2011 Rhif 971 (Cy.141)
Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.
Enwi, cychwyn a rhychwantuI11
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.
2
Mae'r Rheoliadau hyn—
a
yn dod i rym ar 29 Mawrth 2011; a
b
yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005I22
Mae'r Atodlen, sy'n darparu ar gyfer diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20053, yn cael effaith.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004I33
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 20044, yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”), yn lle “Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff”, rhodder “Erthygl 3(19) a (15) o Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.
Diwygio Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005I44
1
Mae Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 20055 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2 —
a
yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1), rhodder—
ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff
b
yn lle is-baragraff (c) o baragraff (1), rhodder—
c
mae cyfeiriad at briodweddau peryglus yn gyfeiriad at y priodweddau a osodir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff.
c
yn lle is-baragraff (b) o baragraff (2), rhodder—
b
ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd a osodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at ei chyflwyniad (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”).
3
Yn rheoliad 4—
a
o flaen “H3 i H8”, mewnosoder “peryglus”;
b
hepgorer “o Atodiad III”.
4
Hepgorer paragraffau 1 a 2 o Atodlen 2.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005I55
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 20056, ym mharagraff (1) yn lle'r diffiniad o “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) rhodder—
ystyr “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) yw'r cynllun cenedlaethol ar reoli gwastraff o fewn ystyr Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, a elwir wrth yr enw hwnnw ac a gafodd ei baratoi gan Weinidogion Cymru;
Diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009I66
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20097, ym mharagraff 3(1), yn lle'r geiriau o “Chyfarwyddeb 2006/12/EC” hyd at y diwedd, rhodder “Chyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.
Dirymu Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003I77
Dirymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 20038.
YR ATODLENDiwygiadau i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
RHAN 1
Diwygiadau
I81
Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20059 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
I92
Yn lle rheoliad 2, rhodder—
Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff2
1
At ddibenion y Rheoliadau hyn—
a
ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff;
b
ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—
i
sy'n wastraff o fewn ystyr Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Wastraff; ac
ii
yn ddarostyngedig i reoliad 15, nad yw wedi ei wahardd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2(1), (2) neu (3).
2
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a bennir yn Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno, sef sicrhau yr ymgymerir â rheoli gwastraff heb beryglu iechyd dynol, heb niweidio'r amgylchedd ac, yn benodol—
a
heb risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid;
b
heb achosi niwsans oherwydd sŵn neu aroglau; ac
c
heb gael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig.
I103
Yn lle rheoliad 3, rhodder—
Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff3
Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —
a
at Atodiad III yn gyfeiriad at Atodiad III (priodoleddau gwastraff sy'n ei wneud yn beryglus) i'r Gyfarwyddeb Wastraff, fel y gosodir yr Atodiad hwnnw yn Atodlen 3;
b
at briodoleddau peryglus yn gyfeiriad at y priodoleddau yn Atodiad III.
I114
Yn rheoliad 4(1), yn y diffiniad o “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”), hepgorer o “, sef y rhestr” hyd at y diwedd.
I125
Yn rheoliad 5—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn lle'r diffiniad o “nodyn traddodi” (“consignment note”), rhodder—
ystyr “nodyn traddodi ” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r ffurflen ddynodi y mae'n ofynnol iddi fod gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 19(2) o'r Gyfarwyddeb Wastraff.
ii
mewnosoder yn y man priodol—
ystyr “gwastraff domestig” (“domestic waste”) yw gwastraff a gynhyrchir gan aelwyd;
iii
yn lle'r diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”), rhodder—
ystyr “amlgasgliad” (“multiple collection”) yw taith a wneir gan gludwr unigol sy'n bodloni'r amodau a ganlyn—
- a
bod y cludwr yn casglu mwy nag un llwyth o wastraff peryglus yn ystod y daith;
- b
bod pob llwyth yn cael ei gasglu o fangreoedd gwahanol;
- c
bod pob mangre y cesglir ohoni yng Nghymru ; a
- ch
bod pob llwyth a gesglir yn cael ei gludo gan y cludwr hwnnw yn ystod y daith at yr un traddodai;
iv
hepgorer diffiniad o “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”);
b
yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw weithrediad a'i brif ganlyniad yw bod gwastraff yn ateb diben defnyddiol drwy ddisodli deunyddiau eraill a fyddai fel arall wedi cael eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol, neu wastraff a gaiff ei baratoi i gyflawni'r swyddogaeth honno, ar y safle neu yn yr economi ehangach (mae Atodiad II o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau adfer);
ystyr “brocer” (“broker”) yw ymgymeriad sy'n trefnu i adfer neu waredu gwastraff ar ran eraill, gan gynnwys broceriaid o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;
ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi gwastraff, gan gynnwys sortio cychwynnol a storio cychwynnol o wastraff at ddibenion cludo gwastraff i gyfleuster trin gwastraff;
ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol”) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff;
ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person sydd yn ei feddu;
ystyr “deliwr” (“dealer”) yw unrhyw ymgymeriad sy'n gweithredu yn rôl penadur er mwyn prynu ac yna gwerthu gwastraff, gan gynnwys delwyr o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;
ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw weithrediad nad yw'n adfer hyd yn oed os oes canlyniad eilaidd i'r gweithrediad sef adennill sylweddau neu ynni (mae Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau gwaredu);
ystyr “olew gwastraff” (“waste oil”) yw unrhyw iriad mwynol neu synthetig neu olew diwydiannol nad yw bellach yn addas at y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer yn wreiddiol, megis olew sydd wedi ei ddefnyddio a hwnnw'n olew peiriannau hylosgi ac olew gerbocs, olew iro, olew ar gyfer tyrbinau ac olew hydrolig;
ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio'r gweithrediadau hynny a'r ôl-ofal am safleoedd gwaredu, a chan gynnwys camau a gymerir fel deliwr neu frocer;
ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
c
ym mharagraff (3)(c), yn lle “, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “neu atodlen o gludwyr”.
I136
Yn rheoliad 8(1), yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”.
I147
Yn rheoliad 9—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”;
ii
hepgorer “i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus”;
b
ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
1A
Nid yw'r pŵer a geir ym mharagraff (1) i benderfynu y caiff gwastraff ei drin fel gwastraff nad yw'n beryglus yn gymwys i wastraff a gafodd ei wanhau neu ei gymysgu gyda'r bwriad o leihau'r crynodiadau cychwynnol o sylweddau peryglus i lefel sy'n is na'r trothwyon ar gyfer diffinio gwastraff yn wastraff peryglus.
I158
Yn rheoliad 18—
a
ar ôl y geiriau “wedi'i”, mewnosoder “wanhau neu wedi'i”;
b
ar ôl paragraff (a), mewnosoder—
aa
yn achos gwastraff peryglus sy'n wastraff olew, gwastraff olew o wahanol nodweddion;
I169
Yn rheoliad 19—
a
ym mharagraff (1), yn lle “(2) a (3)”, rhodder “(2), (3) a (4)”;
b
ym mharagraff (3), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig” a “neu'r esemptiad hwnnw”;
c
ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
4
Mae paragraff (1) yn gymwys ar gyfer cymysgu olew gwastraff—
a
dim ond i'r graddau y mae'r gwaharddiad yn paragraff hwnnw yn ymarferol dechnegol ac yn ddichonadwy'n economaidd; a
b
dim ond pan fyddai cymysgu o'r fath yn rhwystro trin yr olew gwastraff.
I1710
Yn rheoliad 20(1)(a), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig”.
I1811
Yn rheoliad 35—
a
ym mharagraff (1)(a), yn lle “(3)” rhodder “(2)”;
b
hepgorer paragraffau (1)(c) a (4);
c
ym mharagraff (5)—
i
yn lle “nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “nodyn traddodi neu atodlen o gludwyr”,
ii
yn lle “Atodlen 4, 5 neu 6”, rhodder “Atodlen 4 neu 5”;
ch
ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
6
Hyd at ddiwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011 eu gwneud—
a
caiff cludwr ddewis defnyddio'r weithdrefn amlgasgliad a oedd yn gymwys yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym; a
b
caniateir defnyddio'r ffurflenni a osodir yn y Rheoliadau hyn fel a ddeddfwyd yn wreiddiol, neu ffurflenni sy'n gofyn am yr un wybodaeth sydd yn sylweddol yn yr un fformat, yn hytrach na'r rhai a amnewidir gan Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.
