- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
29 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mawrth 2011
Yn dod i rym
22 Ebrill 2011
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Ebrill 2011.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.
(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.
(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.
(5) Yn erthygl 11(e) yn lle “hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012” rhodder “am y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008 ac sy'n gorffen ar 30 Medi 2010,”.
(6) Ym mhennawd erthygl 11A (Y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 30 Medi 2011) yn lle “30 Medi 2011” rhodder “30 Medi 2012”.
(7) Yn erthygl 11A(2) yn lle “30 Medi 2011” rhodder “30 Medi 2012”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Ebrill 2011 ac mae'n gymwys yng Nghymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) drwy ymestyn y ddarpariaeth i gynyddu lefel rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i 30 Medi 2012. Dim ond i gategorïau penodol o drethdalwr a gwmpesir gan Orchymyn 2008 y mae'r ymestyniad i gael rhyddhad yn gymwys.
1988 p.41. Cafodd adran 43 ei diwygio gan adran 117 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 13 iddi (p.14); adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 ac Atodlen 1 iddi (p.29); adran 127 o Ddeddf Gwasanaethau'r Post 2000 ac Atodlen 8 iddi (p.26); adrannau 1 a 3 o Ddeddf Ardrethu (Cyn Fangreoedd Amaethyddol a Siopau Gwledig) 2001 (p.14); adrannau 61, 63 a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26); ac adran 1177 o Ddeddf y Dreth Gorfforaethau 2010 ac Atodlen 1 iddi (p.4). Mewnosodwyd adran 43(4B) gan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Cafodd adran 44 ei diwygio gan adrannau 139 a 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac Atodlenni 5 a 12 iddi (p.42); gan adran 117 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 13 iddi (p.14); a chan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).
Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: