Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2411 (Cy.261) (C.93)

IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012

Gwnaed

15 Medi 2012

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2012

2.  Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Hydref 2012—

(a)Adran 3 (dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);

(b)Adran 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol);

(c)Adran 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill);

(d)Adran 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd);

(e)Adran 9 (cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol);

(f)Adran 10 (camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol);

(g)Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(h)Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(i)Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(j)Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(k)Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(l)Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; ac

(m)Adran 48 (dyletswydd i adolygu'r Mesur).

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 yn rhestru'r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 1 Hydref 2012.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn gweddill Rhan 1 o'r Mesur sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Byrddau Iechyd Lleol a'r awdurdod lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol (“partneriaid iechyd meddwl lleol”) ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â chynllun y mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer yr ardal honno wedi cytuno arno neu a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru. Mae Rhan 1 o'r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol gwneud asesiad iechyd meddwl sylfaenol o unigolion mewn amgylchiadau penodol.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn gweddill darpariethau'r Mesur.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 18 Mai 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 28 Mai 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 48 Mai 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 58 Mai 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 118 Mai 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 126 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 136 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 146 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 156 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 166 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 176 Mehefin 2012 (yn rhannol)2012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 186 Mehefin 2012 (yn rhannol)2012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 196 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 206 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 216 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 226 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 236 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 246 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 256 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 266 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 276 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 286 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 296 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 306 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 313 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 323 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 332 Ebrill 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 343 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 353 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 362 Ebrill 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 373 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 382 Ebrill 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 393 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 403 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 416 Mehefin 2012 (yn rhannol)2012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 426 Mehefin 2012 (yn rhannol)2012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 438 Mai 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
6 Mehefin 2012 (yn rhannol)2012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 443 Ionawr 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 458 Mai 20122011/3046 (Cy.321) (C.116)
Adran 466 Mehefin 20122012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 476 Mehefin 2012 (yn rhannol)2012/1397 (Cy.169) (C.52)
Adran 53(1)3 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Adran 543 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Atodlen 13 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)
Atodlen 23 Ionawr 2012 (yn rhannol)2011/3046 (Cy.321) (C.116)
2 Ebrill 2012 (yn llawn)

Gweler hefyd adran 55(1) o'r Mesur ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.