2011 Rhif 965 (Cy.139)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(5) ac 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011 a daw i rym ar 19 Ebrill 2011.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

a

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 20113; a

b

mae i “grant ffioedd newydd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2011.

Swyddogaethau Atodol

2

Mae'r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 20114, wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru5

a

swyddogaethau yn ymwneud â thalu grant ffioedd newydd o dan reoliad 65 o Reoliadau 2011;

b

swyddogaethau yn ymwneud ag adennill gordalu'r grant ffioedd newydd o dan reoliad 70 o Reoliadau 2011; ac

c

swyddogaethau yn ymwneud â gwneud cais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2011 a chael yr wybodaeth honno, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill grant ffioedd newydd.

3

Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 2.

Leighton AndrewsY Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 69(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi unrhyw swyddogaethau atodol yn ymwneud â darparu addysg sydd yn eu barn hwy yn briodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu osod y swyddogaethau atodol hynny arno.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau atodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae'r swyddogaethau a roddir gan y Gorchymyn hwn yn swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu harfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sy'n ymwneud â thalu grant ffioedd dysgu i sefydliadau addysg uwch (ac adennill y grant hwnnw) mewn perthynas â myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau addysg uwch dynodedig ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny.