2012 Rhif 3095 (Cy.312)

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y person y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn yn berson sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1)(o) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19931 ac a freiniwyd bellach ynddynt2 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012 a daw i rym ar 4 Ionawr 2013.

Pennu Corff Cyhoeddus2

Pennir Corff Adnoddau Naturiol Cymru3 at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Leighton AndrewsY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) caiff Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg bellach wedi'i ddiddymu a throsglwyddwyd y swyddogaeth o roi hysbysiad o dan Ran II o'r Ddeddf i Gomisiynydd y Gymraeg yn rhinwedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweinidogion Cymru bellach) bennu cyrff cyhoeddus at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Corff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Mae chwe Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550(Cy.215));

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441(Cy.145));

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 (O.S. 2004/71(Cy.7)); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2008 (O.S. 2008/1890(Cy.179)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoliadol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio a'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.