cael ei addef neu yn cael ei wrthwynebu ynddo. Mae Rheoliad 5, y mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys y gwrth-hysbysiad. Mae'r rhain yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 84 o Ddeddf 2002.

Os yw person sydd â hawlogaeth i gael hysbysiad hawlio hefyd yn barti i gontract y mae'r parti arall i'r contract yn cytuno i ddarparu gwasanaethau odano, neu'n cytuno i wneud pethau eraill odano, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy'n ymwneud â swyddogaeth a fydd yn swyddogaeth i'r cwmni RTM pan fydd wedi caffael yr hawl i reoli'r fangre, mae'n rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad i'r parti arall i'r contract (“hysbysiad contractiwr”) ac i'r cwmni RTM (“hysbysiad contract”). Mae Rheoliadau 6 a 7, y mae Atodlenni 4 a 5 yn y drefn honno yn gymwys iddynt yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys hysbysiadau contractiwr a hysbysiadau contract, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 92 o Ddeddf 2002.

Mae Rheoliad 8 yn cyflwyno'r Atodlenni sy'n darparu templedi o ffurflenni ar gyfer y gwahoddiad i gymryd rhan, yr hysbysiad hawlio, y gwrth-hysbysiad, yr hysbysiad contractiwr a'r hysbysiad contract. Mae Rheoliad 8 yn caniatáu i ffurflenni sydd â'r un effaith gael eu defnyddio, ar yr amod eu bod yn cynnwys y manylion rhagnodedig perthnasol.

(3)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau a arferid o'r blaen gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr “awdurdod cenedlaethol priodol” o dan adran 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(b), Atodlen 1, i'r pŵer yn adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 fod yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion y Goron yr oedd y pŵer yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.

(4)

I gael y diffiniad o “landlord” gweler hefyd adran 112(2), (3) a (5) o Ddeddf 2002.

(5)

Gweler adrannau 71(1) a 73 o Ddeddf 2002. O ran “right to manage” gweler adran 71(2) o Ddeddf 2002.

(6)

Gweler adran 112(2), (3) a (5) o Ddeddf 2002.

(7)

Gweler adran 1066 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p.46).

(8)

Gweler adran 100(4) o Ddeddf 2002.

(9)

O ran mangreoedd y mae Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddynt, gweler adran 72 (ac Atodlen 6). O ran “flat” ac “unit” gweler adran 112(1). O ran “lease” gweler adran 112(2). O ran “qualifying tenant” gweler adrannau 75 a 112(4) a (5).

(10)

Gweler adran 79(1) o Ddeddf 2002.

(11)

O ran yr amgylchiadau lle nad oes dadl am yr hawl, gweler adran 90(3) o Ddeddf 2002.

(12)

Gweler adran 91(2) a (4) o Ddeddf 2002.

(13)

Gweler adran 91(2)(b) o Ddeddf 2002.

(14)

Gweler adran 90 o Ddeddf 2002.

(15)

Gweler adran 84(7) ac (8) o Ddeddf 2002.

(16)

Gweler adran 92(1)(a) o Ddeddf 2002.

(17)

Gweler adran 92(1)(b) o Ddeddf 2002.

(18)

Gweler adran 92(4) o Ddeddf 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources