2012 Rhif 1085 (Cy.133)
Rheoliadau Diogelwch Tân (Galluoedd Cyflogeion) (Cymru) 2012
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 24 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 20051 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.
Yn unol ag erthygl 24(4) o'r Gorchymyn hwnnw mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff o bersonau yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Tân (Galluoedd Cyflogeion) (Cymru) 2012.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2012.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Cyflogwyr i ystyried galluoedd cyflogeion2
Rhaid i bob cyflogwr, wrth roi tasgau yng ngofal cyflogeion, ystyried galluoedd y cyflogeion hynny o ran iechyd a diogelwch, i'r graddau y mae'r galluoedd hynny yn ymwneud â thân.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)