2011 Rhif 2684 (Cy.287)
Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011
Wedi'u gwneud
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 78(2)(d) a (3), 80(8) a (9), 84(2), 92(3) a (7) a 178 (1) (a), (b), (c) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 20021 ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy3.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;
ystyr “landlord”, (“landlord”) o ran mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni4;
ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni Hawl i Reoli (“cwmni RTM”) yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn perthynas â hi5;
ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni heblaw fel landlord neu denant6.
Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan3
1
Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan gynnwys, yn ychwanegol at y datganiadau a'r wybodaeth y cyfeirir atynt yn adran 78(2)(a) i (c) o Ddeddf 2002 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).
2
Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
a
rhif cofrestredig y cwmni RTM7, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr ac, os yw hynny'n gymwys, enw ei ysgrifennydd;
b
enw'r landlord ac enw unrhyw drydydd parti;
c
datganiad y bydd y cwmni RTM, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), yn gyfrifol am y canlynol, os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli—
i
cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y brydles; a
ii
arfer pwerau'r landlord o dan y brydles,
o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;
ch
datganiad y caiff y cwmni RTM orfodi cyfamodau tenant na chawsant eu trosglwyddo, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli8;
d
datganiad na fydd y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac am arfer pwerau'r landlord o dan y brydles—
i
ynglŷn â mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i brydles sy'n cael ei dal gan denant cymwys9; neu
ii
ynglŷn ag ailfynediad neu fforffediad;
dd
datganiad y bydd gan y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;
e
datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl fel y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli; ac—
i
os yw yn bwriadu gwneud hynny, datganiad—
aa
o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os ydynt yn hysbys); a
bb
os yw hyn yn wir, mai'r person yw asiant rheoli'r landlord; neu
ii
os nad yw'n bwriadu gwneud hynny, y cymwysterau neu'r profiad (os oes rhai) sydd gan aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;
f
datganiad y gall person sy'n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni RTM fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio10;
ff
datganiad sy'n cynghori'r sawl sy'n cael yr hysbysiad (yn gwahodd cymryd rhan) i geisio cymorth proffesiynol os nad yw'n llwyr ddeall diben neu oblygiadau'r hysbysiad; ac
g
yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio4
Yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002, rhaid i hysbysiad hawlio gynnwys—
a
datganiad bod person—
i
nad yw'n dadlau â hawlogaeth y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli11; a
ii
sy'n barti rheoli o dan gontract rheoli12 sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio,
yn gorfod rhoi hysbysiad, yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2002 (dyletswyddau i roi hysbysiad o gontractau), i'r cwmni RTM ac i'r person sy'n barti contractiwr13;
b
datganiad bod gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi hawlogaeth i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael14 ymlaen;
c
datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb mewn unrhyw fanylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—
i
nodi'r manylion dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a
ii
dangos ym mha fodd y bernir eu bod yn anghywir;
ch
datganiad sy'n cynghori person sy'n cael yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall diben yr hysbysiad i geisio cymorth proffesiynol; a
d
yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad5
Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato yn adran 84(2)(a) a (b) (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—
a
datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio;
b
datganiad nad yw'r cwmni RTM, os yw wedi cael un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, yn caffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio oni bai—
i
y penderfynir yn derfynol15 pan wneir cais i dribiwnlys prisio lesddaliad fod gan y cwmni hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu
ii
bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno, mewn ysgrif, fod gan y cwmni yr hawlogaeth honno; ac
c
yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr6
1
Rhaid i hysbysiad contractiwr16 gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(3)(a) i (d) (dyletswyddau i roi hysbysiadau o gontractau) o Ddeddf 2002) ddatganiad yn cynghori'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo i gysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad os yw'n dymuno darparu i'r cwmni RTM wasanaethau y mae wedi'u darparu, fel y parti contractiwr i'r parti rheolwr o dan y contract; a
2
yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract7
Rhaid i hysbysiad contract17 gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(7)(a) o Ddeddf 2002)—
a
cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr18, o dan y contract y rhoddir manylion amdano yn yr hysbysiad;
b
datganiad sy'n cynghori'r cwmni RTM y dylai gysylltu â'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad, os yw'n dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, wedi'u darparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw; ac
c
yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.
Ffurf yr hysbysiadau8
1
Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 3.
2
Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 4.
3
Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 5.
4
Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 6.
5
Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 7.
Dirymu a darpariaethau trosiannol9
1
Mae Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 200419 (“Rheoliadau 2004”) wedi'u dirymu.
2
Trinnir unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Reoliadau 2004 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny fel pe bai wedi'i gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn.
ATODLEN 1FFURF HYSBYSIAD YN GWAHODD CYMRYD RHAN
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad o wahoddiad i gymryd rhan yn yr hawl i reoli
ATODLEN 2FFURF HYSBYSIAD HAWLIO
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Hawlio
ATODLEN 3FFURF GWRTH-HYSBYSIAD
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Gwrth-hysbysiad
ATODLEN 4FFURF HYSBYSIAD CONTRACTIWR
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Contractiwr
ATODLEN 5FFURF HYSBYSIAD CONTRACT
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad Contract
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)