2011 Rhif 2932 (Cy.314)
Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac yntau wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, adroddiadau dyddiedig Chwefror 2010 a Medi 2011 ar ei adolygiadau o gymunedau yn Ninas a Sir Abertawe, a'i gynigion ar eu cyfer;
A chan fod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Chwefror 2010, ac eithrio'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng cymunedau Birchgrove a Chlydach, ac i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2011 heb eu haddasu;
A chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru2, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a Chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011.
2
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud.
3
At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “newydd” (“new”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw'r ardal honno fel y'i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “presennol” (“existing”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw'r ardal honno fel y mae'n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o'r 22 o fapiau a farciwyd “Map Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011”, a labelwyd yn briodol “A” i “V” er mwyn cyfeirio atynt ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o Ddinas a Sir Abertawe; ac
os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol gyffelyb, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
Llangyfelach a Phont-lliw a Thir-coed — newid yn ardaloedd cymunedol3
Mae'r rhannau o gymuned Llangyfelach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A wedi eu trosglwyddo i gymuned Pont-lliw a Thir-coed.
Treforys, Mynydd-bach a Llangyfelach — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol4
Mae'r rhan o gymuned Mynydd-bach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B a'r rhan o gymuned Treforys a ddangosir â chroeslinellau ar Fap K—
a
wedi eu trosglwyddo i gymuned Llangyfelach; a
b
yn rhan o adran etholiadol Llangyfelach.
Y Castell, Y Cocyd a Townhill — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol5
Mae'r rhan o gymuned y Cocyd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C a'r rhan o gymuned y Castell a ddangosir â chroeslinellau ar Fap L—
a
wedi eu trosglwyddo i gymuned Townhill; a
b
yn rhan o adran etholiadol Townhill.
Penderi a'r Cocyd — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol6
Mae'r rhannau o gymuned Penderi a ddangosir â chroeslinellau ar Fapiau D ac E—
a
wedi eu trosglwyddo i gymuned y Cocyd; a
b
yn rhan o adran etholiadol y Cocyd.
Glandŵr a Threforys — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol7
Mae'r rhan o gymuned Glandŵr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Treforys; a
b
yn rhan o adran etholiadol Treforys.
Bôn-y-maen a Llansamlet — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol8
Mae'r rhannau o gymuned Bôn-y-maen a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G—
a
wedi eu trosglwyddo i gymuned Llansamlet; a
b
yn rhan o adran etholiadol Llansamlet.
Llwchwr a Phenlle'r-gaer — newid yn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol9
Mae'r rhan o gymuned Llwchwr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Penlle'r-gaer;
b
yn rhan o ward Dwyrain Penlle'r-gaer cymuned Penlle'r-gaer; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Penlle'r-gaer.
Treforys a Chlydach — newid yn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol10
Mae'r rhan o gymuned Treforys a ddangosir â chroeslinellau ar Fap J—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Clydach;
b
yn rhan o ward Graigfelen cymuned Clydach; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Clydach.
Cilâ Uchaf a Dynfant — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol11
Mae'r rhan o gymuned Cilâ Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Dynfant; a
b
yn rhan o adran etholiadol Dynfant.
Cwmbwrla a Phenderi — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol12
Mae'r rhan o gymuned Cwmbwrla a ddangosir â chroeslinellau ar Fap M—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Penderi; a
b
yn rhan o adran etholiadol Penderi.
Gorseinon a Phengelli a Waun-gron — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol
13
Mae'r rhan o gymuned Gorseinon a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir ag (a) ar Fap N—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Pengelli a Waun-gron; a
b
yn rhan o adran etholiadol Penyrheol.
14
Mae'r rhan o gymuned Pengelli a Waun-gron a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir â (b) ar Fap N—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Gorseinon;
b
yn rhan o ward Dwyrain Gorseinon cymuned Gorseinon; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Gorseinon.
Gorseinon a Llwchwr — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol
15
Mae'r rhan o gymuned Llwchwr a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir ag (a) ar Fap O—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Gorseinon;
b
yn rhan o ward Gorllewin Gorseinon cymuned Gorseinon; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Penyrheol.
16
Mae'r rhan o gymuned Gorseinon a ddangosir â chroeslinellau ac a ddynodir â (b) ar Fap O—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwchwr;
b
yn rhan o ward Casllwchwr Uchaf cymuned Llwchwr; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Casllwchwr Uchaf.
17
Mae'r rhan o gymuned Gorseinon a ddangosir â chroeslinellau ar Fap P—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwchwr;
b
yn rhan o ward Garden Village cymuned Llwchwr; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Kingsbridge.
Penlle'r-gaer a Gorseinon — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol
18
Mae'r rhan o gymuned Penlle'r-gaer a ddangosir â chroeslinellau ar Fap Q—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Gorseinon;
b
yn rhan o ward Dwyrain Gorseinon cymuned Gorseinon; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Gorseinon.
