Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1397 (Cy.169) (C.52)

IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012

Gwnaed

28 Mai 2012

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 6 Mehefin 2012

2.  Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 6 Mehefin 2012—

(a)Adran 12 (ystyr “claf perthnasol”);

(b)Adran 13 (ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”);

(c)Adran 14 (dyletswydd i benodi cydgysylltydd gofal ar gyfer claf perthnasol);

(d)Adran 15 (dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol);

(e)Adran 16 (darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal);

(f)Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o'r Mesur;

(g)Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o'r Mesur;

(h)Adran 19 (trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);

(i)Adran 20 (dyletswydd i gynnal asesiadau);

(j)Adran 21 (methiant i gytuno ar drefniadau);

(k)Adran 22 (hawl i asesiad);

(l)Adran 23 (asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol);

(m)Adran 24 (darparu gwybodaeth am asesiadau);

(n)Adran 25 (diben asesu);

(o)Adran 26 (asesiadau: darpariaeth bellach);

(p)Adran 27 (camau yn dilyn asesiad);

(q)Adran 28 (atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant);

(r)Adran 29 (penderfynu man preswylio arferol);

(s)Adran 30 (cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleol);

(t)Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;

(u)Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;

(v)Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o'r Mesur;

(w)Adran 46 (Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol); ac

(x)Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o'r Mesur.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mai 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 yn rhestru'r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 6 Mehefin 2012.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn Rhan 2 o'r Mesur, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol yn penodi cydgysylltydd gofal ar gyfer cleifion perthnasol. Mae Rhan 2 hefyd yn pennu swyddogaethau cydgysylltydd gofal. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn Rhan 3 o'r Mesur, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Cychwynnir hefyd rai o ddarpariaethau Rhan 5 o'r Mesur, i'r graddau y maent yn ymwneud â Rhannau 2 a 3.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

DarpariaethDyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 18 Mai 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 28 Mai 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 48 Mai 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 58 Mai 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 118 Mai 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 313 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 323 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 332 Ebrill 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 343 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 353 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 362 Ebrill 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 373 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 382 Ebrill 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 393 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 403 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 438 Mai 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 443 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 458 Mai 20122011/3046 (Cy.321)(C.116)
Adran 53(1)3 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 543 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Atodlen 13 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Atodlen 23 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321)(C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)

Gweler hefyd adran 55(1) o'r Mesur, ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.