Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2880 (Cy.308)

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

Rheoliadau Perygl Llifogydd (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed

30 Tachwedd 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym

22 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran rheoli perygl llifogydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Perygl Llifogydd (Diwygio) (Cymru) 2011; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2011.

Diwygiadau

2.—(1Diwygir Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009(3) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) yn lle'r geiriau “these regulations came into force” rhodder “22nd December 2010”.

(3Yn lle rheoliad 4(2) rhodder—

(2) “Reservoir” means a large raised reservoir as defined by the Reservoirs Act 1975..

(4Yn lle rheoliad 36(2) rhodder—

(2) The Environment Agency and an authority listed in paragraph (3) must comply with a request of a lead local flood authority or the Minister to provide information reasonably required in connection with the exercise of functions under these regulations..

John Griffiths

Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 (O.S. 2009/3042) (“y prif reoliadau”) mewn perthynas â Chymru.

Mae rheoliad 1(3) o'r prif reoliadau yn darparu y ceir bodloni dyletswydd yn y rheoliadau hynny i baratoi neu gyhoeddi dogfen, drwy fod wedi paratoi neu gyhoeddi dogfen cyn i'r prif reoliadau ddod i rym (10 Rhagfyr 2009). Diwygir y ddarpariaeth honno gan y Rheoliadau hyn, fel y bydd modd i bersonau sy'n ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y prif reoliadau fodloni'r dyletswyddau hynny drwy weithredoedd o baratoi neu gyhoeddi a ymgymerwyd cyn 22 Rhagfyr 2010.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “reservoir” (rheoliad 4 o'r prif reoliadau) fel bod y diffiniad yn cyfeirio at gyforgronfa ddŵr mawr (“large raised reservoir”), fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975(4).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 36 o'r prif reoliadau i gyfeirio at y Gweinidog (“the Minister”) er mwyn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ofyn am yr wybodaeth sy'n ofynnol yn rhesymol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y prif reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch costau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2009/3042 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1102.