19
Yng nghymuned Gorseinon 3 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Canol Gorseinon, 4 ar gyfer ward Dwyrain Gorseinon, 3 ar gyfer ward Gorllewin Gorseinon a 5 ar gyfer ward Penyrheol.
Llanrhidian Uchaf — newid yn ardaloedd cymunedol a chreu cymuned newydd y Crwys a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol20
1
Mae ward bresennol y Crwys yng nghymuned Llanrhidian Uchaf wedi ei throsglwyddo i'r gymuned newydd a elwir y Crwys, ac mae'n ffurfio'r gymuned honno a ddangosir ar Fap R fel yr ardal a farciwyd “Y Crwys”.
2
Mae cymuned newydd y Crwys yn rhan o adran etholiadol Fairwood.
3
Mae'r rhan o ward Pen-clawdd cymuned Llanrhidian Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap S wedi ei throsglwyddo i ward Llanmorlais yn y gymuned honno.
4
Yng nghymuned Llanrhidian Uchaf 4 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Llanmorlais a 6 ar gyfer ward Pen-clawdd.
Y Crwys — cyngor cymuned21
1
Bydd cyngor ar gyfer cymuned newydd y Crwys.
2
7 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer cymuned newydd y Crwys.
3
Mae cyfarfod blynyddol 2012 cyngor cymuned newydd y Crwys i'w gynnull gan y swyddog a benodir gan Ddinas a Sir Abertawe at y diben hwnnw.
Treuliau cychwynnol y cyngor cymuned newydd, etc22
1
Yn yr erthygl hon—
ystyr “y cyngor cymuned newydd” (“the new community council”) yw cyngor cymuned newydd y Crwys;
ystyr “y darpar awdurdod bilio” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 19924;
ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012;
ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 19955.
2
Mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn cael effaith—
a
o ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a
b
parthed y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac sy'n dod i ben yn union cyn y diwrnod y dyroddir gan y gymuned newydd braesept am y flwyddyn ariannol berthnasol, drwy roi yn lle is-adran (3) yr is-adran a ganlyn—
3
In making calculations in accordance with section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority shall take into account for the purposes of its estimate under section 32(2)(a) above an amount equal to that specified in article 23(6) of the Swansea (Communities) Order 2011.
3
O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol—
a
mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo angen cyllidebol gan awdurdodau bilio) yn cael effaith drwy hepgor is-adran (6);
b
mae adran 41(4) o Ddeddf 1992 yn cael effaith drwy roi yn lle'r geiriau “March in the financial year preceding that for which it is issued” y geiriau “October in the financial year for which it is issued”; ac
c
bydd y cyfeiriadau yn adrannau 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 at swm agregedig y praeseptau a ragwelir gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 yn cael effaith fel petai'r swm agregedig yn cynnwys y swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.
4
O ran y swm a gymerir i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, mae Pennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (pennu'r dreth gyngor) i gael effaith fel petai—
a
y swm yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â'r gymuned newydd; a
b
ardal y darpar awdurdod bilio yn cynnwys y gymuned newydd.
5
Rhaid i'r cyngor cymuned newydd wneud y cyfrifiadau sy'n ofynnol gan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo angen cyllidebol gan awdurdodau praeseptio lleol) am y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sicrhau na fydd y swm a gaiff ei gyfrifo fel ei angen cyllidebol am y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.
6
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod bilio a'r cyngor cymuned newydd mewn ysgrifen am y swm y mae'n rhaid hysbysu amdano yn unol â'r paragraff hwn.
7
O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau 1995 yn cael effaith fel petai—
a
rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni ar gyfer rhandaliadau) wedi ei hepgor;
b
ym mharagraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau i benderfynu'r amserlenni ar gyfer rhandaliadau)—
i
yn is-baragraffau (1), (2) a (3) ym mhob achos yr ail “or” a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff wedi eu hepgor; a
ii
yn is-baragraff (1)(a) “May” wedi ei roi yn lle “April”.
Y Castell a Glandŵr — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol23
Mae'r rhan o gymuned y Castell a ddangosir â chroeslinellau ar Fap T—
a
wedi ei throsglwyddo i gymuned Glandŵr; a
b
yn rhan o adran etholiadol Glandŵr.
Llandeilo Ferwallt a Phennard — newid yn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol24
Mae'r rhannau o gymuned Pennard a ddangosir â chroeslinellau ar Fapiau U a V—
a
wedi eu trosglwyddo i gymuned Llandeilo Ferwallt;
b
yn rhan o ward Llandeilo Ferwallt cymuned Llandeilo Ferwallt; ac
c
yn rhan o adran etholiadol Llandeilo Ferwallt.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)