xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1260 (Cy.155)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2012

Gwnaed

9 Mai 2012

Yn dod i rym

4 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 4 Mehefin 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cyrff sy'n cael eu Cydnabod

2.  Mae'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi'n gyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod.

Dirymiadau

3.  Mae'r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007(3);

(b)Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) (Diwygio) 2009(4).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

9 Mai 2012

Erthygl 2

YR ATODLEN

Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Prifysgol Llundain y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt ddyfarnu graddau Prifysgol Llundain

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae cyrff o'r fath naill ai:

(a)yn brifysgolion, yn golegau neu'n gyrff a awdurdodwyd drwy Siarter Frenhinol neu drwy Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau; neu

(b)yn gyrff sy'n cael caniatâd am y tro gan unrhyw gorff sy'n cwympo o fewn paragraff (a) i weithredu ar ei ran wrth ddyfarnu graddau.

Mae'r Gorchymyn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff sydd wedi eu cynnwys yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007 ('Gorchymyn 2007') a ddiwygiwyd gan Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n cael eu Cydnabod) (Cymru) (Diwygio) 2009 ('Gorchymyn 2009'). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn 2007 a Gorchymyn 2009. Mae nifer o gyrff wedi eu hepgor o'r Gorchymyn gan nad oes ganddynt bellach bwerau i ddyfarnu graddau neu am eu bod wedi uno â chyrff eraill. Mae nifer o gyrff newydd wedi eu mewnosod gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cyrff hynny bellach yn cwympo o fewn naill ai (a) neu (b) uchod. Mae nifer o fân ddiwygiadau wedi eu gwneud hefyd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau i enwau a wnaed ers diwygio Gorchymyn 2007.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain y mae ganddo'i bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(6)

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain y mae ganddo'i bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(7)

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain y mae ganddo'i bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(8)

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain y mae ganddo'i bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(9)

Mae gan Goleg Prifysgol Llundain ei bwerau dyfarnu graddau ei hun ond mae'n parhau i fod yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain.