Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 865 (Cy.127)

DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011

Gwnaed

17 Mawrth 2011

Yn dod i rym

6 Ebrill 2011

Mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 15(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  O ran y Rheoliadau hyn—

(a)eu henw yw Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011;

(b)deuant i rym ar 6 Ebrill 2011; ac

(c)maent yn gymwys o ran cosbau a roddir gan—

(i)awdurdodau llifogydd lleol arweiniol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru;

(ii)Asiantaeth yr Amgylchedd mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cysylltiad â swyddogaeth rheoli perygl o lifogydd neu erydu arfordirol o ran Cymru; a

(iii)Gweinidogion Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Yr hawl i apelio

3.  Caiff person y rhoddwyd cosb iddo gan hysbysiad o gosb apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y gosb.

Y seiliau dros apelio

4.  At ddibenion rheol 22(2)(g) o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009(4), y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad o gosb wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;

(c)bod swm y gosb yn afresymol;

(ch)unrhyw reswm arall.

Y weithdrefn

5.  Rhaid i'r canlynol fynd gyda hysbysiad o apêl(5) o dan reol 22 o Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (yn ychwanegol at fod yn rhaid i'r hysbysiad gydymffurfio â gofynion y Rheolau hynny)—

(a)copi o'r hysbysiad gorfodi;

(b)copïau o unrhyw sylwadau a wnaed o dan adran 15(2)(c) o'r Ddeddf;

(c)copi o'r hysbysiad o gosb.

Effaith apêl

6.  Rhaid i awdurdod sy'n cael hysbysiad o apêl gan berson y mae wedi rhoi cosb iddo beidio â chymryd camau i adennill y gosb ar ffurf dyled hyd oni ddyfernir ar yr apêl neu hyd oni chaiff ei thynnu'n ôl.

Dyfarnu ar apêl

7.  Pan benderfynir ar apêl o dan reoliad 3, rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai—

(a)cadarnhau'r gosb;

(b)lleihau'r gosb; neu

(c)dileu'r gosb.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hawl i apelio yn erbyn cosbau a roddir o dan adran 15 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) (“y Ddeddf”) o ran Cymru. Maent yn rhoi awdurdodaeth i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf i ystyried apelau a wneir o dan y Rheoliadau hyn. Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefn, gan gynnwys: y seiliau dros apelio; effaith apêl; a phwerau Tribiwnlys yr Haen Gyntaf wrth ddyfarnu ar yr apêl.

Mae Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976) hefyd yn llywodraethu apelau o dan adran 15 o'r Ddeddf a'r broses o ddwyn apêl.

Mae asesiad o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes, costau'r sector gwirfoddol a chostau'r sector cyhoeddus ar gael gan: Yr Is-adran Newid yn yr Hinsawdd a Dŵr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Rhoddir y pŵer gan adran 15(8) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i “the Minister”, ac mae adran 15(10) o'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister” at ddibenion yr adran.

(5)

Gweler rheol 1(3) o O.S. 2009/1976 ar gyfer ystyr “hysbysiad o apêl”.