Search Legislation

Rheoliadau'r Rhaglen Mesur Plant (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 985 (Cy.142)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Rhaglen Mesur Plant (Cymru) 2011

Gwnaed

28 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mawrth 2011

Yn dod i rym

1 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt yn adrannau 12, 13, 203 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 7B o Atodlen 1 iddi(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Mesur Plant (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw'r flwyddyn ysgol pan fo mwyafrif y plant ynddi naill ai'n 8 neu'n 9 mlwydd oed;

  • ystyr “blwyddyn dderbyn” (“reception year”) yw'r flwyddyn ysgol pan fo mwyafrif y plant ynddi naill ai'n 4 neu'n 5 mlwydd oed;

  • mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr ag sydd i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “clorian” (“scales”) yw dyfais electronig y mae person yn sefyll arni i gael ei bwyso;

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag sydd i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “mesurydd taldra” (“height measure”) yw stadiomedr y mae person yn sefyll arno i gael ei fesur â mesurydd fertigol a rhoden neu badell lithro lorweddol;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw (i) rhiant y plentyn perthnasol, (ii) person a awdurdodir drwy ysgrifen gan riant y plentyn perthnasol, neu (iii) person y mae'r plentyn perthnasol yn dymuno iddo fynd yn gwmni iddo;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw (i) proffesiynolyn iechyd perthnasol pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gydag awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion nas cynhelir gan awdurdod lleol, ac (ii) ym mhob achos arall, proffesiynolyn iechyd perthnasol neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn yn y flwyddyn dderbyn neu ym mlwyddyn 4;

  • ystyr “proffesiynolyn iechyd perthnasol”(“relevant health professional”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig, neu fydwraig gofrestredig;

  • mae “prosesu” a “proseswyd” i'w dehongli yn unol ag ystyr “processing” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Data 1998;

  • ystyr “Rhaglen Mesur Plant Cymru” (“the Child Measurement Programme for Wales”) yw'r rhaglen flynyddol y caiff plant perthnasol eu pwyso a'u mesur oddi tani mewn ysgolion;

  • mae “rhiant” (“parent”), mewn cysylltiad â phlentyn perthnasol, yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu ofal, dros y plentyn, ac wrth benderfynu a oes gan berson ofal dros y plentyn, diystyrir unrhyw absenoldeb y plentyn mewn ysbyty neu ysgol breswyl ac unrhyw absenoldeb dros dro arall.

Casglu gwybodaeth am daldra a phwysau gan Fyrddau Iechyd Lleol a'i phrosesu ymhellach

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ac i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 7A(1) a (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, i wneud trefniadau gydag awdurdodau lleol(2) a pherchnogion ysgolion nas cynhelir gan awdurdod lleol i bwyso a mesur plant mewn ysgolion, i fod yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol mewn cysylltiad ag ysgolion sy'n bodoli yn eu hardal.

(2Caiff pob Bwrdd Iechyd Lleol, yn ôl y ddarpariaeth o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 7A(1) neu (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, bwyso a mesur plant a phrosesu ymhellach yr wybodaeth sy'n deillio o hynny at ddibenion Rhaglen Mesur Plant Cymru os yw'r amodau a osodir yn rheoliad 5 wedi'u bodloni.

(3Caniateir i'r swyddogaethau ym mharagraffau 7A(1) a (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf sy'n arferadwy gan Fwrdd Iechyd Lleol gael eu harfer, drwy drefniant â'r bwrdd hwnnw ac yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y gwêl y bwrdd hwnnw'n dda, gan Fwrdd Iechyd Lleol arall.

Casglu gwybodaeth am daldra a phwysau gan Weinidogion Cymru a'i phrosesu ymhellach

4.  Caiff Gweinidogion Cymru yn ôl y ddarpariaeth o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 7A(1) neu (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, bwyso a mesur plant a phrosesu ymhellach yr wybodaeth sy'n deillio o hynny at ddibenion Rhaglen Mesur Plant Cymru os yw'r amodau a osodir yn rheoliad 5 wedi'u bodloni.

Amodau

5.—(1Yr amodau at ddibenion rheoliad 3(2) a 4 yw–

(a)bod y plentyn sydd i gael ei bwyso a'i fesur yn blentyn perthnasol sy'n abl i sefyll, ac yn fodlon sefyll, heb gynhorthwy ar glorian ac oddi tan fesurydd taldra;

(b)nad yw rhiant i'r plentyn perthnasol wedi tynnu'r plentyn yn ôl o gymryd rhan yn yr ymarfer pwyso a mesur;

(c)bod yr ymarfer pwyso a mesur yn cael ei gynnal mewn ystafell neu fan wedi'i amgylchynu â gwahanlen lle mae'r wybodaeth am y mesuriadau yn ddiogel ac na all unrhyw un nad yw'n cynorthwyo i gynnal yr ymarfer neu'n ei oruchwylio ei gweld na'i chlywed; ac

(ch)bod y trefniadau yn cael eu rheoli gan berson perthnasol.

(2At ddibenion rheoliad 5(1)(c) bernir bod person awdurdodedig sy'n mynd yn gwmni i'r plentyn perthnasol yn 'cynorthwyo' i gynnal yr ymarfer.

Cyfranogiad rhieni

6.  Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru, wrth gynnal ymarfer pwyso a mesur at ddibenion Rhaglen Mesur Plant Cymru o dan drefniadau a wnaed o dan baragraff 7A(1) neu (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, gymryd camau i roi i bob rhiant i blentyn perthnasol y mae'r cyfryw ymarfer yn ymwneud ag ef gyfle rhesymol i dynnu ei blentyn yn ôl o gymryd rhan yn yr ymarfer.

