2011 Rhif 865 (Cy.127)
Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011
Gwnaed
Yn dod i rym
Gwneir y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 15(8)1, a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20102, o ran cosbau a roddir gan—
awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru,
Asiantaeth yr Amgylchedd o ran methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru, ac
Gweinidogion Cymru.
Ymgynghorwyd â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd ac mae'r Cyngor hwnnw wedi ymgynghori â Phwyllgor Cymreig y Cyngor Cyfiawnder a Thribiwnlysoedd, yn unol ag adran 44 o Ddeddf y Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 20073a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi.
Mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 15(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
O ran y Rheoliadau hyn—
a
eu henw yw Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011;
b
deuant i rym ar 6 Ebrill 2011; ac
c
maent yn gymwys o ran cosbau a roddir gan—
i
awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru;
ii
Asiantaeth yr Amgylchedd mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru; a
iii
Gweinidogion Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 15(1) o'r Ddeddf mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad o dan adran 14(1) neu (3) o'r Ddeddf i ddarparu gwybodaeth;
ystyr “hysbysiad o gosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad gan awdurdod o dan adran 15(3) o'r Ddeddf sy'n rhoi cosb i berson sy'n methu â darparu gwybodaeth a bennir mewn hysbysiad gorfodi yn y cyfnod penodedig.
Yr hawl i apelio3
Caiff person y rhoddwyd cosb iddo gan hysbysiad o gosb apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y gosb.
Y seiliau dros apelio4
At ddibenion rheol 22(2)(g) o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 20094, y seiliau dros apelio yw—
a
bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad o gosb wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
c
bod swm y gosb yn afresymol;
ch
unrhyw reswm arall.
Y weithdrefn5
Rhaid i'r canlynol fynd gyda hysbysiad o apêl5 o dan reol 22 o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (yn ychwanegol at fod yn rhaid i'r hysbysiad gydymffurfio â gofynion y Rheolau hynny)—
a
copi o'r hysbysiad gorfodi;
b
copïau o unrhyw sylwadau a wnaed o dan adran 15(2)(c) o'r Ddeddf;
c
copi o'r hysbysiad o gosb.
Effaith apêl6
Rhaid i awdurdod sy'n cael hysbysiad o apêl gan berson y mae wedi rhoi cosb iddo beidio â chymryd camau i adennill y gosb ar ffurf dyled hyd oni ddyfernir ar yr apêl neu hyd oni chaiff ei thynnu'n ôl.
Dyfarnu ar apêl7
Pan benderfynir ar apêl o dan reoliad 3, rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai—
a
cadarnhau'r gosb;
b
lleihau'r gosb; neu
c
dileu'r gosb.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)