I1912
Yn rheoliad 36(1), yn lle “38” rhodder “39”.
I2013
Hepgorer rheoliad 38.
I2114
Yn rheoliad 42—
a
ym mharagraff (1), yn lle “rheoliadau 43 a 44” rhodder “rheoliad 43”;
b
ym mharagraff (2), hepgorer “38(6)(b) ac (c),”.
I2215
Yn rheoliad 43(1), hepgorer “ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 44 yn gymwys iddo”.
I2316
Hepgorer rheoliad 44.
I2417
Yn rheoliad 47—
a
ar ôl paragraff (5)(b), hepgorer “ac”;
b
ym mharagraff (5)(c), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;
c
ar ôl paragraff (5), mewnosoder—
5A
Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—
a
am 5 mlynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu
b
os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi, hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
5B
Ym mharagraff (5A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2).
I2518
Yn rheoliad 48—
a
ym mharagraff (3)(c), yn lle “Atodiad IIA neu IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff”, rhodder “Atodiad I neu II o'r Gyfarwyddeb Wastraff (yn ôl y digwydd)”;
b
ym mharagraff (6)(a), hepgorer “a”;
c
ym mharagraff (6)(b), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (6A),”;
ch
ar ôl paragraff (6), mewnosoder—
6A
Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—
a
am 5 mlynedd ar ôl gwaredu neu adfer y gwastraff; neu
b
os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi (yn ogystal a thriniaeth arall), hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
6B
Ym mharagraff (6A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2).
I2619
Yn rheoliad 49—
a
ym mharagraff (1), yn lle “traddodwr gwastraff peryglus”, rhodder “traddodwr, neu frocer neu ddeliwr mewn, gwastraff peryglus”;
b
yn lle paragraff (3), rhodder—
3
Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan baragraff (1) ei gadw—
a
tra bo'r person yn ddeiliad y gwastraff neu (os nad yw'n ddeiliad) tra bo ganddo reolaeth o'r gwastraff; a
b
am 3 blynedd ar ôl y dyddiad y trosglwyddir y gwastraff i berson arall.
c
ym mharagraff (4)—
i
ar ôl “deiliad”, mewnosoder “, deliwr, brocer”;
ii
ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”;
ch
ym mharagraff (5)—
i
ar ôl y tro cyntaf mae “deiliad” yn ymddangos, mewnosoder “, deliwr, brocer”,
ii
yn is-baragraff (b), o flaen “draddodwr”, mewnosoder “ddeliwr, brocer neu”.
I2720
Yn rheoliad 50(3), ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”.
I2821
Yn rheoliad 51(2)(a)—
a
hepgorer “nodiadau amldraddodi a phan” ac yn ei le rhodder “, pan”;
b
hepgorer “neu 44”.
I2922
Yn rheoliadau 52(1) a 55(3), yn lle “Atodiad IIA neu Atodiad IIB”, rhodder “Atodiad I neu Atodiad II”.
I3023
Hepgorer rheoliad 57.
I3124
Yn rheoliad 60—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 5”, rhodder “Erthygl 16”;
b
hepgorer paragraff (2).
I3225
Yn rheoliad 65(c), yn lle “44” rhodder “43”.
I3326
Yn y tabl yn rheoliad 65A(1), hepgorer y rhes sy'n dechrau “rheoliad 44”.
I3427
Yn rheoliad 69(1)(d), yn lle “44” rhodder “43”.
I3528
Hepgorer Atodlenni 1, 2 a 6.
I3629
Yn lle Atodlen 3, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 2.
I3730
Yn lle Atodlen 4, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 3.
I3831
Ym mharagraff 4(3)(a) o Atodlen 7, yn lle “43 neu 44” rhodder “36 neu 43”.
I3932
Ym mharagraff 1 o Atodlen 7, yn lle “pharagraff 7” rhodder “pharagraff 6”.
I4033
Ym mharagraff 6 o Atodlen 7—
a
ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 38(1)”, rhodder “y diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”) yn rheoliad 5(1)”;
b
ym mharagraff (2), hepgorer yr holl eiriau ar ôl “y Rheoliadau hyn”;
c
hepgorer paragraff (3).
I4134
Yn Atodlen 11, hepgorer paragraffau 5 i 8 a 11 i 25.
I42RHAN 2Atodlen 3 newydd
ATODLEN 3Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff
Properties of waste which render it hazardous
H1
“Explosive”: substances and preparations which may explode under the effect of flame or which are more sensitive to shocks or friction than dinitrobenzene.
H2
“Oxidizing”: substances and preparations which exhibit highly exothermic reactions when in contact with other substances, particularly flammable substances.
H3—A
“Highly flammable”
— liquid substances and preparations having a flash point below 21°C (including extremely flammable liquids), or
— substances and preparations which may become hot and finally catch fire in contact with air at ambient temperature without any application of energy, or
— solid substances and preparations which may readily catch fire after brief contact with a source of ignition and which continue to burn or be consumed after removal of the source of ignition, or
— gaseous substances and preparations which are flammable in air at normal pressure, or
— substances and preparations which, in contact with water or damp air, evolve highly flammable gases in dangerous quantities.
H3—B
“Flammable”: liquid substances and preparations having a flash point equal to or greater than 21°C and less than or equal to 55°C.
H4
“Irritant”: non-corrosive substances and preparations which, through immediate, prolonged or repeated contact with the skin or mucous membrane, can cause inflammation.
H5
“Harmful”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may involve limited health risks.
H6
“Toxic”: substances and preparations (including very toxic substances and preparations) which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may involve serious, acute or chronic health risks and even death.
H7
“Carcinogenic”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce cancer or increase its incidence.
H8
“Corrosive”: substances and preparations which may destroy living tissue on contact.
H9
“Infectious”: substances and preparations containing viable micro-organisms or their toxins which are known or reliably believed to cause disease in man or other living organisms.
H10
“Toxic for reproduction”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce non-hereditary congenital malformations or increase their incidence.
H11
“Mutagenic”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce hereditary genetic defects or increase their incidence.
H12
Waste which releases toxic or very toxic gases in contact with water, air or an acid.
H13(*)
“Sensitizing”: substances and preparations which, if they are inhaled or if they penetrate the skin, are capable of eliciting a reaction of hypersensitization such that on further exposure to the substance or preparation, characteristic adverse effects are produced.
(*) As far as testing methods are available.
H14
“Ecotoxic”: waste which presents or may present immediate or delayed risks for one or more sectors of the environment.
H15
Waste capable by any means, after disposal, of yielding another substance, e.g. a leachate, which possesses any of the characteristics above.
Notes
- 1
Attribution of the hazardous properties “toxic” (and “very toxic”), “harmful”, “corrosive”, “irritant”, “carcinogenic”, “toxic to reproduction”, “mutagenic” and “ecotoxic” is made on the basis of the criteria laid down by Annex VI, to Council Directive 67/548/EEC of 27 June 1967 on the approximation of laws, regulations and administrative provisions relating to the classification, packaging and labelling of dangerous substances.
- 2
Where relevant the limit values listed in Annex II and III to Directive 1999/45/EC of the European Parliament and of the Council of 31 May 1999 concerning the approximation of laws, regulations and administrative provisions of the Member States relating to the classification, packaging and labelling of dangerous preparations shall apply.
Test methods
The methods to be used are described in Annex V to Directive 67/548/EEC and in other relevant CEN-notes.
I43RHAN 3
Atod. Rhn. 3 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
ATODLEN 4
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Atod. Pt. 2 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)