2011 Rhif 993 (Cy.146)
Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 20021, yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 20072 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011 a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
2
Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Cynllun hwn ystyr “y prif Gynllun” (“the principal Scheme”) yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007.
Diwygio erthygl 2 o'r prif Gynllun2
Yn erthygl 2 o'r prif Gynllun (diffiniadau), yn y diffiniad o “corff cymeradwyo” (“approval body”), yn lle “yw'r corff y cyfeirir ato yn erthygl 3” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.
Dirymu erthygl 3 o'r prif Gynllun3
Mae erthygl 3 o'r prif Gynllun (corff penodedig) wedi ei dirymu.
Diwygio erthygl 6 o'r prif Gynllun4
Yn lle paragraff (1) o erthygl 6 o'r prif Gynllun (person a gymeradwywyd) rhodder y canlynol—
1
Rhoddir cymeradwyaeth i berson fel darparydd gofal plant o dan y Cynllun hwn os yw'r corff cymeradwyo wedi'i fodloni bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni mewn perthynas â'r person hwnnw.
Diwygio erthygl 7 o'r prif Gynllun5
Ym mharagraff (b) o erthygl 7 o'r prif Gynllun (meini prawf cymeradwyo) yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.
Diwygio erthyglau 8, 9 a 10 o'r prif Gynllun6
Yn erthyglau 8 (system gymeradwyo), 9 (yr wybodaeth sydd i'w darparu gan y corff cymeradwyo) a 10 (y cyfnod cymeradwyo) o'r prif Gynllun, yn lle “rhaid i” rhodder “bydd” ym mhob man lle y mae'n ymddangos.
Diwygio erthygl 12 o'r prif Gynllun7
Yn erthygl 12 o'r prif Gynllun (ffioedd) hepgorer “, a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru,”.
Dirymu erthygl 13 o'r prif Gynllun8
Mae erthygl 13 o'r prif Gynllun (darpariaethau trosiannol) wedi ei dirymu.
Mewnosod erthyglau yn y prif Gynllun9
Mae'r erthyglau a ganlyn wedi eu mewnosod yn y prif Gynllun—
Arbed14
1
Er gwaethaf dwyn y Cynllun hwn i rym, mae unrhyw gymeradwyaeth a roddir i ddarparydd gofal plant gan y cyn gorff cymeradwyo yn ddilys yn union cyn 1 Ebrill 2011 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â'r darparydd hwnnw hyd nes y cynharaf o'r tri dyddiad isod, sef —
a
y dyddiad pryd y tynnir y gymeradwyaeth honno yn ôl yn unol ag erthygl 6;
b
y dyddiad pryd y daw'r gymeradwyaeth i ben am fod amser wedi mynd heibio; neu
c
y dyddiad pryd y rhoddir cymeradwyaeth i'r darparydd gofal plant dan sylw gan y corff cymeradwyo yn unol ag erthygl 6.
2
Yn yr erthygl hon ac yn erthygl 15, ystyr “cyn gorff cymeradwyo” (“former approval body”) yw Nestor Primecare Services Limited, sy'n masnachu fel Nestor Criminal Records Agency3.
Darpariaeth drosiannol15
Pan fo cais am gymeradwyaeth fel darparydd gofal plant wedi cael ei gyflwyno i'r cyn gorff cymeradwyo ond nid yw wedi ei roi na'i wrthod eto gan y cyn gorff cymeradwyo cyn 1 Ebrill 2011, bydd y cais hwnnw am gymeradwyaeth yn cael ei benderfynu gan y corff cymeradwyo.