- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y DIWYDIANT DŵR, CYMRU A LLOEGR
Gwnaed
6 Awst 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt—
gan adran 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a
gan adran 49(3)(e) a (6) o'r Ddeddf honno, i'r graddau y mae adran 42 o'r Ddeddf honno yn ymwneud ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.
2.—(1) Mae adran 42 o Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012 mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
(2) Ond mae erthygl 2(1) yn ddarostyngedig i erthygl 3.
3.—(1) Yn yr erthygl hon—
mae i “adeilad” (“building”) yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 126 o Ddeddf 1984;
mae i “carthffos” yr ystyr a roddir i “sewer” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984(2);
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991(3);
mae i “draen ochrol” yr ystyr a roddir i “lateral drain” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;
mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
ystyr “hysbysiad adeiladu” (“building notice”) yw hysbysiad a roddir o dan reoliadau 12(2)(a) a 13 o Reoliadau 2010;
ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54 o Ddeddf 1984;
ystyr “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984;
ystyr “hysbysiad diwygio” (“amendment notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 51A o Ddeddf 1984;
ystyr “planiau llawn” (“full plans”) yw planiau sydd wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol at ddibenion adran 16 o Ddeddf 1984 ac yn unol â rheoliadau 12(2)(b) a 14 o Reoliadau 2010;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(4);
ystyr “tystysgrif planiau” (“plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan adran 50 o Ddeddf 1984.
(2) Pan fo carthffos neu ddraen ochrol yn gysylltiedig â gwaith adeiladu—
(a)pan fo hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol neu pan fo planiau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, a hynny cyn 1 Hydref 2012; a
(b)pan fo'r gwaith wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013,
yna mae adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(a) o Ddeddf 1991 at “standards published by the Minister” a'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(b) o Ddeddf 1991 at “those standards” yn gyfeiriadau at yr hysbysiad, y dystysgrif neu'r planiau sy'n berthnasol.
(3) Nid yw adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys i garthffos na draen ochrol sy'n gysylltiedig yn unig ag adeiladau neu estyniadau mewn perthynas â'r gwaith y caniateir ei ddechrau heb y gofyniad o dan Reoliadau 2010 i hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus gael ei roi i awdurdod lleol, neu i blaniau llawn gael eu hadneuo gydag awdurdod lleol.
(4) Nid yw erthygl 3(3) yn gymwys ar ôl 1 Hydref 2013 ac eithrio i garthffos neu ddraen ochrol sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu estyniadau y mae gwaith wedi dechrau ar eu cyfer cyn y dyddiad hwnnw.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
6 Awst 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu bod adran 42 o Ddeddf 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a dim ond mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012.
Mae adran 42 o Ddeddf 2010 yn mewnosod adran 106B yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”). Mae adran 106B yn darparu mai dim ond os yw'r amodau a nodir yn adran 106B(2) a (3) o'r Ddeddf honno wedi eu bodloni y caiff person arfer yr hawl, o dan adran 106(1) o Ddeddf 1991, i gael ei ddraeniau neu ei garthffosydd i ymgysylltu â charthffosydd cyhoeddus. Mae'r amodau hyn yn cynnwys gofyniad i'r person, cyn adeiladu carthffos neu ddraen ochrol, ymrwymo mewn cytundeb gyda'r ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan adran 104 o Ddeddf 1991 i fabwysiadu'r garthffos neu'r draen ochrol.
Mae adran 106B o Ddeddf 1991 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi safonau (mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru) ar gyfer dylunio ac adeiladu carthffosydd a draeniau ochrol. Rhaid i'r holl gytundebau mabwysiadu o dan adran 104 o Ddeddf 1991 (yn unol ag adran 106B o'r Ddeddf honno) gynnwys unrhyw safonau perthnasol, neu wyro oddi wrthynt gyda chydsyniad datganedig y partïon i'r cytundeb.
Mae adran 42 o Ddeddf 2010 hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i adrannau 104, 105 a 112 o Ddeddf 1991.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â chymhwyso adran 106B(4) i garthffosydd neu ddraeniau ochrol sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu sydd wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dygwyd darpariaethau canlynol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth y Ddeddf | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 1 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 2 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 2 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 3 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 4 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 5 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 6 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adrannau 7 i 10 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 11 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Adran 11 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Adran 12 | 1 Tachwedd 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Adran 13 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 14 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 15 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | 2011/95 (C. 4) |
Adran 15 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 16 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 17 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 17 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 18 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Adran 18 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Adran 19 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 20 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 21 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 22 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 23 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 24 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 25 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 26 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 27 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Adrannau 28 a 29 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 30 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adran 30 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | 2012/2000 (C.79) |
Adran 31 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) | |
6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) | |
19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) | |
1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) | |
6 Ebrill 2012 | 2012/879 (C. 25) | |
Adran 33 (yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) | |
Adran 35 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 36 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 36 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 37 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Adrannau 38 a 39 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | 2011/95 (C. 4) |
Adrannau 38 a 39 (y gweddill) | 1 Rhagfyr 2011 | 2011/2856 (C. 101) |
Adrannau 40 ac 41 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adrannau 42 a 43 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 44 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Adran 45 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adrannau 46 a 47 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Yn Atodlen 1— | ||
Paragraffau 15 ac 16 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Paragraff 17 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Atodlen 1 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | 2012/2000 (C.79) |
Yn Atodlen 2— | ||
Paragraffau 1 i 24 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 1 i 24 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraff 25 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Paragraffau 26 a 27 | 6 Ebrill 2012 | 2012/879 (C. 25) |
Paragraff 28 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 31, 32(1) i (3) a (5) i (7), 33 a 34 | 6 Ebrill 2012 | 2012/879 (C. 25) |
Paragraffau 35 ac 36 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 35 ac 36 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraff 37 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 40, 41, 43 a 44 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraff 48 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Paragraff 49 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
Paragraff 49 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 50 i 53 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Paragraff 54 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Paragraff 54 (y gweddill) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Yn Atodlen 4— | ||
Paragraff 1 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27, 30, 31, 32, 33 a 37 (yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 38 i 40, 42 a 43 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
Yn Atodlen 5— | ||
Paragraffau 1 a 2 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Paragraff 4 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
Paragraffau 5 a 6 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: