2012 Rhif 1692 (Cy.218)
Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012
Gwnaed
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 30 ac 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 1, a pharagraff 16 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2012.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru.
Hysbysiadau sy'n ymwneud â chaniatâd i addasu, tynnu ymaith neu amnewid adeileddau neu nodweddion dynodedig2
1
Mae'n rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff 6(3)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (hysbysiadau a roddir mewn modd ar wahân i gais gan y perchennog) nodi'r dyddiad y bwriedir y bydd yr hysbysiad yn cael effaith. Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i hwn fod yn ddyddiad 28 o ddiwrnodau fan leiaf wedi dyddiad dyroddi'r hysbysiad.
2
Caiff y dyddiad y mae'n ofynnol ei bennu dan baragraff (1) fod yn gynt na 28 o ddiwrnodau os yw'r awdurdod cyfrifol yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol mewn argyfwng.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)