xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1423 (Cy.176) (C.53)

Y GYMRAEG

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012

Gwnaed

29 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012.

Cychwyn

2.  Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Mehefin 2012—

(a)adrannau 4 ac 11;

(b)adran 144(1) i'r graddau mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2); ac

(c)adran 144(3)(a) at ddibenion diddymu isadrannau (2)(a), (3) a (4) o adran 3 o'r Ddeddf honno.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Mai 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n cychwyn darpariaethau yn y Mesur sy'n ymwneud â swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg o hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg. Adrannau 4, 11, 144(1) a 144(3)(a) yw'r darpariaethau perthnasol.

Mae adran 4 y Mesur yn rhoi'r pŵer i'r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef er mwyn hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ac er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae adran 11 yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.

Mae adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn darparu ar gyfer diddymu swyddogaethau a fu gynt yn cael eu harfer gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rhoddodd adran 3 Deddf 1993 swyddogaethau ynghylch hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg i'r Bwrdd. Yn ogystal, dan adran 3, rhoddwyd y pŵer i'r Bwrdd wneud unrhyw beth oedd yn gysylltiedig â pherfformio'i swyddogaethau neu'n ffafriol o ran eu perfformio. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i'r Comisiynydd a Gweinidogion Cymru pan gafodd y Bwrdd ei ddiddymu. O ganlyniad i gychwyn adrannau 4 a 11 y Mesur, mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn rhannol, at ddibenion diddymu'r swyddogaethau a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf 1993.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynRhif O.S.
adran 2(2) (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adran 2(3) (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adran 2 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 31 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 5 a 61 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 7 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 8 i 101 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 12 i 151 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 16 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 17 i 191 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 22 (yn rhannol)17 Ebrill 20122012/1096 (Cy. 135)
adran 23(1) (yn rhannol)10 Ionawr 20122012/46 (Cy.10)
adran 23(4)10 Ionawr 20122012/46 (Cy.10)
adran 23 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 2417 Ebrill 20122012/1096 (Cy. 135)
Rhan 4, Penodau 2 i 51 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 4417 Ebrill 20122012/1096 (Cy. 135)
Rhan 4, Pennod 81 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Rhan 4, Pennod 9 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Rhan 61 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 120(4) (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 134 i 1371 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 138 a 139 (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adrannau 138 a 139 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 140 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 141 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 142 a 1431 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 144 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 146 (yn rhannol)28 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
adran 146 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adran 1471 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
adrannau 148 a 1495 Chwefror 20122012/223 (Cy.37)
Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 2128 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
Atodlen 1 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 2 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 1110 Ionawr 20122012/46 (Cy.10)
Atodlen 4 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlenni 5 i 91 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 11 (yn rhannol)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 628 Mehefin 20112011/1586 (Cy. 182)
Atodlen 12 (yn llawn)1 Ebrill 20122012/969 (Cy. 126)
(2)

1993 p. 38. swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 eu trosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg ar 1 Ebrill 2012 o ganlyniad i gychwyn adran 143(2) Mesur y Gymraeg. Yn ogystal a'r trosglwyddiad hwnnw i'r Comisiynydd, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Bwrdd dan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru ar 1 Ebrill 2012 gan erthygl 3 o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 (O.S. 2012/990 (Cy.130)). Cafodd y gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer roddwyd iddynt gan adran 154 y Mesur.