2012 Rhif 1423 (Cy.176) (C.53)

Y GYMRAEG

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20111, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012.

Cychwyn2

Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Mehefin 2012—

a

adrannau 4 ac 11;

b

adran 144(1) i'r graddau mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932; ac

c

adran 144(3)(a) at ddibenion diddymu isadrannau (2)(a), (3) a (4) o adran 3 o'r Ddeddf honno.

Leighton AndrewsY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n cychwyn darpariaethau yn y Mesur sy'n ymwneud â swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg o hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg. Adrannau 4, 11, 144(1) a 144(3)(a) yw'r darpariaethau perthnasol.

Mae adran 4 y Mesur yn rhoi'r pŵer i'r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef er mwyn hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ac er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae adran 11 yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.

Mae adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn darparu ar gyfer diddymu swyddogaethau a fu gynt yn cael eu harfer gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rhoddodd adran 3 Deddf 1993 swyddogaethau ynghylch hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg i'r Bwrdd. Yn ogystal, dan adran 3, rhoddwyd y pŵer i'r Bwrdd wneud unrhyw beth oedd yn gysylltiedig â pherfformio'i swyddogaethau neu'n ffafriol o ran eu perfformio. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i'r Comisiynydd a Gweinidogion Cymru pan gafodd y Bwrdd ei ddiddymu. O ganlyniad i gychwyn adrannau 4 a 11 y Mesur, mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn rhannol, at ddibenion diddymu'r swyddogaethau a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf 1993.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaeth

Y dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

adran 2(2) (yn rhannol)

28 Mehefin 2011

2011/1586 (Cy. 182)

adran 2(3) (yn rhannol)

28 Mehefin 2011

2011/1586 (Cy. 182)

adran 2 (yn llawn)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 3

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 5 a 6

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 7 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 8 i 10

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 12 i 15

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 16 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 17 i 19

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 22 (yn rhannol)

17 Ebrill 2012

2012/1096 (Cy. 135)

adran 23(1) (yn rhannol)

10 Ionawr 2012

2012/46 (Cy.10)

adran 23(4)

10 Ionawr 2012

2012/46 (Cy.10)

adran 23 (yn llawn)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 24

17 Ebrill 2012

2012/1096 (Cy. 135)

Rhan 4, Penodau 2 i 5

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 44

17 Ebrill 2012

2012/1096 (Cy. 135)

Rhan 4, Pennod 8

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

Rhan 4, Pennod 9 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

Rhan 6

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 120(4) (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 134 i 137

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 138 a 139 (yn rhannol)

28 Mehefin 2011

2011/1586 (Cy. 182)

adrannau 138 a 139 (yn llawn)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 140 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 141 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 142 a 143

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 144 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 146 (yn rhannol)

28 Mehefin 2011

2011/1586 (Cy. 182)

adran 146 (yn llawn)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adran 147

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

adrannau 148 a 149

5 Chwefror 2012

2012/223 (Cy.37)

Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21

28 Mehefin 2011

2011/1586 (Cy. 182)

Atodlen 1 (yn llawn)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

Atodlen 2 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11

10 Ionawr 2012

2012/46 (Cy.10)

Atodlen 4 (yn llawn)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

Atodlenni 5 i 9

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

Atodlen 11 (yn rhannol)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)

Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6

28 Mehefin 2011

2011/1586 (Cy. 182)

Atodlen 12 (yn llawn)

1 Ebrill 2012

2012/969 (Cy. 126)