Dibenion ychwanegol y caniateir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer

7.—(1Caniateir prosesu ymhellach wybodaeth a gesglir yn unol â'r Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan neu gan Fwrdd Iechyd Lleol neu ar ei ran gyda golwg ar —

(a)ei rhyddhau, ynghyd â deunydd cynghorol ynghylch pwysau plant, i riant plentyn perthnasol y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef;

(b)rhoi cyngor i riant plentyn perthnasol ynghylch gwybodaeth o'r fath;

(c)rhyddhau'r wybodaeth i broffesiynolyn iechyd perthnasol i'w defnyddio yn unol ag arferion da i ddarparu gofal a thriniaeth i blentyn penodol;

(ch)rhyddhau'r wybodaeth, ar ffurf nad yw'n caniatáu i'r plentyn gael ei adnabod, i'w defnyddio yn unol ag arferion da ar gyfer gwaith cadw golwg, ymchwilio, monitro neu archwilio ac ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd.

(2Caniateir rhyddhau gwybodaeth a gesglir ac a brosesir ymhellach yn unol â'r Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan i Fwrdd Iechyd Lleol gyda golwg ar —

(a)ei rhyddhau, ynghyd â deunydd cynghorol ynghylch pwysau plant i riant plentyn perthnasol y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef;

(b)rhoi cyngor i riant plentyn perthnasol ynghylch gwybodaeth o'r fath;

(c)rhyddhau'r wybodaeth i broffesiynolyn iechyd perthnasol i'w defnyddio yn unol ag arferion da i ddarparu gofal a thriniaeth i blentyn penodol;

(ch)rhyddhau'r wybodaeth, ar ffurf nad yw'n caniatáu i'r plentyn gael ei adnabod, i'w defnyddio yn unol ag arferion da ar gyfer gwaith cadw golwg, ymchwilio, monitro neu archwilio ac ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd.

Canllawiau

8.  Rhaid i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw bwyso neu fesur y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu mewn cysylltiad â gwybodaeth sy'n deillio o bwyso a mesur o'r fath roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn sy'n gymwys i Gymru o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Maent yn darparu i swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 7A(1) a (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, o ran gwneud trefniadau ag awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion annibynnol i ddarparu ar gyfer pwyso a mesur plant mewn ysgolion, fod yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol

Mae rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau o riant (sy'n cynnwys gofalwyr) ac o blentyn perthnasol (a ddiffinnir fel plentyn yn y flwyddyn dderbyn neu ym mlwyddyn 4).

Mae rheoliad 3 yn darparu i swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 7A(1) a (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf fod yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol. Mae hefyd yn pennu amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn galluogi Byrddau Iechyd Lleol i bwyso a mesur plant ac i brosesu ymhellach yr wybodaeth sy'n deillio o hynny at ddibenion Rhaglen Mesur Plant Cymru (RhMP) (rhaglen flynyddol y mae plant yn cael eu pwyso a'u mesur mewn ysgolion oddi tani).

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i amodau penodol gael eu bodloni pan fo Gweinidogion Cymru yn pwyso a mesur plant ac yn prosesu ymhellach yr wybodaeth sy'n deillio o hynny at ddibenion y RhMP.

Mae rheoliad 5 yn gosod yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 a 4. Mae'r amodau'n darparu bod rhaid i'r plant, ac eithrio'r rheini a dynnwyd oddi ar y RhMP gan eu rhieni, fod yn abl i sefyll, ac yn fodlon sefyll, heb gynhorthwy i gael eu pwyso a'u mesur. Mae'r rheoliad hefyd yn pennu ym mha fodd y mae'r wybodaeth i'w chasglu.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth i rieni gael cyfle i “eithrio” eu plentyn rhag y RhMP.

Mae rheoliad 7 yn gosod at ba ddibenion y caniateir prosesu ymhellach yr wybodaeth a gesglir o dan y Rheoliadau. Y dibenion hynny yw: rhyddhau gwybodaeth am daldra a phwysau plentyn ynghyd â deunydd cynghorol cysylltiedig i riant plentyn sydd wedi cymryd rhan yn y RhMP; rhoi cyngor i riant o'r fath ynghylch yr wybodaeth honno; rhyddhau'r wybodaeth i broffesiynolion iechyd perthnasol pan fydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i ddarparu gofal a thriniaeth i blentyn penodol; a rhyddhau gwybodaeth o'r fath, ar ffurf nad yw'n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod, ar gyfer gwaith cadw golwg, ymchwilio, monitro neu archwilio (gan gynnwys ymchwilio i achosion ac effeithiau problemau sy'n gysylltiedig â phwysau a'r cyfleusterau a'r triniaethau y gellid eu rhoi ar gael i bersonau o'r fath) ac ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru neu berson sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru i ryddhau'r wybodaeth am daldra a phwysau i Fwrdd Iechyd Lleol.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod rhaid i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â'r pwyso neu'r mesur y mae'r rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu mewn cysylltiad â gwybodaeth sy'n deillio o'r cyfryw bwyso neu fesur roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(1)

2006 p.42. Mewnosodwyd paragraff 7B gan adran 144 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14); a gweler adran 206(1) am y diffiniad o “regulation”.

(2)

Rhoddwyd y term 'awdurdodau lleol' yn Atodlen 1 o'r Ddeddf yn lle'r term 'awdurdodau addysg lleol' gan baragraff 61 o Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources