Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1692 (Cy.218)

DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012

Gwnaed

28 Mehefin 2012

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2012

Yn dod i rym

20 Gorffennaf 2012

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Hysbysiadau) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru.

Hysbysiadau sy'n ymwneud â chaniatâd i addasu, tynnu ymaith neu amnewid adeileddau neu nodweddion dynodedig

2.—(1Mae'n rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff 6(3)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (hysbysiadau a roddir mewn modd ar wahân i gais gan y perchennog) nodi'r dyddiad y bwriedir y bydd yr hysbysiad yn cael effaith. Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i hwn fod yn ddyddiad 28 o ddiwrnodau fan leiaf wedi dyddiad dyroddi'r hysbysiad.

(2Caiff y dyddiad y mae'n ofynnol ei bennu dan baragraff (1) fod yn gynt na 28 o ddiwrnodau os yw'r awdurdod cyfrifol yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol mewn argyfwng.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 30 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) (“y Ddeddf”) ac Atodlen 1 iddi, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdod llifogydd lleol arweiniol neu fwrdd draenio mewnol ddynodi adeileddau neu nodweddion amgylcheddol sy'n effeithio ar y risg o lifogydd neu erydu arfordirol, hyd yn oed os nad yw'r adeileddau neu nodweddion wedi eu cynllunio neu eu hadeiladu ar gyfer y diben hwnnw.

Unwaith y bydd wedi ei dynodi, ni chaiff perchennog y nodwedd ddynodedig ei haddasu, ei thynnu ymaith na'i hamnewid heb ganiatâd yr awdurdod perthnasol, sef yw hynny naill ai yr awdurdod a ddynododd y nodwedd neu'r awdurdod sydd ers hynny wedi cymryd cyfrifoldeb dros y dynodiad yn unol ag Atodlen 1 i'r Ddeddf (yr “Awdurdod Cyfrifol”). Mae paragraff 6(3)(b) o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn rhoi pŵer i'r Awdurdod Cyfrifol i ddyroddi caniatâd i addasu, tynnu ymaith neu amnewid nodwedd ddynodedig neu adeiledd dynodedig (neu amrywio caniatâd o'r fath neu ei dynnu yn ôl) ar wahân i wrth ymateb i gais gan berchennog (“hysbysiad paragraff 6(3)(b)”). Mae paragraff 16 o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ffurf, cynnwys a dull cyflwyno hysbysiad o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu gofyniad i bob hysbysiad paragraff 6(3)(b) bennu cyfnod hysbysu gofynnol cyn iddo gael effaith, ynghyd ag eithriad i'r gofyniad hwn. Hyd y cyfnod hysbysu penodedig yw 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad dyroddi'r hysbysiad er y caiff Awdurdod Cyfrifol bennu cyfnod hysbysu byrrach os yw'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol mewn argyfwng.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2010 p.29. Mae paragraff 16 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn rhoi pwerau i “the Minister” ac mae paragraff 17 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister” at ddibenion yr Atodlen honno.