- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —
(a)pan fo asiantaeth fabwysiadu wedi cyfeirio achos at y panel mabwysiadu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a
(b)pan fo'r achos yn dod o fewn rheoliad 17(2) o'r Prif Reoliadau.
(2) Mewn achos lle y mae'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D) o'r Prif Reoliadau wedi eu hanfon at y panel mabwysiadu ond bod y panel mabwysiadu heb gyfarfod i ystyried yr achos cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu dynnu'r wybodaeth a'r adroddiadau yn ôl oddi wrth y panel a mynd ati i wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 19(1A) o'r Prif Reoliadau.
(3) Mewn achos lle y mae'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D) o'r Prif Reoliadau wedi eu hanfon at y panel mabwysiadu a bod y panel wedi cyfarfod i ystyried yr achos cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a'i fod —
(a)wedi penderfynu pa argymhelliad i'w wneud ond heb gyfleu'r argymhelliad hwnnw i'r asiantaeth fabwysiadu, neu
(b)yn aros i gael rhagor o wybodaeth oddi wrth yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 18(2)(b) o'r Prif Reoliadau, neu gyngor cyfreithiol yn unol â rheoliad 18(2)(c) o'r Prif Reoliadau,
rhaid i'r panel mabwysiadu fynd ati i wneud ei argymhelliad yn unol â rheoliad 18 o'r Prif Reoliadau, a rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr argymhelliad hwnnw yn unol â rheoliad 19(1) o'r Prif Reoliadau, fel pe na bai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: