- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR
Gwnaed
28 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
2. Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 6 Mehefin 2012—
(a)Adran 12 (ystyr “claf perthnasol”);
(b)Adran 13 (ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”);
(c)Adran 14 (dyletswydd i benodi cydgysylltydd gofal ar gyfer claf perthnasol);
(d)Adran 15 (dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol);
(e)Adran 16 (darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal);
(f)Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o'r Mesur;
(g)Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o'r Mesur;
(h)Adran 19 (trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
(i)Adran 20 (dyletswydd i gynnal asesiadau);
(j)Adran 21 (methiant i gytuno ar drefniadau);
(k)Adran 22 (hawl i asesiad);
(l)Adran 23 (asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol);
(m)Adran 24 (darparu gwybodaeth am asesiadau);
(n)Adran 25 (diben asesu);
(o)Adran 26 (asesiadau: darpariaeth bellach);
(p)Adran 27 (camau yn dilyn asesiad);
(q)Adran 28 (atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant);
(r)Adran 29 (penderfynu man preswylio arferol);
(s)Adran 30 (cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleol);
(t)Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;
(u)Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;
(v)Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;
(w)Adran 46 (Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol); ac
(x)Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o'r Mesur.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mai 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 yn rhestru'r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 6 Mehefin 2012.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn Rhan 2 o'r Mesur, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol yn penodi cydgysylltydd gofal ar gyfer cleifion perthnasol. Mae Rhan 2 hefyd yn pennu swyddogaethau cydgysylltydd gofal. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn Rhan 3 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Cychwynnir hefyd rai o ddarpariaethau Rhan 5 o'r Mesur, i'r graddau y maent yn ymwneud â Rhannau 2 a 3.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321) (C.116) |
Adran 2 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 4 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 5 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 11 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 31 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 32 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 33 | 2 Ebrill 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 34 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 35 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 36 | 2 Ebrill 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 37 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 38 | 2 Ebrill 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 39 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 40 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 43 | 8 Mai 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 44 | 3 Ionawr 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 45 | 8 Mai 2012 | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
Adran 53(1) | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 54 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Atodlen 1 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Atodlen 2 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | 2011/3046 (Cy.321)(C.116) |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) |
Gweler hefyd adran 55(1) o'r Mesur, ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: