2011 Rhif 990 (Cy.144)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 18(4), 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi1.

Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2011.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2011.

Diwygio Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 20092

1

Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 20092 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “undeb llafur”.

3

Yn rheoliad 5(1) (cyfarwyddwyr anweithredol), hepgorer is-baragraff (ch).

4

Yn rheoliad 10 (terfynu deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), yn lle rheoliad 10(8), rhodder—

Os bydd y cyfarwyddwr anweithredol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn un o aelodau neu o gyflogeion corff sector gwirfoddol yng Nghymru, bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei benodiad yn gyfarwyddwr anweithredol.

5

Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gweithdrefnau ar gyfer penodi'r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), yn lle “aelodau” rhodder “gyfarwyddwyr”.

6

Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth), yn lle “yr aelodau” (llinell 3) rhodder “y cyfarwyddwyr” ac yn lle “aelodau” (llinell 7) rhodder “gyfarwyddwyr”.

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 (O.S. 2009/1385 (Cy.141) drwy symud ymaith y gofyniad ar gyfarwyddwyr anweithredol i gynnwys person sydd yn swyddog o undeb llafur neu gorff cynrychioliadol arall o gyflogeion sy'n cynrychioli staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae yna hefyd fân ddiwygiadau i reoliad 1(2) (dehongli), paragraff 2 o Atodlen 1 (gweithdrefnau ar gyfer penodi'r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol), a pharagraff 2(2) o Atodlen 2 (rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth).